Ymddiriedolaeth Amgueddfa Cwm Cynon – trosglwyddo ased cymunedol

582 386 rctadmin

Yr Ymddiriedolaeth Elusennol hon yn Aberdâr sydd bellach yn rheoli’r amgueddfa – sy’n hen adeilad hardd â photensial enfawr. Ar ôl llofnodi prydles am 25 mlynedd ym mis Gorffennaf 2016 mae gan yr Ymddiriedolaeth gynlluniau mawr ac mae tîm ymroddedig o wirfoddolwyr eisoes yn gweithio’n galed i fanteisio i’r eithaf ar yr ased lleol hwn.

Gyda chymorth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae’r Ymddiriedolaeth yn dechrau gyda chyfnod di-rent o ddwy flynedd a ddilynir gan rent y farchnad o £12,000 y flwyddyn. Mae wedi sicrhau pecyn o arian cyfatebol gwerth tua £103,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, Cronfa Galluogi Cymunedol Rhondda Cynon Taf, Cronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru ac Ymddiriedolaeth Adfywio’r Meysydd Glo er mwyn cyflogi Rheolwr Datblygu rhan-amser a chyfrannu at gostau rhedeg yr amgueddfa am y ddwy flynedd nesaf. Mae rhaglen o ddigwyddiadau sydd wedi’i hanelu at bob oedran ac sy’n cynnig cyfle i ymwelwyr ddarganfod sut brofiad oedd byw yn y fwrdeistref sirol ers llawer dydd. Gwahoddir ymwelwyr i fynd am dro hiraethus ymysg yr holl arddangosion, gan gynnwys siop gornel hen ffasiwn, ynghyd â’i chloch uwchben y drws ffrynt i roi gwybod i’r siopwr bod cwsmeriaid wedi cyrraedd.