Yn glwb sydd wrth galon ei gymuned go iawn, roedd y Prosiect Trawsnewid Cymunedol yn cynnwys ffensys ochr y cae a pherimedr newydd i amgáu’r maes chwarae, gosod wyneb newydd ar y maes parcio, ac adnewyddu’r safle. Roedd hwn yn brosiect uchelgeisiol ac yn ogystal ag arian PyC roedd ganddynt arian cyfatebol gan URC a’u harian eu hunain.
“Roeddem yn falch iawn o fod yn gweithio gyda PyC ar y cynllun hwn a diolch iddynt am eu cymorth i sicrhau bod yr arian ar gael yn ein hardal ar gyfer gwaith a fydd yn gwella’r cyfleusterau o fewn GRFC er mwyn i Gymuned Glyn-nedd elwa ohono. Fel clwb rydym wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd diwethaf i ariannu Cyfleuster Hyfforddi 3G, maes chwarae ar y safle ac offer a storfa ddiogel. Mae’r prosiect diweddaraf hwn yn gwneud y cyfleusterau yn y clwb yn brofiad gwell i aelodau, chwaraewyr, gwesteion a chymuned ehangach Glyn-nedd ei fwynhau.”