Pen y Cymoedd Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Cartref

Croeso i Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Sefydlwyd y Gronfa gan gwmni ynni Vattenfall er budd y cymunedau hynny sydd yn gartref i’w fferm ynni gwynt ar draws blaenau cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon.

Mae gan y gronfa gyllideb flynyddol o £1.8 miliwn y flwyddyn yn gysylltiedig â mynegai, ac wrth i fynegai cysylltiedig olygu ei bod ynghlwm wrth gyfradd chwyddiant, mae’n tyfu bob blwyddyn ac yn 2024 roedd yn £2.4 miliwn. Mae’r gronfa yn cynnig cyfle anhygoel i bobl leol fuddsoddi ynddynt eu hunain a’u syniadau – gan adeiladu ar bopeth sydd orau yn eu cymunedau. Ewch i’r tudalennau ‘Gwneud Cais am Gyllid’ i gael gwybod mwy.

Rheolir y Gronfa gan Gwmni di-elw er Budd Cymunedol sydd yn atebol yn lleol ac yn gwbl annibynnol. Mae gan y Cwmni wyth cyfarwyddwr a thîm o 3 aelod o staff – pob un â chysylltiadau lleol sydd yn meddu ar flynyddoedd o brofiad mewn gwaith cynnal cymunedau. Rydym yma i helpu! Gallwch ddarllen mwy amdanom ni fan hyn.

Rydym yn gobeithio y dewch o hyd i’r rhan fwyaf o’ch cwestiynau ar y wefan, ond os na, tarwch nodyn atom ni enquiries@penycymoeddcic.cymru neu ffoniwch 01685 878785. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych chi.

Lawrlwythiadau

Mae llawer o ddogfennau defnyddiol ar ein tudalennau Lawrlwytho a Chanllawiau a Chysylltiadau – dogfennau megis canllawiau, fersiwn hawdd ei ddarllen o’n Prosbectws, manylion o grantiau a roddwyd, astudiaethau achos, ein polisïau a dyddiadau ar gyfer ein sesiynau galw-mewn.

Ardal y Gronfa

Yn gyffredinol, y cymunedau sy’n gymwys i gael cymorth yw’r rhai yn rhannau uchaf cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’r trefi a’r pentrefi sydd wedi’u cynnwys yn ardal y Gronfa wedi’u rhestru yma. Os ydych yn ansicr a yw eich sefydliad neu syniadau am gynnig yn dod o fewn yr ardal, cysylltwch â ni. Mae’n bosibl i ymgeiswyr fod wedi’u lleoli y tu allan i’r ardal, ond mae’n rhaid i’r gweithgaredd neu’r prosiect arfaethedig gynnwys cymunedau oddi mewn iddi, a bod o fudd uniongyrchol iddynt.

Beth yw blaenoriaethau’r Gronfa?

Datblygwyd Prosbectws y Gronfa yn dilyn ymgynghoriad eang yn lleol. Mae’n rhoi i ni fframwaith cychwynnol, a bydd yn cael ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd. Dymunwn gefnogi syniadau arloesol, datblygiad sgiliau, hyfforddiant a menter ac rydym yn awyddus i glywed ac i drafod eich syniadau chi.

Our Funding Priorities – Prospectus – Pen Y Cymoedd Community Fund (penycymoeddcic.cymru)

Dolenni Cyflym

Cael eu Hysbrydoli

Cliciwch yma i ddarllen astudiaethau achos ac ysbrydoli storïau am y grwpiau, busnesau a gweithgareddau a gefnogir gan y gronfa gymunedol

Cael gwybod mwy...

Newyddion Diweddaraf

Darllenwch y newyddion diweddaraf am Pen y Cymoedd CIC er mwyn cadw lan â’r datblygiadau diweddaraf

RHAGOR O NEWYDDION...

Gwnewch Gais am Gyllid

Dysgwch mwy am y Gronfa, codwch eich pensil a lawr-lwythwch ffurflen gair. Gallwch hefyd gyflwyno eich cais yn electronig.

SUT I YMGEISIO....

Y newyddion diweddaraf

Newyddion cyffrous! Mae gan dîm Pen y Cymoedd swyddfa newydd.
1015 720 rctadmin

Rydym yn falch iawn o gael ein lleoli ym Mharc Busnes Treorci. Mae’n ofod gwych gyda llawer o grwpiau a busnesau lleol i gyd wedi’u lleoli yno gan ei wneud yn lle lleol gwerthfawr nawr. Pam rydyn ni’n symud? Pan ddechreuodd y gronfa, y cynllun oedd symud o gwmpas ardal budd y gronfa bob rhyw…

Darllen mwy
Mae Interlink RhCT yn parhau â’u cymorth i gymunedau yn ardal cronfa Pen y Cymoedd gyda chyfraniad o £80,856 dros 3 blynedd.
587 610 rctadmin

Ers 6 blynedd, mae’r Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol (yng Nghastell-nedd ac Afan) ac Interlink RhCT (yng nghymoedd Rhondda a Chynon) fel ei gilydd, wedi bod yn cefnogi cymunedau lleol yn ardal y gronfa. Maent wedi cynnig cymorth pwrpasol, ac rydym bellach wedi cytuno i gynnig cyfraniad o £80,856 i Interlink RhCT am y tair blynedd nesaf.…

Darllen mwy
DYFARNU GRANT O £46,500 I GTFM TUAG AT EU PROSIECT ‘VALLEYS GO DIGITAL’.
1024 753 rctadmin

Derbyniodd GTFM grant i osod 5 trosglwyddydd radio digidol yn ardal cronfa Pen y Cymoedd. Nodau’r prosiect yw hwyluso – mewn dull cynaliadwy – y dasg o symud GTFM a gwasanaethau cymunedol eraill i’r cyfrwng radio digidol, cyflwyno darpariaeth signal fwy cyflawn i RhCT, a defnyddio manteision radio digidol (DAB) i ddarlledu 20 neu ragor…

Darllen mwy
Dyfarnu £21,243.85 i Glwb Rygbi Treherbert ar gyfer eu prosiect ‘Sport goes green’!
647 513 rctadmin

Sefydlwyd Clwb Rygbi Treherbert bron i 150 o flynyddoedd yn ôl ac mae’n llawn hanes mwyngloddio. Mae’r clwb yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr lleol er budd y gymuned leol ac mae yng nghanol Tynewydd ym mhen uchaf cwm Rhondda. Eu prif nod yw annog a chynyddu cymryd rhan mewn rygbi yn ward Treherbert, ac…

Darllen mwy
PyC yn falch iawn o gyhoeddi cymorth ariannol 3 blynedd i Tempo Time Credits ar gyfer rhaglen newydd Cynon Valley Credits
496 529 rctadmin

Bydd y cyllid o £127,260 dros 3 blynedd yn galluogi Tempo i ddatblygu prosiect gwirfoddoli blaenllaw yng Nghwm Cynon, gan gynnig cyfleoedd i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol ac agored i niwed, unigolion o oedran gweithio, a phobl ifanc gymryd rhan mewn gwirfoddoli cymunedol ac ymgynghori. Bydd y cyllid yn creu rôl Swyddog Datblygu amser llawn…

Darllen mwy
Dyfarnu £23,951 i Glwb Rygbi a Chlwb Criced Resolven i osod Paneli Solar, System Storio Batris, a Phwyntiau Gwefru EV.
581 683 rctadmin

Cysylltodd Clwb Rygbi a Chlwb Criced Resolven â’r gronfa i wneud cais am gyllid i osod Paneli Solar, System Storio Batris a Phwyntiau Gwefru EV – materion a nodwyd fel blaenoriaethau i’r clwb yn dilyn Arolwg Ynni a gynhaliwyd ganddynt. Roedd y clwb eisoes wedi gweithredu’r holl fesurau brys a nodwyd gan yr arolwg, ac…

Darllen mwy
Canlyniadau Rownd 16 y Gronfa Micro
1024 576 rctadmin

Roeddem wrth ein bodd o dderbyn dros 105 o geisiadau ac rydym wedi gallu cynnig grantiau i 40 o fusnesau a grwpiau cymunedol ar draws ardal y gronfa, gan fuddsoddi £149,832.05 arall yn y gymuned leol. Rydym yn dymuno pob Ilwyddiant i’r holl sefydliadau a busnesau gyda’u gweithgaredd. Mae’r rownd nesaf yn agor ym mis…

Darllen mwy
Rôl Newydd Shayla
923 695 rctadmin

Ymunodd Shayla â’r gronfa yn 2021, a bellach mae ei rôl wedi newid i fod yn Swyddog Cefnogi’r Gronfa dros y Gymuned. Mae Shayla wedi dangos ei bod yn angerddol dros weithio gyda’r gymuned a’r trydydd sector, a bydd yn darparu cyngor ac arweiniad o’r radd flaenaf, yn arwain ar reoli grantiau bychan i grwpiau…

Darllen mwy
Cyflwyno ein haelod newydd o’r staff – Guy Smith
683 580 rctadmin

Mae Guy yn ymuno â ni fel Rheolwr Cyllid a Chronfa, gyda ffocws ar redeg y gronfa a chefnogi mentrau sy’n gwneud cais am gymorth. Mae gan Guy flynyddoedd o brofiad yn cefnogi’r trydydd sector, ynghyd ag angerdd dros ddatblygu cymunedol yn gyffredinol, ac mae’n edrych ymlaen at ymuno â’r gronfa. Bydd Kate, Holly a…

Darllen mwy
Afan Lodge
750 564 rctadmin

Afan Lodge   Heddiw, gallwn ni gadarnhau fod ein proses ymgynghori gyda’r staff yn Afan Lodge wedi dod i ben. Nid oes ateb ymarferol wedi ei chanfod i achub y busnes fel y mae’n gweithredu ar hyn o bryd, ac felly, bydd Afan Lodge yn cau i’r cyhoedd ar Ddydd Sul 3ydd Tachwedd. Diwrnod olaf…

Darllen mwy