GRANT GAN Y GRONFA GRANTIAU BYCHAIN – £4998
“Fe adeiladom Academi Randiroedd i ddeiliaid plotiau ei defnyddio i storio cyfarpar ond hefyd ar gyfer y gymuned ehangach gan gynnwys dosbarthiadau a gweithdai ysgolion a Chanolfan Hyfforddiant Glyn-nedd. Mae fframwaith yr adeilad bellach wedi’i gwblhau, rydym wedi defnyddio’r adeilad ar gyfer cyfarfodydd partneriaeth ac mae’r gwirfoddolwyr lleol wedi defnyddio’r adeilad i wneud basgedi crog ar gyfer y gymuned.
Nid oedd y broses yn ddiffwdan oherwydd problemau gyda’r tywydd a’r adran gynllunio a arweiniodd at oedi wrth gwblhau. O’r diwedd, fodd bynnag, mae gennym adeilad sydd wedi ei gwblhau’n brydferth gyda saernïaeth o safon dda ac mae’r digwyddiadau cyntaf wedi bod yn gadarnhaol iawn.
Erbyn hyn rydym yn datblygu amserlen a chynllun gydag ysgolion yr ardal i gynnal gweithgareddau celf a garddio ar gyfer y flwyddyn academaidd 2019-20. Mae’r prosiect wrthi’n cymryd ei gamau cyntaf, er hynny mae llawer o ddigwyddiadau gwahanol eisoes wedi eu cynnal ar y cyd gyda Chanolfan Hyfforddiant Glyn-nedd, ysgolion a deiliaid rhandiroedd, a gobeithiwn mai dyma dim ond y dechrau i fwy o grwpiau cymunedol fod ar eu hennill gyda’r Academi Randiroedd.” – Ian Rhys Williams
Defnyddiwyd y grant o £4998 gan Gronfa Grantiau Bychain Pen y Cymoedd ar gyfer y camau cynllunio cychwynnol ac adroddiadau peirianyddion adeileddol. Dyma gam hanfodol yr oedd angen cymorth ar y grŵp i’w gyllido cyn iddynt fedru symud ymlaen at gyflwyno ceisiadau llwyddiannus am £54,000 gan gyllidwyr eraill sy’n gwasanaethu Cwm Nedd. Roeddem yn falch o gefnogi’r cam cychwynnol hwn i agor y drws i gyllid pellach.
Roedd y Gymdeithas wedi bod wrthi’n datblygu ac yn cynllunio’r cynnig hwn ers tro, gan ymgynghori â sefydliadau lleol a’r gymuned ehangach. Mae’n cysylltu’n dda â phrosiect tyfu cymunedol ehangach Canolfan Hyfforddiant Glyn-nedd a bydd y cyfleuster a safle hwn yn gyrchfan allweddol ar gyfer gweithgareddau a dysgu. Dymunwn lwyddiant parhaus iddynt.
Sut y bodlonodd y prosiect hwn flaenoriaethau’r gronfa:
Mwy o fywyd awyr agored / adeiladau a lleoedd sy’n addas i’r diben / rhwydwaith cynaliadwy o adeiladau cymunedol a ddefnyddir yn helaeth