SCOOBS DOGGY DAY CARE, LLETYA A THRIN A GOLCHI

576 1024 rctadmin
CRONFA GRANTIAU BYCHAIN – £5,000
Roedd Scoobs Doggy Day Care yn anelu at gynnig gwasanaeth gofal anifeiliaid dibynadwy, hyblyg, cynhwysfawr, fforddiadwy, cyfeillgar i berchnogion cŵn yng nghartref yr ymgeisydd – wedi’i dargedu at gwsmeriaid o fewn 15 milltir o Hirwaun.  Eu nod yw ehangu’r busnes maes o law i gyflogi o leiaf un person lleol.  Mae’r gwasanaethau yn cynnwys lletya, trin a golchi, cerdded, codi a gollwng, crèche cŵn ar gyfer y rhai sy’n gweithio, mynd i apwyntiadau ysbyty ac ati. 
Roedd hwn yn gynnig datblygedig – roedd yr ymgeisydd wedi ystyried materion yn ymwneud â sefydlu busnes o’r math hwn yn glir iawn, wedi gwneud ymchwil ac wedi trefnu cynllun busnes.
“Dechreuodd y busnes ym mis Mai 2018, ar ôl cael fy ngwneud yn ddi-waith penderfynais ddechrau busnes ac mae hwn nawr yn fy nghyflogi i yn amser llawn ac yn cyflogi person ifanc yn rhan-amser. Rwy’n darparu gwasanaethau trin a golchi, cerdded a chodi a gollwng i gŵn. Rwy’n darparu man diogel ar gyfer trin a golchi anifeiliaid anwes a hyd yma, mae’r busnes a’r cwsmeriaid rwyf wedi’u datblygu wedi rhagori ar fy nisgwyliadau. Rwy’n ddiolchgar iawn am y gefnogaeth ariannol gan Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd. Roeddwn yn gallu ei wario ar ddatblygu’r ystafell wlyb, hysbysebu ac arwyddion ac uwchraddio adeilad rwy’n ei ddefnyddio ar gyfer trin a golchi. Gobeithio bydd y busnes yn parhau i fynd o nerth i nerth.” – Amanda (Scoobs)
Rydym mor falch bod pethau wedi mynd mor dda i Amanda ac mae hi bellach yn cael ei chyflogi’n llawn gan y busnes hwn yn ogystal â chynnig gwasanaeth dibynadwy a chyfeillgar i berchnogion anifeiliaid anwes lleol. Mae’n wych gweld sut y gwnaeth hi wedi addasu pan ddaeth costau i mewn yn wahanol a defnyddio’r grant roeddem yn gallu’i gynnig er mantais lawn. Dymunwn bob llwyddiant parhaus iddi – Pen y Cymoedd
 
Sut wnaeth y prosiect hwn fodloni blaenoriaethau’r gronfa:
Amrywiaeth o swyddi cynaliadwy o ansawdd / menywod a gwaith – cynyddu cyfran y menywod sy’n economaidd weithgar / datblygu cymunedau mwy mentrus ac entrepreneuraidd.