Sut ydym ni'n gwneud?
Monitro a Gwerthuso:
CBC Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd
Mae Wavehill yn bwrw golwg manwl ar y ffordd yr ydym yn gweithio fel sefydliad, gan ganolbwyntio ar y ddau gwestiwn hyn:
- Pa mor effeithiol y mae strwythur CBC Pen y Cymoedd ac arferion gwaith tîm y staff a’r Bwrdd?
- Pa mor effeithiol yw cyflwyniad y rhaglen a’r gefnogaeth a ddarperir ganddi? Beth sy’n gweithio’n dda a beth yw’r rhwystrau?
Gan adrodd ar sail flynyddol, bydd y gwaith a gyflawnir gan Wavehill yn cynnwys:
a. dadansoddiadau o ddata monitro rhaglenni;
b. holiaduron a chyfweliadau ar-lein gyda thîm ac aelodau Bwrdd Pen y Cymoedd;
c. arolwg ar-lein o ymgeiswyr a derbynyddion grant;
d. cyfweliadau manwl ac ymweliadau safle gyda sampl o dderbynyddion grant (Grantiau Bychain a Gweledigaeth) a datblygu astudiaethau achos;
e. cyfweliadau â budd-ddeiliaid – ein budd-ddeiliaid yw pawb sydd â buddiant yn, neu a all effeithio neu gael eu heffeithio gan, y Gronfa Gymunedol e.e. aelodau a swyddogion awdurdod lleol, sefydliadau mantell, Interlink a CGS CNPT; a
f. gweithdy dysgu a fforwm trafod ar-lein yn sgil yr adroddiadau.
Rydym yn cyhoeddi argymhellion bob blwyddyn ac ymateb Pen y Cymoedd (gweler isod).
Ym mis Hydref 2021, ailymweld â’r Bwrdd drwy gydol argymhellion y flwyddyn ac ymrwymodd i wneud hyn bob 6 mis.
Yn y ddogfen hon gallwch ddod o hyd i argymhellion, ymatebion cychwynnol a diweddariadau. Mae Bwrdd y PyC wedi ymrwymo i wella’r ffordd rydym yn gweithredu a byddwn yn diweddaru’r ddogfen hon nesaf ym mis Hydref 2023 gyda chynnydd yn erbyn camau gweithredu.
Argymhellion a Chamau Gweithredu Ebrill 2022
Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr argymhellion, cysylltwch â’r tîm staff.
Argymhellion i’r PyC a’n hymateb
Dyma ganfyddiadau ac ymatebion y Bwrdd ar gyfer 2021
Dyma ganfyddiadau ac ymatebion y Bwrdd ar gyfer 2020
Dyma Grynodeb Adroddiad Canfyddiadau’r Gwerthusiad 2020
Dyma ganfyddiadau ac ymatebion y Bwrdd ar gyfer 2019