Dyfarniadau Grant ar draws Pedwar o Gymoedd De Cymru!

912 773 rctadmin

Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn falch o gyhoeddi pedwar dyfarniad grant gan y Gronfa Gweledigaeth gwerth cyfanswm o £748,579 ar draws Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae grantiau’r

Gronfa Gweledigaeth yn cefnogi gweithgareddau sy’n cyflwyno amrywiaeth o fuddion i gymunedau lleol – gall busnesau, y sector gwirfoddol a grwpiau cymunedol i gyd ymgeisio. Mae angen i gynigion fod yn rhai eofn, uchelgeisiol a braidd yn anarferol – a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol dros yr hir dymor. Mae’r prosiectau diweddaraf a gefnogwyd yn amrywio o brosiect tyfu ar draws cymuned a hyb cymunedol rhwng y cenedlaethau, i fenter gymdeithasol seiliedig ar chwaraeon a gwersyllfa sy’n llesol i’r amgylchedd.

Arweinir y prosiect O Dan yr Awyr – Tyfu a Dysgu /Under the Sky – Growing and Learning yng Nghwm Nedd Uchaf gan Ganolfan Hyfforddiant Glyn-nedd. Dros 4 blynedd bydd y dyfarniad o £194,258 yn hyrwyddo tyfu bwyd cymunedol. Meddai Rhysian Pengilley, Rheolwr y Ganolfan Hyfforddiant “Byddwn yn cefnogi ac yn ysbrydoli ysgolion, grwpiau a thrigolion lleol i fynd ati i ddechrau tyfu eu bwyd eu hunain, gan fanteisio i’r eithaf ar y nifer mawr o fannau gwyrddion sydd gennym. Bydd ein staff medrus yn cynnig cefnogaeth a chyngor – byddwn yn creu cymuned o dyfwyr!”

Mae Valleys Kids yn y Rhondda wedi cymryd drosodd cyfleuster yr Iard Chwarae sydd bellach yn fwrlwm o weithgarwch yn y ffatri Burberry gynt yn Ynyswen. Mae peiriannau gwnïo wedi’u disodli gan ardal chwarae dan do i blant, dau faes 5 pob ochr cyfoes, stiwdio ffitrwydd a chaffi, i gyd o dan yr un to. Gall defnyddwyr hurio maes, trefnu parti, cymryd rhan mewn dosbarthiadau a chlybiau gweithgareddau, defnyddio’r stiwdio ffitrwydd – neu galw heibio am goffi neu ginio. Bydd grant o £388,178 gan y Gronfa Gweledigaeth dros y pedair blynedd nesaf yn cefnogi cyfleusterau gwell (gan gynnwys ffrâm chwarae anhygoel newydd) a chyflogi staff allweddol i fynd â’r fenter o nerth i nerth – gan gefnogi pobl o bob oedran i fod yn actif. Meddai’r rheolwr Nathan Howells “Mae’r Iard Chwarae’n lleoliad syfrdanol ac unigryw yn y Rhondda uchaf, gan gynnig ystod eang o weithgareddau llawn hwyl i bob oedran – ynghyd â’n caffi croesawgar. Rydym yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar wneud gwella ffitrwydd ac iechyd yn gymaint o hwyl â phosib!”

Mae Gwersyllfa Willow Springs yng Nghwm Afan yn wersyllfa lonydd draddodiadol sy’n llesol i’r amgylchedd gyda safleoedd ar gyfer gosod pebyll, faniau gwersylla a charafanau, ynghyd â Chwt Bugail moethus – heb sôn am y Lamas, moch, hwyaid a gwyddau! Heb unrhyw gysylltiad trydan, mae ymwelwyr yn coginio ar farbeciws a phyllau tân, ac yn elwa o ynni’r haul a dŵr ffynnon naturiol y safle. Bydd grant o £66,143 gan y Gronfa Gweledigaeth yn cefnogi cyfleusterau newydd i ymwelwyr fel ystafell golchi a sychu a bwerir gan ynni’r haul, llochesi ar gyfer diwrnodau gwlyb a gweithdai crefft, a dau gwt gwersylla – gyda phob un yn cynnig llety ar gyfer hyd at 8 o bobl – a gall cŵn ddod hefyd! Mae perchnogion y safle Marc a Jude Souter yn teimlo’n frwdfrydig am y dyfodol – “Roedd nifer yr ymwelwr eisoes ar gynnydd, ond yn awr byddwn yn gallu darparu ystod ehangach o brofiadau gwersylla – a rhoi’r cyfleusterau i’n hymwelwyr y maent wedi gofyn amdanynt – yn enwedig medru sychu dillad ar ddiwrnodau glawog! Rydym eisoes yn cydweithio â busnesau yn yr ardal, a byddwn yn hyrwyddo’r holl gyfleusterau a chynhyrchwyr lleol yn ein derbynfa newydd. Mae 2018 ar fin bod ein blwyddyn fwyaf llwyddiannus hyd yma.”

Bydd grant o £100,000 i Age Connects Morgannwg yn cefnogi cyflogi staff allweddol a chostau rhedeg cychwynnol y prosiect Cynon Linc newydd yn Aberdâr. Bydd Cynon Linc yn trawsnewid yr hen adeilad St Mair i adnodd ar gyfer y gymuned gyfan, gan barhau i ganolbwyntio ar ddarparu cyfleusterau a chefnogaeth ar gyfer pobl hŷn. Caiff yr adeilad ei adnewyddu ac estyniad ei greu i ddarparu lle ar gyfer gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol, darpariaeth meithrinfa, meddygfa, ystafelloedd therapi i’w hurio a Bistro sy’n fenter gymdeithasol. Gan groesawu’r grant, meddai Rachel Rowlands, Prif Weithredwr Age Connects Morgannwg: Rydym wrth ein boddau â llwyddo yn ein cais i Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd. Mae’r Ganolfan St Mair bresennol yn chwarae rôl hynod bwysig ym mywydau’r bobl sy’n ei defnyddio. Maent yn dod o hyd i gyfeillgarwch yno, gallant fwyta pryd o fwyd mewn cwmni a chymryd rhan mewn grwpiau a gweithgareddau sy’n cadw eu meddyliau a’u cyrff yn actif. Bydd ein prosiect Cynon Linc yn cadw’r gwasanaethau a werthfawrogir yn fawr y mae defnyddwyr presennol yn eu mwynhau ac ar yr un pryd yn cyflwyno gweithgareddau newydd a chynaliadwy y mae’r gymuned wedi dweud y byddent yn eu croesawu. Mae’r prosiect newydd a chyffrous hwn yn deillio o waith partneriaeth go iawn rhwng y gymuned, y trydydd sector, yr awdurdod lleol a’r Ymddiriedolaeth GIG lleol ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â’r gwaith da hwnnw am flynyddoedd lawer i ddod.”