Clwb Celfyddydau Fane

1024 888 rctadmin

£750 – CRONFA GRANTIAU BYCHAIN – CHWE 2017

Mae gan Glwb Celfyddydau Fane – a sefydlwyd yn 2014, 12 aelod a’i nodau yw hybu cymryd rhan yn y celfyddydau, gwella rhyngweithio cymdeithasol, hunan-barch a hyder. Dyma’r unig glwb celfyddydau yng Nghwm Nedd Uchaf, wedi’i leoli yng Nghanolfan Hyfforddiant Glyn-nedd. Maent yn cynnal arddangosfeydd rheolaidd yn y Ganolfan sy’n denu llawer o ymwelwyr.

Dyma glwb brwdfrydig ac ymroddedig, roedd arddangosfa 2016 wedi dechrau pan gynhaliom sesiwn galw heibio yn y Ganolfan Hyfforddiant, felly gallem weld safon uchel y gwaith a’r llyfr sylwadau. Wedi hynny, arddangoswyd y paentiadau mewn caffi lleol.

Dioddefodd un aelod strôc ac mae’n gweld bod celf yn rhan werthfawr o’i ymadfer. Mae’r Clwb yn cynnig cyfleoedd cymdeithasu ar gyfer ei aelodau, ond maent yn ddifrifol iawn ynghylch gwella a datblygu eu sgiliau. Maent yn hysbysebu eu sesiynau ar wefan Clwb Hyfforddiant Glyn-nedd, trwy ledaenu’r gair yn lleol, taflenni ac arddangosfeydd.

“Defnyddiom y £750 fel cyfraniad tuag at dalu am diwtor i roi dosbarth meistr mewn sesiynau printio a bywluniad. Mae’r gweithgareddau hyn yn ffurfio rhan o’n hamserlen bob tymor ar gyfer ein haelodau sy’n cynnwys addysgu rheolaidd, sesiynau agored, dosbarthiadau meistr pan allwn eu fforddio a theithiau i orielau. Roedd y dosbarth meistr a ariannwyd gan Pen y Cymoedd yn rhagorol, a denodd pobl newydd i ddod i ymuno â ni. Mae aelodau’r grŵp a phobl newydd yn teimlo’n gyffrous i ddysgu sgiliau newydd. Mae cael gweithgareddau fel hyn yn helpu wrth ennyn diddordeb pobl yn y grŵp ond yn bwysicach na hynny yn galluogi ni i wella’n sgiliau creadigol. Mae’r tymor diwethaf hwn o weithgareddau wedi rhoi hwb go iawn i egni’r grŵp sydd wedi dod lan gyda llawer o syniadau newydd, ac rydym yn edrych ymlaen at weddill y flwyddyn.” Dyfyniad gan Brian Morgan – Clwb Celfyddydau Fane (a leolir yng Nghanolfan Hyfforddiant Glyn-nedd).