Mae Pen y Cymoedd yn cefnogi Gŵyl Gelfyddydau’r Rhondda gyda £60,000 dros y 3 blynedd nesaf

683 720 rctadmin

Mae’r ŵyl yn credu ym mhŵer y celfyddydau i newid cymunedau a bywydau unigolion, ac maent yn awyddus i wthio ffiniau ac archwilio i weld sut gallai dyfodol y celfyddydau edrych yn Nhreorci a ledled Cymoedd y Rhondda.

Bydd cyllid Pen y Cymoedd yn eu helpu i dyfu’r ŵyl am y tair blynedd nesaf, a manteisio ar y momentwm maent wedi ei adeiladu yn 2022/23.

Bellach, mae eu ffocws ar y canlynol:

  • Cyfranogiad a chynwysoldeb
  • Rhoi sylw i’r celfyddydau a diwylliant
  • Lles a balchder cymunedol
  • Cynyddu presenoldeb

“Bydd modd i Ŵyl Gelfyddydau’r Rhondda gynnal ei llwyddiant a thyfu’n fodel tymor-hir, cynaliadwy fydd yn cael effaith ar bobl a chymunedau yn y Rhondda uchaf a thu hwnt, diolch i dair blynedd o gyllid gan Pen y Cymoedd. Rydym yn edrych mlaen yn gyffrous i weld beth allan nhw ei gyflawni gydag arian craidd dros y tair blynedd nesaf, gan fod celf – yn ei holl ffurfiau – yn meddu ar ddull pwerus o helpu pobl i ddod o hyd i’w lle yn y byd.” – Kate Breeze, Cyfarwyddwr Gweithredol Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd.

“Rydym wrth ein bodd o dderbyn yr arian hwn gan Pen y Cymoedd. Mae’n mynd i ganiatáu i ni dyfu Gŵyl Gelfyddydau’r Rhondda a chael mwy o effaith ar ein cymuned drwy’r celfyddydau. Allwn ni ddim aros am y dyfodol a gallu cynnal gwyliau gwych am flynyddoedd i ddod. Diolch yn fawr Pen y Cymoedd!” – Sarah Sutton, Cyfarwyddwr yr Ŵyl