CYDLYNYDD CLWB CODIO Y RHONDDA PEOPLE AND WORK UNIT £4,994 – CRONFA GRANTIAU BYCHAIN – CHWEF 2017

885 552 rctadmin
Mae People and Work yn elusen annibynnol sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth drwy ei ddwy swyddogaeth graidd:
hyrwyddo gwerth addysg a dysgu fel offeryn ar gyfer mynd i’r afael ag anghydraddoldebau, a hyrwyddo cyflogaeth, drwy raglen o brosiectau ymchwil gweithredu yn y gymuned ac ymgymryd â gwaith ymchwil a gwerthuso a gomisiynwyd ar gyfer y sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru, gan fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn meysydd megis addysg, iechyd a chyflogaeth.
 
Gwnaethant gais i Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd  i gefnogi creu swydd Cydlynydd Clwb Codio dros dro – gan roi profiad gwaith gwerthfawr i berson ifanc cyn mynd i mewn i addysg uwch i ddatblygu ei yrfa ac ymgysylltu â 40 o leiaf o bobl ifanc eraill y byddent gobeithio yn parhau â’r clybiau codio.  Cyfrannodd Pobl a Gwaith £11,796 o’u cronfeydd eu hunain tuag at y prosiect. Mae sgiliau codio yn sgil allweddol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, a gallai cyfleoedd i ddysgu’r sgiliau hyn yn ifanc ac ysgogi diddordeb roi dewis gyrfa diddorol i lawer o bobl ifanc, a hefyd bydd o fudd i sefydliadau cymunedol lleol a fydd yn elwa o ddatblygu apiau am ddim.
 
“Gwnaeth y prosiect ddechrau, cefnogi a helpu i gynnal clybiau codio ar gyfer pobl ifanc ac eraill yn Llyfrgell Treorci (14 yn mynychu), Canolfan Pentre (12 yn mynychu), Ysgol Gynradd Parc Darran (Glynrhedynog – 12 yn mynychu) a chlwb ieuenctid Valleys Kids yn Penyrhenglyn (5 yn mynychu). Gwnaed cysylltiad felly â 43 o bobl. Dyrannodd y Llyfrgellydd Ieuenctid yn Nhreorci ystafell am ddim â Wi-Fi ar gyfer y bobl ifanc oedd yn defnyddio’r llyfrgell i ddechrau clwb codio. Cytunodd Canolfan Pentre, canolfan annibynnol sy’n cael ei rhedeg gan y gymuned, i gynnal clwb codio fel rhan o’i darpariaeth ar ôl ysgol ar ddydd Mercher yn ystod y tymor. Hefyd, gwnaethon nhw gynnal sesiynau yn ystod gwyliau’r ysgol. Cafodd hyn ei ddefnyddio’n bennaf gan blant oed cynradd ac roedd yn cynnwys gemau meddwl cyfrifiadurol sy’n cyflwyno sgiliau rhesymu a chodio. Mae’r adnoddau rhad ac am ddim mwyaf poblogaidd a defnyddiol i’w gweld ar www.code.org. Bydd y grŵp hwn yn parhau gyda rhywfaint o gymorth gan People and Work. Arweinydd y prosiect oedd un o brif drefnwyr Expo Gemau cyntaf y Rhondda, a gynhaliwyd yng Ngholeg y Cymoedd, Llwynypia ym mis Awst lle y cafodd dwy brifysgol, tri busnes, dwy elusen, y coleg, Technocamps a phobl ifanc lleol sesiynau blasu gyda roboteg, realiti estynedig, codio, peirianneg/technoleg sain a gemau retro.
Mae arweinydd y prosiect hefyd wedi bod yn aelod llawn o dîm prosiect People and Work ac wedi chwarae rôl hynod o ddefnyddiol wrth adolygu, myfyrio a chynllunio gweithgareddau a chyd-gynhyrchu gwaith cymunedol yn y Rhondda. Er enghraifft, mewn Clwb Codio yn Nhreorci yn ddiweddar trafododd y grŵp wleidyddiaeth leol a rhyngwladol a sut mae hyn yn effeithio ar eu bywydau, gan ofyn am fwy o ddealltwriaeth ynghylch gan bwy mae’r pŵer a sut i ddylanwadu/effeithio ar newid.
Ar gyfer llawer o blant a phobl ifanc, mae’r cyfle i chwarae’n rhydd ar liniadur mewn amgylchedd dan oruchwyliaeth wedi ei werthfawrogi’n fawr. Rydym yn gweithio gyda llawer nad ydynt erioed wedi cael gliniadur cyfredol neu ryngrwyd band eang. Mae llawer o ddysgu wedi digwydd drwy chwarae rhydd unwaith y mae pobl ifanc wedi’u cyflwyno i rai adnoddau ar-lein priodol a’u harwain yn eu profiad cyntaf o godio.
Rydym wedi darparu cymorth ac arweiniad personol i nifer o bobl a grwpiau nad oeddent yn ymwybodol o godio a’r adnoddau sydd ar gael neu nad oeddent yn siŵr sut i fwrw ymlaen â hwy. Mae’r ddarpariaeth gymunedol bresennol wedi’i gwella: mae clybiau codio fel arfer wedi perfformio orau o gael eu cysylltu â darpariaeth gymunedol bresennol sydd â mynediad i’r rhyngrwyd. Bydd hyn yn helpu perchnogaeth a chynaliadwyedd. Mae clybiau a chanolfannau wedi elwa o ddysgu pa mor hawdd yw cael gafael ar adnoddau am ddim i roi cynnig ar godio.
 
Mae’r gweithiwr prosiect, sy’n 19 oed ac o Lynrhedynog, wedi cael cyfle i weithio gyda phobl ifanc mewn ffordd strwythuredig am y tro cyntaf (gyda chymorth a chanllawiau priodol) gan ddatblygu ei sgiliau arweinyddiaeth. Mae ef bellach wedi symud ymlaen i’r brifysgol i wneud gradd mewn cyfrifiadureg.
Fel sefydliad rydym wedi dod yn fwy ymwybodol o’r ystod eang o bobl ifanc talentog iawn yn y Rhondda, nid yw llawer ohonynt yn cael cyfle i fanteisio ar y dechnoleg a’r cymorth diweddaraf. Hefyd rydym wedi dod yn ymwybodol o’r amrywiaeth eang o feddalwedd a chaledwedd sydd ar gael am gost isel neu am ddim er mwyn rhoi cynnig ar godio a chyfrifiadura. Mae’r clybiau hyn yn adnodd ardderchog i ddwyn pobl ifanc ac oedolion ynghyd yn eu cymuned i greu grwpiau a allai fod yn hunangynhaliol.” – James Hall (People and Work)
 
“Mae hon yn enghraifft ardderchog o’r hyn y gellir ei gyflawni gyda grant o’r Gronfa Grantiau Bychain lle mae’r sefydliad wedi cael arian cyfatebol o rywle arall. Maent wedi cyrraedd 43 o fuddiolwyr mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol. Maent yn profi rhai anawsterau gydag ymgysylltiad gan ysgolion, yn rhannol oherwydd amseru’r prosiect tuag at ddiwedd y flwyddyn ysgol ac wedi nodi bod angen iddynt dreulio mwy o amser yn adeiladu perthnasau ag ysgolion, gan gydnabod eu bod yn wynebu pwysau cystadleuol ar amser ac adnoddau. Maent bellach yn bwriadu adeiladu’r clybiau sydd wedi dechrau rhedeg yn annibynnol i sicrhau eu bod yn dod yn gwbl gynaliadwy. Mae ganddynt gynlluniau i ymestyn y prosiect ac mae’r prosiect yn dangos pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth ac ennyn diddordeb cymuned.” – Kate Breeze (Pen y Cymoedd)