The Essential Warehouse: Prosiect Cymunedol yn Eglwys Cwmbach, Cwm Cynon, yn derbyn £36,530 fel rhan o brosiect gwerth £48,000 i rendro, atgyweirio, ailaddurno, ac ychwanegu paneli solar.

1024 576 rctadmin

Mae Eglwys Cornerstone yn falch o fod yn gartref i’r Essential Warehouse, menter gymunedol holl bwysig sy’n rhoi gwasanaeth anhepgor i’r gymuned, gan ddarparu eitemau hanfodol a rhad ac am ddim i unigolion a theuluoedd mewn angen yng Nghwm Cynon. Mae’r prosiect hwn, a reolir gan wirfoddolwyr lleol ymroddedig, nid yn unig yn cwrdd ag anghenion bob-dydd ond hefyd yn cyfrannu at adeiladu teimlad o hyder, hunan-barch, a hunan-werth ymhlith y cyfranogwyr, gan feithrin cymuned gryfach a mwy gwydn.

Pam y penderfynwyd eu cefnogi:

  • Gofodau cymunedol (tu mewn a thu allan) sy’n cyd-fynd ag anghenion y
    gymuned (gofod ar gyfer pobl ifanc, hybiau iechyd, addas ar gyfer pobl anabl,

ac yn y blaen)

  • Adeiladau a gofodau sy’n addas i’r pwrpas
  • Darparu cyfleusterau cymunedol cynaliadwy, a thrafnidiaeth ar gyfer
    grwpiau o bob oedran fel bod modd iddynt gwrdd
  • Rhwydwaith cynaliadwy o adeiladau cymunedol sy’n cael eu defnyddio’n dda
    ac yn gyson

Mae’r ganolfan nid yn unig yn llawn bwrlwm yn barhaus wrth gynnig gweithgareddau hwyliog a chymdeithasol, ond mae hi hefyd yn rhoi cymorth holl bwysig drwy gyfrwng banc bwyd, banc dillad, a nifer o raglenni allgymorth eraill. Yr hyn mae’n arbenigo arno yw pennu beth yw anghenion y gymuned, a dod â gwasanaethau cefnogi i mewn i’w darparu. Maent yn gwneud hyn gyda Barnado’s, yr awdurdod lleol, Cyngor Ar Bopeth, a chymorth tai lleol, ymhlith gwasanaethau eraill. Os na allant helpu, byddant yn gwybod am rywun fydd yn fodlon rhoi amser i’ch cefnogi chi drwy gyfnodau anodd.

Grŵp cymunedol bychan ac ymroddgar yw hwn yng nghalon Cwm Cynon, sy’n cymryd balchder yn eu nod o ddarparu cefnogaeth ddiflino i’r rhai sydd â’r angen mwyaf amdano o fewn y gymuned leol. Rydym wrth ein bodd gyda’r hyn maen nhw’n ei gynnig, a’u hymrwymiad a’u hangerdd wrth gefnogi’r gymuned ym mhob ffordd – ond i wneud hynny mae arnynt angen adeilad sy’n addas i’r pwrpas a help i gadw’r costau dan reolaeth, a phleser o’r mwyaf i ni yw eu cefnogi.” – Kate Breeze, Pen y Cymoedd  

I ddechrau, hoffwn ddiolch i chi i gyd yn Pen y Cymoedd am gredu ynom ni. Mae eich cymorth a’ch anogaeth gyson chi wedi gwneud yr hyn oedd weithiau’n teimlo’n amhosibl ac yn heriol, yn bosibl. 

 Yn ddi-os, mae’r arian rydym wedi ei dderbyn gennych yn achubiaeth i ni. Rydyn ninnau, yn ein tro, yn achubiaeth i eraill, gan helpu llawer o bobl yn y gymuned i dderbyn y cymorth maent yn ei haeddu.

 Rydyn ni’n gwasanaethu cymuned a chanddi lu o wahanol anghenion, ac rydym yn gweithio’n galed i gwrdd â’r anghenion hynny mewn nifer o ffyrdd. Dydyn ni ddim yn beirniadu, dim ond yn cynnig cariad a chymorth i’r rhai sy’n gofyn am ein help.

Bydd y Paneli Solar nid yn unig yn helpu i leihau ein costau cynnal a chadw, ond hefyd yn lleihau ein hôl troed carbon – ac mae hynny’n bwysig gan fod ar y blaned angen ein cariad a’n cefnogaeth hefyd. Trwy adnewyddu’r wal allanol sy’n gollwng dŵr mewn sawl man, byddwn yn gallu torri i lawr ar y gost o wresogi. Bydd ailaddurno’r ystafell goffi’n ei gwneud yn fwy apelgar a chyfforddus.  

Mae’r weledigaeth ar gyfer Essential Warehouse Cornerstone Cwmbach yn tyfu, a ninnau’n tyfu yn ei sgil, ond ni allwn ei gwireddu ar ein pen ein hunain; trwy ymuno â’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth.

Heb eich cymorth chi, ni fyddai dim o’r hyn rydyn ni’n ei wneud yn bosibl! Diolch eto oddi wrth Pastor Dan, yr Henaduriaid, fi fy hun, a’n tîm anhygoel. Pob bendith.” – Libby a’r tîm yn Cornerstone