Cronfa Grantiau Bychain Rownd 4 – Cyhoeddi Dyfarniadau Grantiau!

968 736 rctadmin

Rydym yn falch iawn i fod yn dyfarnu ein pedwerydd cylch o Grantiau’r Gronfa Grantiau Bychain – a dweud wrth bawb am yr holl brosiectau amrywiol a chyffrous sy’n cael eu cefnogi. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi gwneud cais.

Unwaith eto, cafwyd llawer mwy o geisiadau nag yr oeddem yn gallu eu cefnogi. Cyflwynwyd 59 o gynigion yn gofyn am £240,000 – a’r tro hwn roeddem yn gallu gwneud 34 o ddyfarniadau gan ddosbarthu grantiau o £98,884. Gallwch weld y rhestr lawn yma.

Mae’r derbynwyr yn cynnwys:

  • ‘Colucci’s Kitchen’ – £5,000 -busnes arlwyo unig fasnachwr yng Nghymer Afan: bydd y grant yn helpu i brynu fan oergell i ddatblygu busnes cyflenwi brechdanau yn ychwanegol at y gwasanaethau y maent yn eu darparu eisoes yn llwyddiannus. Bydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pob agwedd ar y busnes, gan gynnwys cyflenwi bwffe a phrydau colli pwysau – mae rheweiddio yn galluogi ehangu ardal y farchnad darged gan gynyddu’r pellteroedd cludo. Bydd y busnes ychwanegol yn ei gwneud yn bosibl i Colucci gyflogi cyflogai amser llawn newydd.
  • Clwb Polo Dŵr Cwm Draig – ‘Growing New Dragons’ – £2137 – yr unig glwb o’i fath yn Rhondda Cynon Taf, wedi’i leoli yng Nghanolfan Hamdden Sobell. Mae polo dŵr yw gamp tîm sy’n datblygu cryfder, pŵer a dygnwch. Mae’r Clwb yn croesawu oedolion a phlant i hyfforddi ar gyfer ffitrwydd, cystadlu, neu dim ond i gael hwyl, ac maent yn cael eu cydnabod gan Nofio Cymru fel enghraifft ardderchog o’r gamp. Bydd y grant yn cefnogi cyfranogiad menywod mewn chwaraeon – bydd yn cwmpasu cost offer hanfodol, amser yn y pwll, hyfforddi hyfforddwr penodedig ar gyfer tîm y menywod a datblygu llwybr hyfforddi ar gyfer merched. Mae’r eitemau y gofynnir amdanynt yn amlwg yn flaenoriaeth a byddant yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r aelodau a’u potensial.
  • Rhondda Rockets Cheerleading – ‘Reach for the Stars’ – £4965.98 – Mae’r tîm cefnogi a dawns llwyddiannus hwn wedi ennill llawer o bencampwriaethau rhanbarthol a chenedlaethol – gan ennill gwobrau cyntaf yn rheolaidd. Er mwyn sicrhau y gallant hyfforddi mor aml â phosibl ac ymgysylltu â chynifer o bobl ifanc ag y gallant, maent yn defnyddio tri lleoliad cymunedol ar wahân bob wythnos – ni all un lleoliad ddarparu ar gyfer y grŵp mawr a brwdfrydig hwn. Ceir rhestr aros i ymuno a gwirfoddolwyr sydd yn ymroddedig ac yn helpu ym mhob sesiwn, ond gyda dim ond un hyfforddwr nid ydynt yn gallu cynyddu’r niferoedd. Bydd y grant hwn yn cefnogi hyfforddi pedwar hyfforddwr newydd er mwyn caniatáu i’r grŵp dyfu a datblygu a dod yn fwy ariannol diogel a bydd hefyd yn galluogi prynu cyfarpar ac offer newydd.
  • Côr Meibion Glyn-nedd-‘Look #’ – £4400 – mae’r côr sefydledig a phoblogaidd hwn yn ymarfer ddwywaith yr wythnos yng Nghlwb Rygbi Glyn-nedd. Maent yn cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau drwy gydol y flwyddyn o’r gyngerdd flynyddol yn Neuadd y Dref yng Nglyn-nedd i berfformiadau cabare ac elusennol a digwyddiadau preifat. Maent wedi cael trafferth gyda niferoedd yr aelodau dros y blynyddoedd diwethaf ac wedi dod i’r casgliad er mwyn i gôr meibion cymunedol traddodiadol oroesi a ffynnu, mae angen newid eu delwedd er mwyn denu cantorion iau a chefnogwyr newydd. Lansiwyd rhaglen ymgysylltu weithgar, mae aelodau ifanc yn cael eu recriwtio, a’r bwriad yw cynyddu nifer y cantorion i 40. Gwneir y penderfyniad ar ddyluniad terfynol gwisg newydd i’r côr ar ôl ymgynghori â dynion ifanc yn y pentref a’r cantorion iau sydd eisoes yn ymwneud â’r côr.