Pen y Cymoedd Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Cartref

Croeso i Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Sefydlwyd y Gronfa gan gwmni ynni Vattenfall er budd y cymunedau hynny sydd yn gartref i’w fferm ynni gwynt ar draws blaenau cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon.

Mae gan y Gronfa gyllideb flynyddol o £1.8 miliwn tan 2043, ac mae’n cynnig cyfle eithriadol i bobl leol fuddsoddi ynddyn nhw eu hunain a’u syniadau – gan adeiladu ar bopeth sydd yn dda yn eu cymunedau. Ewch i’r dudalen “Gwnewch Gais am Grant” am ragor o fanylion..

Rheolir y Gronfa gan Gwmni di-elw er Budd Cymunedol sydd yn atebol yn lleol ac yn gwbl annibynnol. Mae gan y Cwmni wyth cyfarwyddwr a thîm o 3 aelod o staff – pob un â chysylltiadau lleol sydd yn meddu ar flynyddoedd o brofiad mewn gwaith cynnal cymunedau. Rydym yma i helpu! Gallwch ddarllen mwy amdanom ni fan hyn.

Rydym yn gobeithio y dewch o hyd i’r rhan fwyaf o’ch cwestiynau ar y wefan, ond os na, tarwch nodyn atom ni enquiries@penycymoeddcic.cymru neu ffoniwch 01685 878785. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych chi.

Lawrlwythiadau

Mae llawer o ddogfennau defnyddiol ar ein tudalennau Lawrlwytho a Chanllawiau a Chysylltiadau – dogfennau megis canllawiau, fersiwn hawdd ei ddarllen o’n Prosbectws, manylion o grantiau a roddwyd, astudiaethau achos, ein polisïau a dyddiadau ar gyfer ein sesiynau galw-mewn.

Ardal y Gronfa

Yn gyffredinol, y cymunedau sy’n gymwys i gael cymorth yw’r rhai yn rhannau uchaf cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’r trefi a’r pentrefi sydd wedi’u cynnwys yn ardal y Gronfa wedi’u rhestru yma. Os ydych yn ansicr a yw eich sefydliad neu syniadau am gynnig yn dod o fewn yr ardal, cysylltwch â ni. Mae’n bosibl i ymgeiswyr fod wedi’u lleoli y tu allan i’r ardal, ond mae’n rhaid i’r gweithgaredd neu’r prosiect arfaethedig gynnwys cymunedau oddi mewn iddi, a bod o fudd uniongyrchol iddynt.

Beth yw blaenoriaethau’r Gronfa?

Datblygwyd Prosbectws y Gronfa yn dilyn ymgynghoriad eang yn lleol. Mae’n rhoi i ni fframwaith cychwynnol, a bydd yn cael ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd. Dymunwn gefnogi syniadau arloesol, datblygiad sgiliau, hyfforddiant a menter ac rydym yn awyddus i glywed ac i drafod eich syniadau chi.

Our Funding Priorities – Prospectus – Pen Y Cymoedd Community Fund (penycymoeddcic.cymru)

Dolenni Cyflym

Cael eu Hysbrydoli

Cliciwch yma i ddarllen astudiaethau achos ac ysbrydoli storïau am y grwpiau, busnesau a gweithgareddau a gefnogir gan y gronfa gymunedol

Cael gwybod mwy...

Newyddion Diweddaraf

Darllenwch y newyddion diweddaraf am Pen y Cymoedd CIC er mwyn cadw lan â’r datblygiadau diweddaraf

RHAGOR O NEWYDDION...

Gwnewch Gais am Gyllid

Dysgwch mwy am y Gronfa, codwch eich pensil a lawr-lwythwch ffurflen gair. Gallwch hefyd gyflwyno eich cais yn electronig.

SUT I YMGEISIO....

Y newyddion diweddaraf

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod: Er gwaethaf y dirwasgiad mae pum busnes a sefydlwyd ac a redir gan fenywod yn y cymoedd yn ffynnu, diolch yn rhannol i gefnogaeth cronfa gymunedol Pen y Cymoedd.
1024 577 rctadmin

O frand gofal croen i ddigwyddiad beicio mynydd i fenywod yn unig a chwmni seidr i wasanaeth cymorth i deuluoedd, mae’r busnesau hyn, i gyd wedi’u sefydlu, o fewn perchnogaeth ac yn cael eu rhedeg gan fenywod yng nghanol cymoedd Cymru, yn ffynnu, yn dilyn buddsoddiad gan gronfa gymunedol fferm wynt Pen y Cymoedd. Mae…

Darllen mwy
Myfyrdodau am llwyddiant prosiect 4 mlynedd yn ariannu Ffatri Celfyddydau, Rhondda
686 344 rctadmin

Roedden ni newydd dalu’r rhandaliad olaf o grant 4 blynedd i Ffatri Gelfyddydau a chael adroddiad terfynol. Rydym wedi gwirioni gyda’u hymrwymiad i’r prosiect a’r gwahaniaeth y mae wedi’i wneud, ac rydym yn dymuno pob llwyddiant parhaus iddynt: 1. Gofynnwyd am fuddsoddiad i gwblhau eu cynlluniau i fod yn ganolfan fentrus gynaliadwy i’r gymuned gyfan.…

Darllen mwy
Grŵp tirwedd a bywyd gwyllt Saith Arches
621 506 rctadmin

Pan gysylltodd Grŵp Tirwedd a Bywyd Gwyllt Saith Arches â’r gronfa ym mis Mawrth 2022, roeddent yn grŵp newydd ei sefydlu sy’n ceisio gwella ac adfer y llwybrau cerdded, llwybrau, a mannau agored cyhoeddus o amgylch Cymmer, Afan. Mae’r grŵp yn dod â gwirfoddolwyr at ei gilydd sydd â diddordeb mewn gwella’r amgylchedd lleol ac…

Darllen mwy
Yr wythnos hon ym mywyd Pen y Cymoedd
1024 1024 rctadmin

Mae’r amrywiaeth o’r hyn rydyn ni’n cael gwneud, gorfod gwneud, a chael yr anrhydedd o wneud yn ystod wythnos waith ym Mhen y Cymoedd yn anhygoel. Dechreuon ni’r wythnos drwy ymweld â stiwdio prosiect Our Space / Ein Lle Ni am ragolwg slei o Dolby Atmos yn recordio band pres fel rhan o brosiect cyffrous…

Darllen mwy
ROWND CRONFA MICRO 13 YN AGOR
1024 512 rctadmin

Mae 13eg rownd y Gronfa Micro yn lansio ar Ragfyr 1af. Mae’n ymddangos bod yr amser ers i ni lansio Rownd 1 ar ddiwedd 2016 a rhoi £1.3 miliwn i 392 o sefydliadau a busnesau cymunedol wedi pasio yn blethiad llygad. Gallwch gyflwyno cais am grant o hyd at £5,000 i gynorthwyo prosiect, gwella, neu…

Darllen mwy
Costau Byw
1024 560 rctadmin

Mae Pen y Cymoedd wedi ymrwymo i’r cymunedau yn ardal y gronfa, ac rydym yn cydnabod yn dilyn llifogydd, y pandemig a’r argyfwng costau byw ac ynni bellach, fod cymunedau’n wynebu cyfnod ansicr ac anodd. Mae’r galw am gyngor ariannol a dyledion yn ogystal â chefnogaeth iechyd meddwl a lles, banciau bwyd a dillad a…

Darllen mwy
Canlyniadau Rownd 12 y Gronfa Micro
1024 282 rctadmin

Cawsom ein llethu gan 87 o geisiadau’r rownd hon, y nifer uchaf o geisiadau ers Rownd 2 ac er bod hynny wedi gwneud ein gwaith ychydig yn anoddach, rydym wrth ein boddau i gyhoeddi 46 o grantiau Cronfa Micro i fusnesau lleol a grwpiau cymunedol, gan fuddsoddi £137,750 yn ardal y gronfa. O flodeuwyr i…

Darllen mwy
Micro Fund Round 12 results
1024 282 rctadmin

We were overwhelmed with 87 applications this round, the highest number of applications since Round 2 and whilst that made our job a little trickier, we are thrilled to announce 46 Micro Fund grants to local businesses and community groups, investing £137,750 in the fund area. From florists to coffee, garages to gyms, handcrafted goods…

Darllen mwy
Mae Pen y Cymoedd yn edrych ymlaen yn eiddgar i rannu manylion cyllid cymunedol diweddar yng Nghwm Nedd o £430,000.
1024 512 rctadmin

Mae Neuadd Les Y Glöwr Resolfen wedi derbyn £41,000 tuag at Astudiaeth Ddichonoldeb helaeth ar gyfer Adfer Lles y Glowyr Resolfen. Gyda chyllid cyfatebol eu hunain ac o Moondance a Chronfa Adnewyddu Cymunedol y DU rydym yn falch o gefnogi’r astudiaeth ddichonoldeb i’w helpu i ddeall beth sy’n bosib ar gyfer dyfodol yr adeilad. Bydd…

Darllen mwy
Hearts Announcement
1024 586 rctadmin

­Mae C­ronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn gwasanaethu rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chwm Cynon. Mae’r Gronfa Gymunedol wedi dyfarnu arian ar gyfer sawl diffibriliwr gyda grwpiau cymunedol ac adeiladau yn yr ychydig flynyddoedd cyntaf ond gan gydnabod y gallem fod yn fwy rhagweithiol fe wnaethom gysylltu â Calon Hearts, a…

Darllen mwy