Yn cyflwyno aelodau newydd ein Bwrdd!

987 623 rctadmin
Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn ffynhonnell newydd, sylweddol o arian ar gyfer grwpiau cymunedol a busnesau ar draws blaenau Cymoedd Castell-nedd, Afan, Rhondda a Cynon. Cwmni er Budd Cymunedol annibynnol yw’r gronfa, dan reolaeth bwrdd o Gyfarwyddwr a benodwyd yn dilyn hysbyseb agored ym mis Mehefin 2016.
 
Mae cyfyngiad ar dymor aelodaeth o’r Bwrdd, ac ni all aelod wasanaethu am fwy na dau dymor o dair blynedd, er mwyn sicrhau bydd yr aelodaeth yn cael ei adnewyddu dros oes y Gronfa.
 
Ym mis Mehefin, bydd Bob Chapman yn sefyll i lawr. Mae Bob wedi bod yn ffigwr allweddol yng Nghwm Afan ers blynyddoedd lawer, gan ddatblygu gwasanaethau arloesol fel Canolfan Cyngor ar Bopeth Afan uchaf – y CAB symudol cyntaf yng Nghymru. Mae wedi gwasanaethu ar gyrff cenedlaethol yn ogystal â sefydliadau lleol sy’n sylfaen i’r gymuned.  Roedd Bob yn gwbl allweddol wrth sefydlu Cronfa Pen y Cymoedd. Gweithiodd yn ddiflino i sefydlu strwythur y Bwrdd, ac mae wedi mwynhau ei gyfnod fel Cyfarwyddwr –
 
Rydym wedi gwneud cynnydd aruthrol a gyda’r chwistrelliad newydd o dalent i’r Bwrdd mae Pen y Cymoedd yn barod i symud ymlaen i gyfnod newydd o ddatblygiad y Gronfa. Dymunaf yn dda i chi i gyd. “
 
Dywedodd Marc Phillips, Cadeirydd “Rydym i gyd yn gwerthfawrogi cyfraniad Bob yn fawr iawn ers dyddiau cynnar y Gronfa. Ymhlith ei rinweddau eraill byddwn yn gweld eisiau ei fanylder, ei barodrwydd i gyfrannau at bob agwedd o anghenion y cwmni, ei weledigaeth strategol a’i brofiad dwfn o ddatblygu cymunedol.
 
Er yn drist i golli Bob, rydym yn hynod falch o gael croesawu dau aelod newydd i’r Bwrdd    Martin Veale a Michelle Coburn-Hughes – y ddau wedi’u penodi ar ôl proses recriwtio agored yn gynharach eleni.
 
Mae Martin yn gyfrifydd ac yn archwiliwr cymwysedig, yn arbenigwr rheoli risg a llywodraethu. Mae gan Martin profiad eang o lywodraethiant ac ar hyn o bryd mae’n aelod o Fwrdd ac yn Gadeirydd Archwilio i Chwaraeon Cymru ac hefyd yn Aelod o Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
 
Mae Michelle wedi gweithio o fewn gwasanaethau addysg a phlant Rhondda Cynon Taf ers 1996, ac mae bellach yn Rheolwr Busnes a Chyfleusterau yn Ysgol Gymunedol Glynrhedynog. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Rheoli a sefydlydd Partneriaeth y Fern.
 
Gallwch ddarllen rhagor am ein holl Aelodau Bwrdd yma:
 
 
Cofiwch, os ydych yn teimlo’n angerddol am yr ardal hon, ac yn llawn cyffro am yr hyn y gall y Gronfa ei gyflawni byddwn yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â’n Bwrdd yn 2020. Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl sy’n byw neu’n gweithio yn ardal y Gronfa.