Mae 6ed rownd y Gronfa Grantiau Bychain nawr ar agor

1024 560 rctadmin

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ddydd Llun 19 Awst 2019.

Mae grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol a busnesau newydd/sy’n datblygu yn gymwys i ymgeisio am grantiau hyd at £5,000. Gallwch weld manylion yr holl brosiectau a gefnogwyd hyd yn hyn yma www.penycymoeddcic.cymru a darllen astudiaethau achos mwy manwl yma.

Gellir gwneud cais ar-lein nawr: www.penycymoeddcic.cymru/cy/y-gronfa-grantiau-bychain

Byddai’n well o lawer gennym gael sgwrs â chi am eich syniad cyn i ni dderbyn eich cais. Gallwn gynnig cyngor, rhoi awgrymiadau, awgrymu pobl y gallwch siarad â nhw – ac arbed amser ac egni i chi!

Gallwch ffonio, anfon neges atom, neu ddod draw i gael sgwrs anffurfiol gyda ni ar un o’r diwrnodau cyngor isod – cysylltwch â 01685 878785 neu e-bostiwch ymholiadau@penycymoeddcic.cymru i gael apwyntiad.

• Dydd Mercher – 19 Mehefin – Pontrhydyfen Community Centre – 12 i 4.30

• Dydd Iau – 27 Mehefin – Llyfrygell Hirwaun – 9 i 1

• Dydd Mercher – 10 Gorffenaf – Seion Chapel, Maerdy – 2.30 i 6.30

• Dydd Mawrth – 23 Gorffenaf – Bethania, Glyn-nedd – 3 i 6.30

• Dydd Mawrth – 6 Awst – Treorci – 3.00 i 6.30

• Dydd Iau – 8 Awst – Aberdâr – 1.30 i 5.00