Y Gronfa Gweledigaeth

150 150 rctadmin

Mae’r Gronfa Gweledigaeth yn cynnig grantiau dros £5,000 (cyfalaf a/neu refeniw) i gefnogi gweithgareddau sy’n helpu cyflwyno un neu fwy o’r blaenoriaethau a ddisgrifir ym Mhrosbectws y Gronfa. Gall busnesau newydd a datblygol, grwpiau sector gwirfoddol a chymunedol i gyd ymgeisio. Er nad yw cyrff sector cyhoeddus yn gymwys, rydym yn croesawu gwaith partneriaeth.

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos sut fydd eu cynnig yn:

weledigaethol, eofn ac yn uchelgeisiol – rhywbeth eithriadol

cynnwys gwaith partneriaeth gydag eraill i gyflwyno mwy, yn creu buddion go iawn ar gyfer pobl a chymunedau ac yn cefnogi adfywio (os yw’r fenter yn fusnes, disgwylir y bydd creu swyddi a datblygu sgiliau y bydd pobl yn ardal y Gronfa’n elwa arnynt yn elfen allweddol o’r cynnig).

cynaliadwy dros yr hir dymor – gan uchafu gwerth a buddion lleol

cynrychioli gwerth am arian

Efallai eich bod wedi derbyn grant gan y Gronfa Grantiau Bychain i helpu cychwyn y gwaith rydych yn ei wneud, a’ch bod yn awr yn dymuno datblygu hynny gyda grant gan y Gronfa Gweledigaeth. Os mai dyna’r achos, mae’n rhaid eich bod wedi cwblhau’r prosiect cychwynnol ac y gallwch ddangos y canlyniadau a chyflawniadau cyn y gellir ystyried cais pellach.

 

Y Broses Ymgeisio

Mae prosesau ymgeisio’n wahanol gan ddibynnu ar faint rydych yn gofyn amdano.

Rhwng £5001 a £26,000

Dyma gais ar-lein un cam gyda dwy rownd bob blwyddyn – mae un yn agor ar 1 Mehefin ac yn cau yng nghanol mis Awst ac mae’r llall yn agor ar 1 Rhagfyr ac yn cau yng nghanol mis Chwefror.

 

Rhwng £26,001 a £149,999

Dyma broses dau gam, Mynegiad o Ddiddordeb dau gam a gaiff ei ystyried gan y Bwrdd ac wedyn os oes posibilrwydd o’i gefnogi fe gewch eich gwahodd i symud ymlaen at gais cam dau. Siaradwch â ni am amserlen eich prosiect arfaethedig a’r terfynau amser a dibyniaethau hanfodol.

 

Dros £150,000

Dyma broses dau gam fel uchod, ond mae’n bosib hefyd y gofynnir i chi gwrdd â Bwrdd y Cyfarwyddwyr a chyflwyno’ch cynnig iddo.

Mae’n rhaid i chi gysylltu â ni i drafod eich cynlluniau cyn i chi gyflwyno cais neu Fynegiad o Ddiddordeb i’r Gronfa Gweledigaeth. Os yn briodol, byddwn yn anfon dolen atoch i ymgeisio ar-lein wedyn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch ni ar 01685 878785 neu gyrrwch e-bost atom:

 

enquiries@penycymoeddcic.cymru

 

 

Awgrymiadau Gwych ar gyfer llunio’ch cynnig i’r Gronfa Gweledigaeth:

Rhowch enw byr a bachog i’ch prosiect / gweithgaredd! Mae’n swnio’n ddibwys, ond yn gwneud gwir wahaniaeth.

Cofiwch esbonio’r hyn yr hoffech ei wneud mor glir a chryno ag y gallwch. Gofynnwch i rywun nad yw’n gysylltiedig â’r cais ei ddarllen a rhoi adborth arno.

Dywedwch wrthym yn union pwy fydd yn elwa – pa wahaniaeth y bydd y prosiect yn ei wneud i bobl a chymunedau, yr economi leol a’r amgylchedd?

Gwnewch yn siŵr ei fod yn glir sut mae eich cais am grant yn gysylltiedig â’ch nodau a’ch cynllun.

Rhowch amcangyfrif a dyfynbrisiau realistig sy’n seiliedig ar ymchwil.

Esboniwch sut fydd y prosiect neu weithgaredd yn gynaliadwy yn y tymor hwy.

 

YR HYN NA ALL Y GRONFA GYMUNEDOL EI GEFNOGI

gweithgareddau nad ydynt yn cyflwyno buddion clir i gymunedau o fewn Ardal Buddiant y Gronfa

ceisiadau am weithgareddau neu brosiectau sy’n diarddel grwpiau penodol o bobl heb resymau clir iawn y gellir eu hamddiffyn yn gyfreithiol

ceisiadau gan gyrff sector cyhoeddus

gweithgareddau y mae corff cyhoeddus yn statudol gyfrifol amdanynt

ceisiadau gan unigolion ar wahân i’r rhai sydd eisiau sefydlu neu ddatblygu busnes

gweithgareddau sy’n ymwneud â gwleidyddiaeth neu grefydd yn unig

gwariant/costau a dalwyd yn y gorffennol ar gyfer gweithgareddau sydd eisoes wedi digwydd

TAW y gellir ei hadennill

prosiectau sy’n hyrwyddo, darparu, datblygu, gweithredu neu fel arall cefnogi unrhyw gynllun ynni anadnewyddadwy neu adnodd cysylltiedig.