Y Siop Fach Sero

1000 1000 rctadmin

Yn ôl ym mis Tachwedd 2021 cysylltodd y Siop Fach Sero â Chronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd gyda gweledigaeth yw creu canolfan gynaliadwyedd amgylcheddol yn y Rhondda Fach er mwyn addysgu am newid yn yr hinsawdd drwy ddarparu ffyrdd ymarferol a hygyrch o fyw’n fwy cynaliadwy tra’n cynyddu iechyd a lles corfforol.

Roeddem wrth ein boddau i’w cefnogi gyda grant o £26,000. Mae wedi bod yn broses hirach na chynllunio ond heddiw fe agorwyd y drysau i Y Siop Fach Sero yng Nglynrhedynog. Mae’r prosiect hefyd wedi cael cefnogaeth gydag arian o Gronfa Deddf Eglwys Cymru, Pobl a Gwaith a Sefydliad Rank.
Mae’r lleoliad yn darparu siop dim gwastraff, canolfan cynaliadwyedd amgylcheddol ac yn cymryd rhoddion o git ac offer chwaraeon ac yn darparu’r eitemau, a’r gweithgareddau hynny, am brisiau isel trwy Play it Again Sport a dyna ddechrau’r hyn maen nhw wedi’i gynllunio.
“Mae gan hyn y potensial i fod yn gaffaeliad gwirioneddol i’r gymuned leol ac i ardal ehangach y Rhondda gefnogi’r angen cynyddol am opsiynau cynaliadwy a mynd i’r afael â’r pwysau cynyddol ar yr amgylchedd a dymunwn bob llwyddiant iddynt.”