RHEDEG CYMRU £2,500 – CRONFA GRANTIAU BYCHAIN – AWST 2017 MaeRhedeg Cymru yn Rhaglen Rhedeg Cymdeithasol sy’n ‘anelu at helpu i ail-lunio ac adfywio cymunedau yng Nghymru; gan gyfrannu at greu Cymru iach a chymdeithasol gydlynus a sicrhau bod 18% o boblogaeth oedolion Cymru yn rhedeg o leiaf unwaith yr wythnos’. Eu gweledigaeth gyffredinol yw creu newid parhaol ar draws Cymru, gan roi i bobl yr offer i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w hiechyd. Roeddent wedi cynnal gwaith mapio a nododd ddiffyg o ran cyfleoedd rhedeg cymdeithasol yn yr ardal hon. Mae nifer o glybiau rhedeg sefydledig sy’n gysylltiedig ag Athletau Cymru, ond mae rhedwyr sy’n ddechreuwyr yn aml yn teimlo nad ydynt ar y safon briodol i ymuno, neu nad yw clybiau yn darparu ar eu cyfer hwy. Mae grwpiau rhedeg cymdeithasol yn wahanol i glybiau cysylltiedig – maent yn fwy anffurfiol ac yn darparu’r cyfle cychwynnol hwnnw i ddechrau arni. Drwy ymchwil helaeth ar draws grwpiau presennol a gweithio gyda grwpiau newydd nodwyd mai rhwystr parhaus yw arian ar gyfer arweinwyr i fod yn gymwys mewn Arweinyddiaeth mewn Ffitrwydd Rhedeg (LiRF). Mae’r cwrs undydd yn galluogi Arweinwyr Rhedeg i ddarparu sesiynau diogel a hwyliog i grwpiau aml-allu a darparu cyngor a chymorth i redwyr newydd, yn ogystal â datblygu llwybrau ar gyfer y rhai sy’n dymuno symud ymlaen. Mae’n canolbwyntio ar ddeall a goresgyn rhwystrau i gymryd rhan mewn rhedeg a sut i gynyddu cyfranogiad gan y rhai nad ydynt yn draddodiadol wedi’u denu i glwb rhedeg ac felly dyfarnwyd Grant Cronfa Bychain iddynt o £2,500 i nodi a hyfforddi 18 o arweinwyr gydag o leiaf 200 o bobl yn rhedeg yn rheolaidd gyda’r holl fanteision iechyd a llesiant a ddaw yn sgil hynny, a bydd rhwydwaith cynaliadwy o grwpiau rhedeg cymdeithasol o fewn ardal y gronfa wedi’i greu. Roedd hwn yn gynnig clir gyda chanlyniadau diriaethol, gan ddefnyddio dull y profwyd yr oedd yn gweithio. Roedd ganddo’r potensial mawr i sicrhau manteision iechyd a llesiant sylweddol a chynaliadwy yn ardal fuddiant y Gronfa. “Galluogodd y grant o’r Gronfa Bychain ni i ddarparu cymhwyster Arweinyddiaeth mewn Ffitrwydd Rhedeg i 18 o unigolion yn Hirwaun a Phenderyn. O ganlyniad rydym wedi sefydlu dau grŵp rhedeg yn y lleoliadau hynny a chynyddu sgiliau ‘arweinydd llwybrau’ a fydd yn arwain rhedeg yn y mynyddoedd yn y flwyddyn newydd. Yn dilyn grŵp Penderyn rydym hefyd yn gobeithio gweld grŵp bygis rhedeg o Benderyn yn cael ei sefydlu.” – Hannah Phillips (Gweithredydd Rhedeg Rhedeg Cymru) “Mae’r arweinwyr rhedeg sydd newydd gymhwyso naill ai yn arwain neu’n cefnogi gweithgaredd rhedeg yn yr ardal. Mae rhedeg yn parhau i fynd drwy dwf digynsail ac mae angen arweinwyr rhedeg cymwys i sicrhau bod y twf hwn yn cael ei gynnal a’i barhau, gan arwain gobeithio at newid parhaol ledled Cymru, gan roi i bobl yr offer i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w hiechyd a’u llesiant. Ar wahân i’r arian hwn mae Parkrun nawr wedi’i sefydlu ym Mharc Aberdâr a’r hyn yr ydym yn ei weld yw y bydd pob digwyddiad Parkrun newydd yn gweld grwpiau rhedeg newydd yn cael eu creu a bydd yr arweinwyr sydd newydd gymhwyso yn yr ardal yn sicrhau bod y grwpiau hyn yn gynaliadwy ac yn ddiogel.” – Gareth Hall (Rhedeg Cymru) Roeddem ond yn gallu cyllido’r prosiect hwn yn rhannol a chafodd hyn effaith ar y prosiect gan nad oeddent yn gallu darparu hyfforddiant i gynifer o oedolion ag yr oeddent wedi gobeithio ac mae galw cyson am y cymhwyster hwn gyda nhw. Fodd bynnag, maent wedi cynyddu sgiliau 18 o bobl leol yn llwyddiannus ac mae hyn wedi arwain at grwpiau rhedeg gweithredol gyda phobl yn rhedeg bob noson o’r wythnos. Byddant yn parhau i gefnogi’r 18 o Arweinwyr Rhedeg hyn drwy’r Gweithredydd Rhedeg lleol ac yn credu bod y prosiect wedi bod yn llwyddiant mawr. Dymunwn y gorau iddynt hwy a phawb sy’n cymryd rhan yn y grwpiau rhedeg newydd. |
Mae Pen y Cymoedd yn falch o fod wedi cefnogi Treorchy Local Markets yn ddiweddar, busnes yn Nhreorci, Rhondda Fawr gyda grant y Gronfa Weledigaeth o £12,885.20. Mae Treorchy Local Markets yn rhedeg Marchnad Cynnyrch a Chrefftau Lleol ar 2il ddydd Sadwrn pob mis gan gynnig cynnyrch lleol ffres a chrefftau a gynhyrchir yn lleol. Mae hefyd yn cynnig i unig fasnachwyr a busnesau bach lleol lwyfan rhad i werthu eu cynnyrch a chynyddu nifer yr ymwelwyr â Stryd Fawr Treorci. Maent hefyd yn ehangu gyda marchnadoedd ar y Sul, marchnadoedd Nadolig a llawer o ddigwyddiadau posibl eraill ar draws y flwyddyn. Roedd y cynnig i ni wedi’i ymchwilio’n dda ac yn dangos tystiolaeth. Yn ogystal â chynnig cyfleoedd ar gyfer cynhyrchwyr, mae’r prosiect yn arwain at fwy o fasnachu ar gyfer masnachwyr sefydledig Treorci, yn annog ac yn hyrwyddo busnesau o gymunedau eraill yr Ardal Fuddiant ac yn gwneud defnydd da a chreadigol o safle nas defnyddiwyd llawer arno yn y flaenorol. Mae rhaglen weithgareddau’r farchnad ar gyfer 2019 yn uchelgeisiol ond yn gyffrous. Gwnaethant gais i’r gronfa ar gyfer offer hanfodol i’r safle gan gynnwys 22 o bebyll, baneri, byrddau a chadeiriau a generadur. Bydd yr offer a ariennir ar gael i grwpiau cymunedol a’r Siambr Fasnach eu defnyddio pan nad yw marchnadoedd yn digwydd ac yn wir mae’r offer eisoes cael eu rhoi ar fenthyg ar gyfer yr Orymdaith Nadolig y penwythnos hwn. Mae’r cynhwysydd storio a ariannwyd fel rhan o’r grant hwn yn mynd i gael ei baentio gan gyfranogwyr Project 42 yng Nghlwb Bechgyn a Merched Treorci a Chwmparc gyda ‘Marchnadoedd Treorci’ mewn arddull graffiti. |
https://penycymoeddcic.cymru/wp-content/uploads/2018/12/penderyn-.jpg
960
719
rctadmin
rctadmin
https://secure.gravatar.com/avatar/456a96fd796a46b558e74ecc3c0c3440?s=96&d=mm&r=g