GRANT GAN Y GRONFA GRANTIAU BYCHAIN – £1,480
Cynigiwyd y grant i gefnogi costau cludiant a chyfarpar er mwyn i’r grŵp hwn ymweld â 12 tref a phentref i hyrwyddo manteision grwpiau cerdded Nordig, recriwtio aelodau newydd a hwyluso sefydlu grwpiau newydd i ‘Gerdded Yn Ôl i Hapusrwydd’.
“Y nod oedd hybu rhaglen ymarfer corff iach a chyflawnadwy ar gyfer aelodau’r gymuned yr oeddent yn unig ac yn teimlo eu bod wedi’u heithrio o gymdeithas am ba reswm bynnag. Darparodd y prosiect gwmnïaeth ar gyfer y bobl hyn hefyd yn ogystal â manteision iechyd Cerdded Nordig sydd wedi eu nodi’n helaeth.
Mae ein haelod hynaf newydd yn 86 oed, mae’n byw ar ei ben ei hun, mae’r gwahaniaeth rydym wedi’i wneud i’w fywyd yn anhygoel – mae gennym 3 aelod yn eu wythdegau y maent i gyd yn byw ar eu pennau eu hunain. Mae’n rhoi ymdeimlad o falchder a boddhad i bob aelod o’r grŵp y gallwn gynnig cynifer o effeithiau cadarnhaol i’w hiechyd emosiynol yn ogystal â’u llesiant corfforol. Gofynnwyd yn annisgwyl i ni gyfrannu at gyd-drafodaeth drawsbleidiol Seneddol ar Unigrwydd ac fe gyfrannom hefyd at ymgynghoriad tebyg a drefnwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Mae rhai o’n canfyddiadau wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, canfyddiadau a seiliwyd ar brofiadau ein prosiect a ariannwyd gan Pen y Cymoedd.
Targedwyd y prosiect at bobl yr oeddent yn teimlo’n unig, wedi’u heithrio’n gymdeithasol o ganlyniad i golli partner, ailsefydlu yn sgil cyflyrau iechyd gwanychol fel canser, clefyd Alzheimer etc. Mae gennym aelodau a ymunodd â’n prosiect ar ôl colli partner mor ddiweddar â 6 wythnos ynghynt – un o’n canfyddiadau – nid yw pobl sydd yn y sefyllfa hon eisiau cerdded gyda phobl y maent yn eu hadnabod neu a fu’n adnabod eu partner! Pan fyddant yn cerdded gyda ni, maent yn anghofio eu galar.
Wrth edrych yn ôl, efallai mai un agwedd ar y prosiect a ddaeth i’r amlwg yn ystod y flwyddyn oedd yr angen am ‘gymorth/dysgu un i un’. Mae rhai pobl yn amharod i ddysgu mewn grŵp rhag ofn iddynt deimlo embaras ac yn y cam hwn mae gennym gryn nifer y dylem fynd â nhw allan ar eu pennau eu hunain.
Ni fyddai’r gweithgaredd wedi bod yn bosib heb gymorth a chyfranogiad Vattenfall, a alluogodd i ni ennyn diddordeb a chynorthwyo pobl sy’n agored i niwed o fewn y gymuned a dargedwyd i alluogi eu cyfranogiad” – Frank Long Cerdded Nordig y Tri Chwm
“Erbyn hyn rwy’n edrych ymlaen at fy nhaith gerdded dydd Gwener gyda fy ffrindiau newydd, mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth i fy llesiant emosiynol gan fy mod yn byw ar fy mhen fy hun” – Ashley