Y Gronfa Grantiau Bychain Rownd 1

1024 560 rctadmin

Mae rownd gyntaf ein dyfarniadau grant y Gronfa Grantiau Bychain bellach wedi’i gwblhau, ac roeddem yn falch o fod wedi cael ymateb enfawr – diolch i bawb a gyflwynodd geisiadau. Cawsom 122 o gynigion, yn gofyn am gyfanswm o £390,000. Gan mai dim ond £127,000 oedd gennym i’w ddyfarnu y tro hwn, roedd y gystadleuaeth yn gryf iawn ac roedd gan y Panel asesu benderfyniadau anodd i’w gwneud. Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi 36 o brosiectau anhygoel ac eang ar draws ardal y Gronfa.

Gallwch weld y rhestr lawn o ddyfarniadau Rownd 1 yma. Mae’r derbynwyr yn cynnwys:

Afan Vale Chocolates – grant o £3,250 i brynu peiriant newydd hanfodol. Mae Anita Angove wrth ei bodd gyda’r Dyfarniad “rydym yn fusnes bach sy’n cael trafferth cadw i fyny â’r galw cynyddol am ein cynnyrch – mae gallu prynu ein peiriant newydd yn rhyddhau amser ar gyfer marchnata a hyrwyddo a fydd wir yn helpu ein busnes i dyfu“.

Cymdeithas Celfyddydau Perfformio Showcase Sioegerdd – grant o £3,045 i gefnogi cynhyrchiad pobl ifanc o South Pacific yn Aberdâr. Dywedodd Roger Williams o Gymdeithas Celfyddydau Perfformio Showcase Sioegerdd yn Aberdâr “Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc ar ystod o brosiectau celfyddydau perfformio, a bydd y grant hwn yn ein galluogi i lwyfannu cynhyrchiad o South Pacific yn ddiweddarach eleni. Bydd hwn yn brofiad anhygoel i’r holl bobl ifanc sy’n cymryd rhan – a gobeithio i’n cynulleidfaoedd hefyd!

Rhaglen Seryddiaeth Ddinesig Dark Sky Wales – grant o £4,891. Mae Allan Trow, Rheolwr Dark Sky Wales yn egluro: “Byddwn yn cyflwyno pobl ifanc yng Nghwm Rhondda a Chwm Cynon i seryddiaeth, gyda’r nod o leihau digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gallai hyn swnio fel dull anarferol, ond rydym yn gwybod ei fod yn gweithio ac mae gennym gefnogaeth gref gan yr heddlu. Mae’n ffordd gadarnhaol a chreadigol o ddelio â phroblem heriol. Bydd ein grant Cronfa Grantiau Bychain yn ein galluogi i gyrraedd mwy fyth o bobl ifanc.

Rydym yn gwybod y bydd y rhai a fu’n aflwyddiannus y tro hwn yn siomedig, ond bydd y Gronfa Gymunedol yn ei lle ar gyfer yr ugain mlynedd nesaf, felly bydd llawer o gyfleoedd pellach i wneud cais. Mae Rownd nesaf y Gronfa Grantiau Bychain yn agor ar 1 Mehefin 2017 a’r dyddiad cau yw prynhawn dydd Llun 14 Awst. Byddwn yn cyhoeddi’r Dyfarniadau Rownd 2 ar ddiwedd mis Medi.

Os yw eich grŵp yn meddwl am ail-gyflwyno eich cais, mae’n rhaid i chi gysylltu â ni am adborth a thrafod y cynnig gyda ni ymlaen llaw.

Diolch eto am eich holl gefnogaeth!