Prydau bwyd Cymunedol

600 430 rctadmin

NODDFA COMMUNITY CENTRE – GLYNCORRWG

£2,500 – CRONFA GRANTIAU BYCHAIN – CHWE 2017

Nod y cais hwn oedd cefnogi darpariaeth prydau bwyd i’r gymuned leol o’r ganolfan ymhellach trwy brynu a gosod peiriant golchi llestri. Mae’r Gymdeithas Arlwyo Gofal Genedlaethol (NACC) yn teimlo bod tanfuddsoddi’n peri risg i bobl oedrannus ac yn rhoi pwysau diangen ar y GIG – gall gwasanaethau prydau bwyd helpu atal derbyniadau ysbyty ac estyn yr amser y gall trigolion fyw yn eu cartrefi.

Darparodd y grant y mwyafrif o’r cyllid ar gyfer gosod peiriant golchi llestri er budd y gymuned. Mae cannoedd o bentrefwyr yn mynychu digwyddiadau Canolfan Gymunedol y Noddfa ac mae’r peiriant golchi llestri wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol. Ers cael ei osod maent wedi cynnal noson Eidalaidd cinio Ffagots a Phys, Te Prynhawn a chinio Nadolig, a hwylusodd y peiriant golchi llestri waith y gwirfoddolwyr yn yr holl ddigwyddiadau hyn. Defnyddir y peiriant golchi llestri mewn 6 -10 o ddigwyddiadau mawr bob blwyddyn ond hefyd digwyddiadau wythnosol llai fel boreau coffi, Bingo a’r clwb dydd Gwener.

“Gall ein gwirfoddolwyr dreulio mwy o amser gyda’r trigolion a mwynhau’r digwyddiad yn lle bod yn y gegin…Mae wedi helpu ehangu ein gwasanaeth i gynnwys brecwast. Mae ein tua 30 o wirfoddolwyr a’r pwyllgor wedi elwa trwy wella pa mor gyflym a hwylus y gallwn weini a chlirio i fyny ar ôl digwyddiadau.” Steve English

“Aruthrol. Gwych, pan fydd yn brysur. Cyfleus iawn pan fydd gennym ddigwyddiadau a’r bore coffi.” – Rita Clackworthy Gwirfoddolwr