Grant gan y Gronfa Grantiau Bychain i Aelwyd Cwm Rhondda – £2976.08

Dyfarnodd Pen y Cymoedd grant gan y Gronfa Grantiau Bychain fel cyfraniad tuag at lety, teithio a gwisgoedd er mwyn i’r côr gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru a phrynu bysellfwrdd a chwyddseinydd.

Roeddem yn hynod falch o’u gweld nhw ar y teledu a dymunwn lwyddiant parhaus iddynt.

Sefydlwyd yr Aelwyd ym mis Ionawr 2018. Nid oes gair Saesneg cyfatebol am Aelwyd. Mae’n air Cymraeg sydd â sawl ystyr wahanol. Yn gryno, mae’n ymwneud â chymuned, cyfeillgarwch, perthyn a lleoliad. Mae traddodiad yr Aelwyd wedi bodoli ers canrifoedd a gwelir ei anterth pan ddaw cymuned Cymraeg ei hiaith ynghyd, mewn gofod diogel, i ganu ac adrodd barddoniaeth ac i gystadlu yn erbyn Aelwydydd eraill yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Fodd bynnag, ni fu Aelwyd yn y Rhondda ers dros hanner canrif, felly mae’r ymgyrch gyffrous hon yn gobeithio alinio ei hun â nifer o nodau ac amcanion allweddol Llywodraeth Cymru a’u strategaeth Cymraeg 2050 – sef 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r iaith.

Nod Aelwyd Cwm Rhondda yw codi proffil y Gymraeg ar draws y Rhondda; gan rymuso ac ysbrydoli pob cenhedlaeth, ac ar yr un pryd cynyddu hyder a dyheadau ein haelodaeth ein hunain.

Un elfen hollbwysig o gyflawni eu nod yw cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Mae’r ŵyl yn cynnig cyfle unigryw i ymdrochi mewn amgylchedd Cymraeg ei iaith a chystadlu yn erbyn Aelwydydd eraill. Nid oes unrhyw ŵyl arall sy’n denu’r fath niferoedd o siaradwyr Cymraeg i’r un lle.

 

  • Roedd 35 o aelodau’r Aelwyd yn fuddiolwyr uniongyrchol rhaglen o wersi canu ac adrodd wythnosol, rhywbeth sy’n peri gwelliant i iechyd a lles meddyliol, yn ôl ymchwil.
  • Cynhaliwyd dros 60 o sesiynau ymarfer yn ystod ein tymor 2018-2019.
  • Roedd y buddiolwyr anuniongyrchol yn cynnwys y gymuned a wyliodd y côr a’r grwpiau adrodd ar deledu cenedlaethol ac mewn cyngherddau trwy gydol y flwyddyn.
  • Mae’r aelodaeth wedi tyfu a gwnaethant gefnogi ein dysgwyr Cymraeg trwy berfformiadau yn eu cyfarfodydd.
  • Erbyn hyn mae’r Aelwyd yn defnyddio Capel Hermon bob wythnos – gan godi ei broffil o fewn y gymuned. Awgryma tystiolaeth anecdotaidd nad oedd llawer o aelodau’r gynulleidfa o’r Rhondda Uchaf yn ein Cyngerdd Nadolig erioed wedi bod i’r Capel. Rydym yn obeithiol y bydd ein defnydd parhaus o’r adeilad yn ei sicrhau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

     

“I mi mae’r Aelwyd yn harbwr diogel. Mae’n ffordd o ddianc o ddiflastod bywyd bob dydd. Mae’n rhywle yr aiff cydnabod yn gyfaill ac y caiff teulu ei greu!! Mae Aelwyd Cwm Rhondda yn gymuned, clwb comedi a chlwb drama ar adegau, ond yn anad dim, yn deulu! Sy’n ymhyfrydu yn yr hawddfyd ac yn cefnogi trwy’r adfyd! Diolch Aelwyd Cwm Rhondda, wnes chi achub fy mywyd i!”

“Dwi’n dod o Ogledd Cymru’n wreiddiol, felly doeddwn i ddim yn nabod llawer o bobl yma cyn ymuno â’r côr. Mae wedi bod yn braf dod o hyd i grŵp o bobl ifanc y galla i ganu a chymdeithasu â nhw. Roeddwn i ychydig yn nerfus cyn ymuno gan nad wyf wedi canu gyda chôr ers blynyddoedd, ond gwnes i ymgartrefu a theimlo’n esmwyth yn gyflym. Dwi wedi dod i nabod cynifer o bobl newydd a chael profiadau gwych yn canu gyda’r côr mewn gigs a chyngherddau gwahanol ac, wrth gwrs, yn yr Eisteddfod Genedlaethol”

 

“Yn ogystal â rhoi rhywle i mi siarad Cymraeg, mae’r Aelwyd wedi codi fy hyder a gwella fy iechyd a lles. Mae cystadlu ac ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf wedi bod yn brofiad anhygoel ac wedi fy ysbrydoli’n wir i wneud mwy yn Gymraeg. Mae’r Aelwyd wedi bod yn deulu i mi yn ystod y misoedd diwethaf ac wedi rhoi diben i mi mewn cyfnod anodd.”

 

Sut y bodlonodd y cais hwn flaenoriaethau’r gronfa:

Hybu diwylliant a threftadaeth Cymru / Annog cymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol