Cwrdd â’r Tîm – Bob Chapman

1024 768 rctadmin

Enw?
Bob Chapman

Swydd gyda CBC Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd?
Un o chwe chyfarwyddwr y cwmni
Swyddi Blaenorol (rydych eisiau dweud wrthym amdanynt)?
Rwy’n weithiwr cynghori o ran crefft – treuliais 26 mlynedd yn gweithio gyda Chyngor ar Bopeth ac unedau hawliau lles awdurdodau lleol ac wedi hynny’n was sifil i gynllunio a rheoli cymorth cyfreithiol yng Nghymru, llawer ohono’n wasanaethau cyngor ariannu. Ers ymddeol yn gynnar deng mlynedd yn ôl rwyf wedi gweithio fel ymgynghorydd i gwmnïau cyfreithwyr, bod ar Fwrdd Ffocws Defnyddwyr Cymru, ac yn aelod Pwyllgor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd Cymru, rwyf wedi bod yn llywodraethwr ysgol, ymddiriedolwr Shelter Cymru, tri Chyngor ar Bopeth ac fy Llyfrgell Gymunedol leol, ac ar hyn o bryd rwy’n Gadeirydd Rhwydwaith Cyngor Cenedlaethol Cymru yn ogystal â fy ngwaith i Pen y Cymoedd.

Ychydig amdanoch chi?
Ces i fy magu ychydig y tu allan i Lundain a ddes i astudio gwleidyddiaeth yn y brifysgol yn Aberystwyth, nid wyf erioed wedi mynd adref! Y tu allan i’r gwaith rwy’n mynd am dro bob dydd gyda Rosie, croesfrid defeitgi/daeargi, rwy’n rhedeg ychydig (dim ond pan nad yw’n rhy oer y dyddiau hyn), hwylio iot o Farina Abertawe, ac yn mwynhau gwyliau (yn aml yng Ngorllewin Cymru neu Ynysoedd Sili).
Beth a barodd i chi eisiau ymgeisio i fod ar Fwrdd PyC?
Rwyf wedi byd yn ardal brydferth Cwm Afan ers dros ddeugain mlynedd a thros lawer o’r amser hwnnw rwyf wedi gweld gwasanaethau a chyfleusterau’n cael eu dileu neu eu cwtogi. Roedd y cyfle i gymryd rhan mewn rhoi rhywbeth yn ôl i’r cymoedd yn rhy dda i’w golli. Roedd gennyf ddigon i’w wneud a bod yn onest, ond mynychais nifer o ddigwyddiadau ymgynghori Vattenfall dros nifer o flynyddoedd a dechreuodd y syniad ddatblygu.

Yn eich barn chi, pa sgiliau ydych chi’n eu cynnig i Fwrdd PyC?
Rwyf wedi ymwneud â dosbarthu arian yn flaenorol. Pan oeddwn yn y Comisiwn Gwasanaethau Cyfreithiol roeddwn yn gyfrifol am sut a ble i wario gwerth £80 miliwn o gymorth cyfreithiol yng Nghymru. Ar sail hynny dysgais bwysigrwydd cadw llygad ar y darlun mawr yn ogystal â monitro’r manylder yn gymesur.
Beth sy’n eich cyffroi mwyaf am Gronfa Gymunedol PyC? Yr Arian! A’r cyfle i alluogi pobl i wneud pethau gydag ef i wella’u bywydau a’u cymunedau.
Beth yw’r bygythiadau neu risgiau i lwyddiant y gronfa hon yn eich tyb chi?
Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y byddwn yn gwario’r arian, ond p’un a fydd cymunedau’n tybio ein bod wedi’i wario’n ddoeth wrth edrych yn ôl ymhen 25 mlynedd – mae hynny’n fater arall. I wneud gwir wahaniaeth mae angen gweledigaeth eang a dealltwriaeth bragmatig o “beth sy’n gweithio”, “beth sy’n bosib” a phan fydd rhywbeth yn “ddigon da” – nid oes angen i’r prosiectau a ariannwn fod yn berffaith, ac nid oes angen bob amser iddynt gyffwrdd â bywydau miloedd o bobl, ond mae angen iddynt i gyd wneud gwir wahaniaeth i rywun, rhywle.

Petaech yn deffro yfory fel anifail, pa anifail fyddech chi’n dewis bod a pham?
Byddai unrhyw beth yn y teulu mwncïod yn gwneud y tro – wedi’r cyfan dim ond y gwahaniaethau genetig mwyaf bychan sy’n eu gwahanu rhag pobl, ac yn fy mhrofiad cyfyngedig, yn aml maent yn fwy serchus a deallus na llawer o fodau dynol!
Petaech yn cael eich gadael ar ynys ddiffaith, pa thair eitem fyddech eisiau eu cael gyda chi?
Ydw i’n cael cadw Sixpenny Moon – yr iot yw wyf yn ei rhannu ym Marina Abertawe?
Os na, albwm lluniau o’r teulu, rhai llyfrau a fy ngitâr.

Diolch am rannu ychydig amdanoch eich hun gyda’n cymunedau!