ADNEWYDDU CAWODYDD CLWB RYGBI CWMGWRACH

630 361 rctadmin
£4,606 – CRONFA GRANTIAU BYCHAIN – CHWEF 2017
 
Sefydlwyd Clwb Rygbi Cwmgwrach yn 1912 ac mae gan y clwb aelodaeth gynyddol ac mae’n weithgar mewn gemau Cynghrair a Chwpan. Roedd gwaith draenio ar y cae wedi digwydd gyda chymorth grant gan Undeb Rygbi Cymru – nid oedd rhaid canslo gemau mwyach o ganlyniad i dir dwrlawn. Mae tîm pêl-droed newydd ar waith hefyd ers blwyddyn sy’n rhannu’r cau a’r cawodydd.
 
Roedd mawr angen gwneud gwaith adnewyddu ar y cawodydd yn cynnwys drysau newydd, ffenestr yn y nenfwd a gwaith paentio mewnol. Adeiladwyd y bloc cawodydd yn 1937 ac roedd angen ei uwchraddio i wasanaethu’r timau rygbi, pêl-droed a thimau sy’n ymweld.
 
“Mae’r ystafelloedd newid a’r cawodydd yn awr yn lle llawer haws i’w ddefnyddio ac yn fwy modern. Mae’n bwysig i chwaraewyr deimlo eu bod yn rhan o glwb sy’n cynnig darpariaeth o ansawdd uchel ac mewn gwirionedd o ganlyniad, mae chwaraewyr wedi dod yn fwy o ran o redeg y clwb o ddydd i ddydd, gan weithio gyda’i gilydd tuag at wella agweddau eraill. Mae’r chwaraewyr yn ddiolchgar am y gwelliannau i’r cyfleusterau ac wedi dangos eu diolch gan roi o’u hamser i brosiectau sydd o fudd i’r clwb a’r gymuned, gan gynnwys diwrnod tacluso a gwneud arwyddion newydd ar gyfer yr ystafelloedd gwisgo a’r cawodydd.” Dyfyniad gan Lisa Williams – Clwb Rygbi Cwmgwrach
 
Pen y Cymoedd “Daeth y cais hwn gyda chefnogaeth Undeb Rygbi Cymru a gadarnhaodd fod uwchraddio’r cyfleusterau yn hanfodol ac mae’n wych gweld sut mae’r Clwb a’r aelodau tîm pêl-droed yn elwa o ganlyniad i grant bach. Mae’n swnio’n gadarnhaol iawn sut mae chwaraewyr ac aelodau’r clwb yn dod at ei gilydd i wella amgylchedd y clwb ac mae rhai chwaraewyr bellach wedi ymuno â’r gymuned. Mae adeiladwr lleol hefyd wedi elwa drwy sicrhau’r gwaith i wneud yr uwchraddio. Pob lwc gyda bywyd y Clwb.”