CYFEILLION CRAIG GWLADUS

447 366 rctadmin
£3,750 – CRONFA GRANTIAU BYCHAIN – CHWEF 2017
Mae Craig Gwladus yn goetir ac yn barc gwledig, yn safle coetir hynafol wedi’i blannu, sy’n hafan i fywyd gwyllt, adar a phlanhigion a chaiff ei ddefnyddio’n helaeth gan bobl leol ac ymwelwyr. Mae’n fan gwyrdd cyhoeddus sylweddol ym mhen deheuol Cwm Nedd ac mae’r grŵp Cyfeillion gweithgar yn gweithio i sicrhau ei ddyfodol. Roedd gan y cais lle gwyrdd cymunedol hwn y potensial i fod o fudd i lawer o bobl a darparu ystod o fanteision llesiant a datblygu sgiliau.
Gwnaethant gais am 5 mainc, cynhwysydd diogel a sesiynau artist gyda phlant ysgol i gynllunio a datblygu murlun ar gyfer y parc a bodloni’r pwyntiau prosbectws canlynol:
• Gwneud yr ardal yn fwy gweledol ddeniadol a defnyddiol
• Adfer ac ail-greu cynefinoedd hanesyddol, brodorol
• Asedau naturiol yn cael eu gwerthfawrogi a’u datblygu ar draws yr ardal
• Creu ymdeimlad o berchenogaeth gymunedol ar eu hamgylchedd fel ased i fynd iddo ar gyfer hamdden, dysgu a mwynhau
 
“Mae’r prosiect wedi helpu i roi hwb i gychwyn adfywiad yn hanes y Parc, gan ailgynnau egni a diddordeb yn y parc gan ysgolion lleol, y Cyfeillion a’r gymuned ehangach. Cynhelir diwrnodau gwirfoddoli rheolaidd yn y parc, sy’n llawer haws gyda’r cynhwysydd ar gyfer storio offer a deunyddiau. Mae ymgysylltu ag ysgolion drwy’r prosiect hwn a ariennir wedi helpu i gynnau’r diddordeb ar gyfer prosiectau eraill yn y dyfodol yn cynnwys datblygu pecyn addysg a llwybr i ysgolion. Roeddem yn gallu cyflawni mwy na’r disgwyl gyda gweithdai celfyddydol cymunedol oherwydd haelioni’r artist o ran cyfrannu amser. Mae’r murlun yn gwneud datganiad go iawn o’r prif faes parcio a mae wedi cael ei edmygu’n fawr.” Dyfyniad gan Ian Davies – Cyfeillion Craig Gwladus
 
Beth sydd wedi digwydd:
  • Prynwyd cynhwysydd storio diogel sydd o fudd i waith gwirfoddol y Grŵp Cyfeillion
  • Gweithdai artist gydag ysgolion yn arwain at ddylunio murlun
  • 5 mainc newydd a wnaed o bren wedi’i adfer wedi’u hadeiladu a’u gosod o amgylch y Parc.
  • Oherwydd brwdfrydedd yr ysgolion a’r artist a gyda chyllid ychwanegol gan yr awdurdod lleol mae’r grŵp wedi gallu cynnwys disgyblion ysgol gyfun hefyd i ddatblygu murlun mwy o fainta fydd yn lapio o amgylch y cynhwysydd cyfan
  • Roedd y Grŵp Cyfeillion wedi gallu defnyddio eu harian eu hunain i brynu silffoedd ar gyfer y cynhwysydd
  • Dyfarnwyd i’r Grŵp Cyfeillion gyfanswm o £76,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri a Chyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer prosiect arbennig yn y parc sy’n ceisio ymgysylltu â phobl leol wrth reoli a chynllunio dyfodol y parc.
Pen y Cymoedd “Aeth y prosiect yn dda iawn ac rydym yn falch iawn bod grant bach o’r Gronfa Grantiau Bychain wedi helpu’r grŵp i adfywio diddordeb ac egni, gwneud gwelliannau go iawn i’r parc a chynnwys plant ysgol lleol wrth ymgysylltu â’r parc. Llongyfarchiadau enfawr ar y cyllid grant newydd a dymunwn y gorau iddynt gyda’r fenter newydd.”