GRANT Y GRONFA MICRO £4,504 – MUSIC IN HOSPITALS AND CARE

564 729 rctadmin

Mae Music in Hospitals & Care (MiHC) yn elusen sy’n darparu sesiynau cerddoriaeth fyw ar gyfer pobl sy’n derbyn gofal. Mae’r prosiect hwn gan y Gronfa Grantiau Bychain wedi cyllido darpariaeth 16 o gyngherddau cerddoriaeth fyw ar draws 4 lleoliad cartref gofal yn llawn yng Nghymoedd Nedd, Afan, Rhondda Fawr a Chynon.

Cynhaliwyd y sesiynau rhyngweithiol yn y lleoliadau a ganlyn:

1. Cartref Preswyl Trem Y Glyn, Rhodfa’r Parc, Glyn-nedd

2. Cartref Gofal Preswyl Arwelfa, Rhodfa’r Gorllewin, Croeserw

3. Cartref Nyrsio Tŷ Ross, Stryd Ninian, Treherbert

4. Cartref Gofal Ysguborwen, Llwydcoed

Darparwyd pob sesiwn un awr gan gerddor proffesiynol sy’n byw yn yr ardal leol.

Mae’r prosiect hwn wedi gwneud gwahaniaeth anhygoel i gymunedau yn yr ardal hon. Mae’n swnio fel cliché, ond heb yr arian hwn ni fyddai modd i’r 4 cartref gofal hyn dderbyn eu sesiynau cerddoriaeth. Mae’r cyllid sydd ar gael yn yr ardal yn gyfyngedig iawn a dydy’r elusen ddim yn derbyn unrhyw gefnogaeth statudol i gyllido ardaloedd difreintiedig. Yn ddi-os mae cerddoriaeth fyw yn cael effaith arwyddocaol ar lesiant rhywun – ac mae pob un o’r pedwar lleoliad wedi darparu adborth rhagorol wrth ymateb i’r sesiynau. Mae gan y preswylwyr gefndiroedd diwylliannol eithaf tebyg ac er bod eu lefelau iechyd yn amrywio, roeddent i gyd yn gallu cymryd rhan neu ymwneud â’r gerddoriaeth mewn rhyw ffordd. Bu’n wobrwyol iawn i weld nifer o’r cyngherddau o lygad y ffynnon, gwelais un fenyw hŷn fregus yn codi o’i chadair i ddawnsio gyda rheolwr y cartref gofal. Mae’r enydau hyn o ryddid a mynegiant mor bwysig o fewn yr hyn a fyddai fel arall yn amgylchedd a all fod yn undonog ac yn ddiflas, ac mae’r cyfle i staff greu cwlwm â’u preswylwyr yn ystod y sesiwn yn werthfawr tu hwnt. Sylwodd staff fod eu lefelau straen yn gostwng yn ystod y sesiynau, a dwedodd un Cydlynydd Gweithgareddau, “Ymunodd ein preswylwyr i gyd yn y gân – a siaradon nhw amdani am ddiwrnodau wedyn.”  Hannah MiHC

Mae Mrs Cymru wedi bod gyda ni yn Nhŷ Ross ers 2 fis, mae ganddi glefyd Alzheimer datblygedig. Dyma gyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd ac yn gwaethygu dros amser. Mae cyflwr Mrs Cymru wedi effeithio ar ei gallu i gofio ei gorffennol, ei hymdeimlad o amser a gofod, iaith a chyfathrebu.

Yn ddiweddar roeddem ni yn Nhŷ Ross yn ddigon ffodus i groesawu perfformwyr ac artistiaid o Music in Hospitals & Care, ac rydym bob amser yn gofalu bod yr holl breswylwyr sy’n ddigon abl yn mynychu’r sesiynau hyn.

Fe ddaeth yn amlwg yn gyflym bod cerddoriaeth Huw a Mel yn cael effaith gadarnhaol a phendant ar Mrs Cymru… Fe ganodd hi holl eiriau’r caneuon ac fe berfformiodd a dawnsiodd (gyda chefnogaeth). Doedd hi ddim eisiau eistedd i lawr trwy gydol y perfformiad!

Megis trwy hudoliaeth roedd ei hatgofion o’r caneuon a’r geiriau wedi dychwelyd a gwellodd ei chydbwysedd trwy gydol y gyngerdd. Lliniarwyd ei straen ac roedd hi’n llai cynhyrfus. Codwyd hwyliau Mrs Cymru ac roedd hi’n hapus, bu’n bleser mawr i staff a phreswylwyr eraill ei weld.

Mae cerddoriaeth yn hanfodol i’n cartref gofal er lles ein preswylwyr i gyd.

Mae’n ennyn emosiynau sy’n ysgogi atgofion… Mae cerddoriaeth yn atgoffa preswylwyr am enydau allweddol yn eu bywydau ac yn dod ag atgofion hapus yn ôl ar yr un pryd â chreu cysylltiadau newydd gyda theulu a ffrindiau.

“Roeddwn i’n ddigon ffodus i fod mewn cwpl o’r sesiynau hyn. Y prynhawn a dreuliais yng Nglyn-nedd oedd un o’r rhai mwyaf dyrchafol yr wyf wedi’i gael erioed. Canodd y canwr ei eiriau cyntaf ac yn syth dechreuodd pawb yno ganu, roeddent yn gwybod pob gair. Roedd pobl yn dal dwylo, chwerthin, canu, dawnsio a chrio. Bu’n fraint gweld y gwresogrwydd rhwng y preswylwyr, y staff a’r perfformiwr a ddarparwyd gan MiHC. O ystyried yr adborth a dderbyniwyd gan yr holl leoliadau, dyma bedwar deilliant mwyaf nodedig y prosiect:

  • Gwelodd preswylwyr welliant yn eu cof, roeddent yn gallu hel atgofion gyda staff/ymwelwyr yn haws.
  • Bu i breswylwyr gymdeithasu/canu/sgwrsio’n fwy na fel arfer, a chanodd nifer bach ohonynt ‘am y tro cyntaf’.
  • Profodd y preswylwyr fwy o ryddid o ran eu symudedd (codi i ddawnsio, clapio, chwifio eu breichiau).
  • Teimlodd y preswylwyr yn fwy cysylltiedig gyda’u gwreiddiau Cymreig (canu yn Gymraeg a gynorthwyodd hel atgofion a storïau am eu plentyndod yn yr ardal).Dymunwn lwyddiant parhaus i MiHC.” – Kate @ Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd

Sut y bodlonodd y prosiect hwn flaenoriaethau’r gronfa:

Gofalwyr a gefnogir yn well i ostwng y baich sydd arnynt / Cefnogi gweithgareddau diwylliannol / Ystod ehangach o gyfleoedd lleol i fod yn iach, yn actif ac i gymryd rhan.