Cronfa Weledigaeth Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd o £81,435.

1024 506 rctadmin

Mae plant a phobl ifanc ym Mhentre yn edrych ymlaen at gael llawer o hwyl gyda chwaraeon – diolch i grant Cronfa Weledigaeth Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd o  £81,435. Rydym yn falch iawn o gyhoeddi’r dyfarniad hwn i Ganolfan Pentre, i gefnogi gosod Ardal Gemau Aml-Ddefnydd (MUGA) yn agos at y lleoliad cymunedol poblogaidd. Gall llawer o weithgareddau chwaraeon ffurfiol ac anffurfiol gael eu cynnal mewn MUGA, a gellir eu defnyddio gan bobl ifanc o bob oed. Bydd y cyfleuster newydd yn lle ble gall pobl ifanc gyfarfod, chwarae, gwneud ffrindiau a chymdeithasu yn ddiogel – a bydd ei wyneb caled yn ei gwneud yn bosibl i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn gymryd rhan mewn gweithgareddau neu dreulio amser gyda’u ffrindiau. Bydd hefyd yn hyrwyddo ymarfer corff mewn ffordd ddifyr a hwyliog! Argymhellir y dylai plant rhwng 5-18 mlwydd oed gymryd rhan mewn 60 munud o ymarfer corff bob dydd – a bydd llawer o gyfle bellach ym Mhentre i wneud hynny. Yr unig beth sydd ei angen yw pêl ac ychydig o ffrindiau! Dywedodd Buffy Williams yng Nghanolfan Pentre, “Rydym wrth ein bodd bod Pen y Cymoedd yn cefnogi ein prosiect MUGA, bydd yr Ardal Gemau Aml-Ddefnydd hon yn ychwanegiad gwych i ardal y parc, cymuned Pentre a’r ardal gyfagos. Bydd gwaith adeiladu yn dechrau ym mis Mawrth 2019. Bydd y man gemau aml-ddefnydd yn cymryd lle pwll segur adfeiliedig y parc, a bydd yn agored 365 diwrnod y flwyddyn yn darparu chwaraeon aml-ddefnydd. Rydym yn llawn cyffro ac yn edrych ymlaen at gwblhau’r prosiect hwn.”  Pam y cefnogwyd y cais hwn?ü Daeth y cynnig gan bobl ifanc eu hunain ac fe’i ategwyd gan dystiolaeth o ymgynghoriad lleol helaeth i ddarganfod beth yr oedd pobl am ei gael ac i asesu’r gefnogaeth.ü Mae Canolfan Pentre yn grŵp sefydledig a chymwys, sy’n chwarae rôl ganolog yn y gymuned ac yn cael ei defnyddio’n gyson gan bobl o bob oed. ü Mae’r gofod lle y bydd y MUGA yn cael leoli yn gyfagos i’r ganolfan ac o fewn golwg iddi a bydd yn ychwanegiad poblogaidd i’r ystod o weithgareddau a gynigir.ü Bydd y cyfleuster yn cael ei gynnal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn y tymor hwy