MEN’S SHED / GROW RHONDDA – £11,538

532 378 rctadmin

Dechreuodd Grow Rhondda fel prosiect Men’s Shed gan ddefnyddio rhagnodi cymdeithasol mewn partneriaeth â meddygon teulu’r Rhondda a chysylltwyr cymunedol yn Interlink i ddatblygu rhwydwaith o ardaloedd tyfu o amgylch y Rhondda uchaf ac yn ystod y cyfnod clo cynigwyd y cyfle iddynt gymryd prydles ar y cyn Arts Surgery yn Nhynewydd a gyda chefnogaeth gan y landlord RHA. Bydd y cyllid gan PyC yn talu cyflogau staff am 2 flynedd, costau gweithwyr sesiynol a pheth offer prosiect a marchnata. Bydd hefyd yn talu rhai costau hyfforddi i gyfranogwyr y prosiect a hoffai hyfforddiant ffurfiol. Mae gan y dyfarniad cyllid cymedrol hwn y potensial i effeithio ar lawer o bobl yn y sefydliad hwn a chaniatáu iddynt ddatblygu a thyfu’r model a ddefnyddir i redeg y sefydliad gan sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y grŵp, rydym yn dymuno’r gorau iddynt i gyd ac yn edrych ymlaen at weld sut mae pethau’n datblygu