SWYDD WAG – Swyddog Cymorth Menter & Cyllid

1024 560 rctadmin

Gyda £1.8m y flwyddyn (yn gysylltiedig â mynegai) tan 2043, mae’r Gronfa’n buddsoddi mewn cymunedau a busnesau ar draws cymoedd uchaf Castell-nedd, Afan, Rhondda a Cynon. Os ydych chi’n angerddol am y maes hwn, ac yn gyffrous am yr hyn y gall y Gronfa ei gyflawni, a hoffech chi ymuno â’n tîm staff bach yn y rôl hon?  Gyda phrofiad o reoli ariannol a datblygu busnes (cymdeithasol neu fasnachol), byddwch yn cefnogi’r CIC ei hun – gan arwain ar reoli ein portffolio benthyciadau, cydlynu’r gwaith o ddarparu cyngor a chymorth i ymgeiswyr busnes (ochr yn ochr â gwasanaethau cymorth presennol) a datblygu rhwydwaith rhanddeiliaid busnes ar draws ardal y Gronfa. Byddwch hefyd yn gyfrifol am reoli  cyfrifon bancio, taliadau, cyfrifon rheoli a chyfrifon ac archwiliad diwedd blwyddyn y gronfa yn  ogystal â chefnogi cydymffurfiaeth a gofynion y cwmni a Chyllid a Thollau EI Mawrhydi.

Cyflog: £25,250 – £30,300 y flwyddyn (+6% pensiwn) Swydd amser llawn, parhaol

Lleoliad: Aberdâr, De Cymru (gyda rhywfaint o weithio gartref)

Dyddiad Cau: 17.00, 7 Mehefin 2022

Dyddiad Cyfweld:  Dydd Gwener 17 Mehefin 2022 (os cewch eich gwahodd i gyfweliad, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn ar brynhawn 9 Mehefin)

I wneud cais: I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, os gwelwch yn dda:

Crynodeb: Bydd y swydd gyffrous hon yn defnyddio eich arbenigedd mewn rheolaeth ariannol a’ch gwybodaeth am ddatblygu busnes i gefnogi datblygiad economi ffyniannus ym maes budd y Gronfa.  Byddwch yn gweithio’n uniongyrchol gydag entrepreneuriaid a busnesau (masnachol a chymdeithasol) a chyda mentrau cymorth sy’n bodoli eisoes i sicrhau y darperir cyngor ac arweiniad o’r ansawdd uchaf. Yn ddelfrydol, bydd gennych ddealltwriaeth gadarn o’r heriau sy’n wynebu a’r cyfleoedd sydd ar gael i sefydliadau’r sector preifat  a’r sector gwirfoddol. Byddwch hefyd yn gyfrifol am reoli cyfrifon bancio, taliadau, cyfrifon rheoli a chyfrifon ac archwiliad diwedd blwyddyn PyC yn ogystal â chydymffurfiaeth gyfreithiol ac ariannol.

Amdanom ni: Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd ar gael i grwpiau cymunedol a busnesau sy’n gweithio i wella a datblygu cyfleoedd i bobl sy’n byw ym mhen uchaf cymoedd Castell-nedd, Afan, Rhondda a Cynon.  Ein nod yw bod ardal Pen y Cymoedd yn 2043 a thu hwnt yn lle deinamig, cyffrous a bywiog i fyw a gweithio ynddo. Sefydlwyd y Gronfa gan y gweithredwr ffermydd gwynt Vattenfall, fel rhan o ymrwymiad hirdymor y cwmni i’r cymunedau sy’n cynnal y tyrbinau. Gydag incwm blynyddol (wedi’i gysylltu â mynegai) o £1.8m y flwyddyn tan 2043, dyma’r gronfa fwyaf o’r fath yn y DU ar hyn o bryd. Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiannau Cymunedol cwbl annibynnol (CIC). Mae gan y Bwrdd wyth Cyfarwyddwr, sy’n gyfrifol am sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau a’i gyfrifoldebau cyfreithiol a bod safonau llywodraethu yn uchel.