Pen y Cymoedd Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Cartref

Croeso i Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Sefydlwyd y Gronfa gan gwmni ynni Vattenfall er budd y cymunedau hynny sydd yn gartref i’w fferm ynni gwynt ar draws blaenau cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon.

Mae gan y Gronfa gyllideb flynyddol o £1.8 miliwn tan 2043, ac mae’n cynnig cyfle eithriadol i bobl leol fuddsoddi ynddyn nhw eu hunain a’u syniadau – gan adeiladu ar bopeth sydd yn dda yn eu cymunedau. Ewch i’r dudalen “Gwnewch Gais am Grant” am ragor o fanylion..

Rheolir y Gronfa gan Gwmni di-elw er Budd Cymunedol sydd yn atebol yn lleol ac yn gwbl annibynnol. Mae gan y Cwmni wyth cyfarwyddwr a thîm o 3 aelod o staff – pob un â chysylltiadau lleol sydd yn meddu ar flynyddoedd o brofiad mewn gwaith cynnal cymunedau. Rydym yma i helpu! Gallwch ddarllen mwy amdanom ni fan hyn.

Rydym yn gobeithio y dewch o hyd i’r rhan fwyaf o’ch cwestiynau ar y wefan, ond os na, tarwch nodyn atom ni enquiries@penycymoeddcic.cymru neu ffoniwch 01685 878785. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych chi.

Lawrlwythiadau

Mae llawer o ddogfennau defnyddiol ar ein tudalennau Lawrlwytho a Chanllawiau a Chysylltiadau – dogfennau megis canllawiau, fersiwn hawdd ei ddarllen o’n Prosbectws, manylion o grantiau a roddwyd, astudiaethau achos, ein polisïau a dyddiadau ar gyfer ein sesiynau galw-mewn.

Ardal y Gronfa

Yn gyffredinol, y cymunedau sy’n gymwys i gael cymorth yw’r rhai yn rhannau uchaf cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’r trefi a’r pentrefi sydd wedi’u cynnwys yn ardal y Gronfa wedi’u rhestru yma. Os ydych yn ansicr a yw eich sefydliad neu syniadau am gynnig yn dod o fewn yr ardal, cysylltwch â ni. Mae’n bosibl i ymgeiswyr fod wedi’u lleoli y tu allan i’r ardal, ond mae’n rhaid i’r gweithgaredd neu’r prosiect arfaethedig gynnwys cymunedau oddi mewn iddi, a bod o fudd uniongyrchol iddynt.

Beth yw blaenoriaethau’r Gronfa?

Datblygwyd Prosbectws y Gronfa yn dilyn ymgynghoriad eang yn lleol. Mae’n rhoi i ni fframwaith cychwynnol, a bydd yn cael ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd. Dymunwn gefnogi syniadau arloesol, datblygiad sgiliau, hyfforddiant a menter ac rydym yn awyddus i glywed ac i drafod eich syniadau chi.

Our Funding Priorities – Prospectus – Pen Y Cymoedd Community Fund (penycymoeddcic.cymru)

Dolenni Cyflym

Cael eu Hysbrydoli

Cliciwch yma i ddarllen astudiaethau achos ac ysbrydoli storïau am y grwpiau, busnesau a gweithgareddau a gefnogir gan y gronfa gymunedol

Cael gwybod mwy...

Newyddion Diweddaraf

Darllenwch y newyddion diweddaraf am Pen y Cymoedd CIC er mwyn cadw lan â’r datblygiadau diweddaraf

RHAGOR O NEWYDDION...

Gwnewch Gais am Gyllid

Dysgwch mwy am y Gronfa, codwch eich pensil a lawr-lwythwch ffurflen gair. Gallwch hefyd gyflwyno eich cais yn electronig.

SUT I YMGEISIO....

Y newyddion diweddaraf

Pen y Cymoedd yn cefnogi Clwb Golff Glyn-nedd gan greu dwy swydd newydd gyda chyllid o £110,000
1024 768 rctadmin

Sefydlwyd Clwb Golff Glyn-nedd yn 1931 ac mae wedi’i leoli yng nghanol Bro’r Sgydau, ardal o harddwch eithriadol, sy’n denu miloedd drwy gydol y flwyddyn. Gyda’r diwydiant golff, fel llawer o rai eraill, yn gwella o gyfyngiadau cyfnod clo COVID 19, gweithiodd y pwyllgor gwirfoddol yn ddiflino gyda chefnogaeth Golff Cymru a Chwmni Cydweithredol Cymru…

Darllen mwy
Canlyniadau Rownd 11 y Gronfa Micro!!
1024 576 rctadmin

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi canlyniadau Cylch 11 y Gronfa Micro. Mae’r gronfa’n dyfarnu £118,000 i 39 o ymgeiswyr, mae hyn yn cynnwys 13 o fusnesau a 26 o grwpiau cymunedol. Unwaith eto, roeddem wrth ein bodd gyda diddordeb ac ymgysylltiad parhaus â’r gronfa – cawsom 57 o gynigion. Gyda’r £118,000 hwn sy’n golygu…

Darllen mwy
Mae Pen y Cymoedd yn cefnogi Blociau Adeiladu a Chanolfan Deulu Resolfen gyda grant o £63,489.95 i gyflawni Prosiect Twf a Meddylfryd
660 542 rctadmin

Bydd y prosiect Twf a Meddylfryd yn darparu gwasanaeth yn benodol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anableddau a heb anableddau a’u teuluoedd. Byddant yn gweithio gyda phlant rhwng 0 a 12 oed i’w helpu i ail-adeiladu eu gwydnwch emosiynol, eu hunan-barch a’u hyder sydd wedi’u distrywio gan y pandemig. Nodau’r prosiect yw gweld:…

Darllen mwy
Mae Pen y Cymoedd yn gyffrous i gyhoeddi dwy wobr Grant Gweledigaeth arall yng nghwm Rhondda
1004 444 rctadmin

Tenis Lawnt y Rhondda – £26,000 Sefydlwyd Clwb Tenis Lawnt y Rhondda ym 1981 a thros y blynyddoedd mae wedi tyfu i ateb galw ac anghenion y cymunedau lleol y maent yn eu cefnogi. Maent wedi bod yn gweithio’n ddiflino dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i gyflawni eu cynlluniau twf a datblygu ar gyfer y…

Darllen mwy
£156,091.92 yn y Gronfa Weledigaeth Buddsoddi i bedwar sefydliad cymunedol
1024 498 rctadmin

Mae Pen y Cymoedd wrth ei fodd yn cyhoeddi £156,091.92 arall yn y Gronfa Weledigaeth Buddsoddi i bedwar sefydliad cymunedol ar draws ardal y gronfa.    Gorfodwyd llawer o leoliadau cymunedol i gau eu drysau yn 2020, gyda llawer yn poeni am sut y byddai dyfodol eu grŵp yn edrych wrth symud ymlaen. Dechreuodd OAP…

Darllen mwy
Mae Afan Lodge Ltd yn chwilio am aelodau bwrdd ychwanegol
629 308 rctadmin

Mae’r Afan Lodge Ltd yn cael ei redeg fel is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Gwmni Buddiannau Cymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd (PyC CIC), gyda’i fwrdd cyfarwyddwyr ei hun i weithredu’r strategaeth a gyrru’r Lodge ymlaen i lwyddiant. Mae PYC CIC wedi bod yn buddsoddi mewn cymunedau a busnesau ar draws rhannau uchaf cymoedd Castell-nedd,…

Darllen mwy
MAE 11eg ROWND Y GRONFA FICRO BELLACH AR AGOR!
1024 560 rctadmin

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm Ddydd Llun 14eg Chwefror 2022. Mae grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol, a busnesau newydd/datblygol yn gymwys i wneud cais am grantiau hyd at £5,000. Mae’r cais ar-lein ar gael yma www.penycymoeddcic.cymru Dysgwch fwy yma: https://penycymoeddcic.cymru/the-micro-fund/ Mae’n llawer gwell gennym fod wedi cael sgwrs gyda chi am eich cynnig…

Darllen mwy
Siop newydd Green Valley yn agor gyda chefnogaeth cyllid Pen y Cymoedd
1024 768 rctadmin

Yr wythnos diwethaf agorodd siop newydd sbon ar Stryd Fawr Treorci arobryn. Mae Green Valley yn edrych yn gwbl anhygoel ac fel cronfa rydym wedi bod yn falch o gefnogi’r busnes newydd hwn gyda chyllid o £16,311 fel cymysgedd o grant a benthyciad ad-daladwy. Yn ogystal â chanolfan ar gyfer y siop ffrwythau a llysiau…

Darllen mwy
Mae gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd Gadair newydd.
1024 576 rctadmin

Fel rhan o ymrwymiad y gronfa i adnewyddu aelodaeth o Fwrdd Pen y Cymoedd, bydd ein Cadeirydd Dave Henderson yn camu i lawr o Fwrdd Pen y Cymoedd ym mis Mehefin 2022. Felly, yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol diweddar, etholwyd Cadeirydd newydd gennym, Victoria Bond ar gyfer y flwyddyn nesaf. Cymerodd Dave Henderson yr awenau…

Darllen mwy
Newidiadau i’r BWRDD
1024 576 rctadmin

Y mis hwn rydym yn croesawu dau aelod newydd o’r Bwrdd, Emma Shepherd a gafodd ei geni a’i magu yng Nghwm Cynon sy’n byw ym Mhontypridd ar hyn o bryd, ac mae hi ar hyn o bryd yn arwain ar gyfathrebu, digwyddiadau ac ymgysylltu ar gyfer rhaglen datblygu cymunedol fwyaf Cymru sy’n seiliedig ar asedau,…

Darllen mwy