Dyfarnu £13,700 i Glwb Rygbi Abercwmboi

1024 682 rctadmin

Mae Clwb Rygbi Abercwmboi yn glwb cymunedol sy’n cynnwys dau dîm o ddynion hŷn, tîm merched hŷn, tîm hen lawiau, tîm ieuenctid ac adran fach ac iau sy’n cynnwys deg tîm yn ogystal â thîm pêl-droed cerdded a thîm rygbi cerdded sy’n hybu ffitrwydd a llesiant yn y cymunedau hŷn.

Mae ganddyn nhw adeilad clwb mawr, modern sy’n cael ei ddefnyddio’n rheolaidd gan amrywiaeth o glybiau a grwpiau cymunedol allanol. Rydym yn eu cefnogi i uwchraddio’r holl oleuadau yn y clwb i LED ac uwchraddio eu system wresogi. Bydd y gwelliannau hyn nid yn unig yn gwneud y clwb yn lle brafiach i aelodau a’r gymuned ond hefyd yn helpu’r clwb i leihau ei ddefnydd o ynni a’i effaith amgylcheddol.

“Rydym mor ddiolchgar i PyC am helpu’r clwb i barhau i ddarparu gofod cymunedol o safon, diolch” – Clwb Rygbi Abercwmboi