Pen y Cymoedd Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Cartref

Croeso i Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd

Sefydlwyd y Gronfa gan gwmni ynni Vattenfall er budd y cymunedau hynny sydd yn gartref i’w fferm ynni gwynt ar draws blaenau cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon.

Mae gan y gronfa gyllideb flynyddol o £1.8 miliwn y flwyddyn yn gysylltiedig â mynegai, ac wrth i fynegai cysylltiedig olygu ei bod ynghlwm wrth gyfradd chwyddiant, mae’n tyfu bob blwyddyn ac yn 2024 roedd yn £2.4 miliwn. Mae’r gronfa yn cynnig cyfle anhygoel i bobl leol fuddsoddi ynddynt eu hunain a’u syniadau – gan adeiladu ar bopeth sydd orau yn eu cymunedau. Ewch i’r tudalennau ‘Gwneud Cais am Gyllid’ i gael gwybod mwy.

Rheolir y Gronfa gan Gwmni di-elw er Budd Cymunedol sydd yn atebol yn lleol ac yn gwbl annibynnol. Mae gan y Cwmni wyth cyfarwyddwr a thîm o 3 aelod o staff – pob un â chysylltiadau lleol sydd yn meddu ar flynyddoedd o brofiad mewn gwaith cynnal cymunedau. Rydym yma i helpu! Gallwch ddarllen mwy amdanom ni fan hyn.

Rydym yn gobeithio y dewch o hyd i’r rhan fwyaf o’ch cwestiynau ar y wefan, ond os na, tarwch nodyn atom ni enquiries@penycymoeddcic.cymru neu ffoniwch 01685 878785. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych chi.

Lawrlwythiadau

Mae llawer o ddogfennau defnyddiol ar ein tudalennau Lawrlwytho a Chanllawiau a Chysylltiadau – dogfennau megis canllawiau, fersiwn hawdd ei ddarllen o’n Prosbectws, manylion o grantiau a roddwyd, astudiaethau achos, ein polisïau a dyddiadau ar gyfer ein sesiynau galw-mewn.

Ardal y Gronfa

Yn gyffredinol, y cymunedau sy’n gymwys i gael cymorth yw’r rhai yn rhannau uchaf cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Mae’r trefi a’r pentrefi sydd wedi’u cynnwys yn ardal y Gronfa wedi’u rhestru yma. Os ydych yn ansicr a yw eich sefydliad neu syniadau am gynnig yn dod o fewn yr ardal, cysylltwch â ni. Mae’n bosibl i ymgeiswyr fod wedi’u lleoli y tu allan i’r ardal, ond mae’n rhaid i’r gweithgaredd neu’r prosiect arfaethedig gynnwys cymunedau oddi mewn iddi, a bod o fudd uniongyrchol iddynt.

Beth yw blaenoriaethau’r Gronfa?

Datblygwyd Prosbectws y Gronfa yn dilyn ymgynghoriad eang yn lleol. Mae’n rhoi i ni fframwaith cychwynnol, a bydd yn cael ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd. Dymunwn gefnogi syniadau arloesol, datblygiad sgiliau, hyfforddiant a menter ac rydym yn awyddus i glywed ac i drafod eich syniadau chi.

Our Funding Priorities – Prospectus – Pen Y Cymoedd Community Fund (penycymoeddcic.cymru)

Dolenni Cyflym

Cael eu Hysbrydoli

Cliciwch yma i ddarllen astudiaethau achos ac ysbrydoli storïau am y grwpiau, busnesau a gweithgareddau a gefnogir gan y gronfa gymunedol

Cael gwybod mwy...

Newyddion Diweddaraf

Darllenwch y newyddion diweddaraf am Pen y Cymoedd CIC er mwyn cadw lan â’r datblygiadau diweddaraf

RHAGOR O NEWYDDION...

Gwnewch Gais am Gyllid

Dysgwch mwy am y Gronfa, codwch eich pensil a lawr-lwythwch ffurflen gair. Gallwch hefyd gyflwyno eich cais yn electronig.

SUT I YMGEISIO....

Y newyddion diweddaraf

Pen y Cymoedd: CYDWEITHIO ARFER GORAU
1024 1024 rctadmin

ELUSENNAU CRYFACH, CYMUNEDAU CRYFACH Trwy weithio ochr yn ochr â channoedd o elusennau bob blwyddyn, rydym yn gwybod bod hwn yn gyfnod hynod heriol i sefydliadau yn y rheng flaen gan eu bod dan fwy o bwysau nag erioed o’r blaen. Mae arweinwyr elusennau a’u timau’n gweithio’n galed i ymateb i’r cynnydd mewn galwadau gan…

Darllen mwy
Cyllid o £26,000 wedi’i ddyfarnu i Valleys Kids ar gyfer Families Together yn Hyb Llesiant Cymunedol Penyrenglyn
1024 1024 rctadmin

Fe wnaethom gefnogi Valleys Kids i ddechrau gyda grant mawr i sefydlu a chefnogi eu menter gymdeithasol anhygoel The Play Yard yn ôl yn 2019. Mae’r cyfleuster hwnnw bellach yn ased lleol sy’n cael ei ddefnyddio’n helaeth ac sy’n cael ei werthfawrogi. Fel pob elusen, mae’r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd iawn i…

Darllen mwy
Call for proposals: a creative project to capture the impact of the Pen y Cymoedd Community Fund!
1024 560 rctadmin

Background Pen y Cymoedd CIC has appointed Wavehill, an independent social and economic research consultancy, to evaluate the impact of funding from its Community Fund. The evaluation is using a range of methodologies to assess the impact on communities in the Area of Benefit. See the Pen y Cymoedd Community Fund website for details of…

Darllen mwy
Mae PyC yn gyffrous i gynnig datblygiad Cam 2 Cynon Linc gyda chyllid o £188,664 dros y tair blynedd nesaf.
690 649 rctadmin

Mae Cynon Linc yn ganolbwynt cymunedol bywiog, sydd ar gael i bob oed a gallu, yng nghanol tref Aberdâr. Mae’n darparu lle i fwyta a chymdeithasu, yn ogystal â darparu mannau i’w llogi ac amrywiaeth o wasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael i’r gymuned leol. Mae’n cynnig amrywiaeth o wasanaethau i helpu i gefnogi pobl…

Darllen mwy
Pen y Cymoedd yn croesawu aelod newydd o’r Bwrdd, Jamie, ac yn ffarwelio ac yn diolch i Victoria.
1024 576 rctadmin

Fel rhan o’n hymrwymiad i adnewyddu’r sgiliau a’r profiad ar y Bwrdd rydym yn adnewyddu ein Bwrdd yn rheolaidd gydag aelodau newydd. Fis Hydref eleni rydym yn llawn cyffro i groesawu aelod newydd, Jamie Smith. Cafodd Jamie ei eni a’i fagu yng Nghwm Afan a’r cyffiniau ac mae wedi gweithio mewn rolau sy’n ymwneud ag…

Darllen mwy
Pob Plentyn, Pob Cyfle – bydd Dallaglio RugbyWorks mewn ysgolion yng Ferndale ac Aberdâr am y 3 blynedd nesaf, diolch i gyfraniad gwerth £35,500 gan Pen y Cymoedd
1024 1024 rctadmin

Mae Dallaglio RugbyWorks yn ymyriad ym maes rygbi sy’n ffocysu ar sgiliau dwys a datblygu iechyd; eu nod yw help pobl ifanc sy’n wynebu’r nifer mwyaf o rwystrau rhag sicrhau dyfodol positif a chynhyrchiol iddynt eu hunain. Bydd yr ymyriad yn golygu sesiynau wythnosol, gyda hyfforddwyr RugbyWorks yn mynd i mewn i ysgolion a gweithio…

Darllen mwy
Dyfarnu £21,998.80 i Glwb Bechgyn a Merched Treherbert ar gyfer Eisteddle Gwylwyr a Storfa
1024 768 rctadmin

Sefydlwyd Treherbert BGC ym 1935 ac maent yn berchen ar adeilad ger gorsaf drenau Treherbert, sydd ar agor 5 diwrnod yr wythnos gyda thua 180 o ddefnyddwyr rheolaidd. Mae’r adeilad yn rhedeg clwb ieuenctid, pêl-droed dan do a hyfforddiant ac mae hefyd yn ganolfan ar gyfer Autism Life Centres. Yn ôl yn 2021, cyhoeddodd CBS…

Darllen mwy
Clwb Bowls Cymmer yn derbyn grant o £20,750 i Wella’r Cyfleusterau a Dathlu’r Canmlwyddiant
725 637 rctadmin

Roedd y clwb wedi bod yn ystyried gwneud gwaith adnewyddu ar raddfa fawr ond, ar ôl trafod gydag asiantaethau cefnogi ac aelodau, penderfynwyd taw’r pethau fyddai’n gwneud gwahaniaeth go iawn fyddai adnewyddu’r llawr a’r cladin allanol, ac uwchraddio’r system drydan a’r gegin. Pan dderbyniwyd cais oddi wrthynt, roeddem yn falch o weld cynllun realistig i…

Darllen mwy
Pen y Cymoedd: CYDWEITHIO ARFER GORAU GWIRFODDOLI
1024 1024 rctadmin

Mae gwirfoddoli mor bwysig heddiw ag y bu erioed mewn perthynas â grwpiau’r Trydydd Sector a’r cymunedau maent yn eu cefnogi. Fel Cydlynydd Gwirfoddolwyr yn Interlink RhCT, fy rôl i yw cynnig cyngor a chanllawiau i’r grwpiau hyn. Dyma rai o’r pethau allweddol rwy’n ceisio eu rhannu mewn perthynas â gweithio gyda gwirfoddolwyr. P’un ai…

Darllen mwy
SWYDD WAG EISIAU RHEOLWR CYLLID A CHRONFA
1024 512 rctadmin

Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd ar gael i grwpiau cymunedol a busnesau sy’n gweithio i wella a datblygu cyfleoedd i bobl sy’n byw yn rhannau uchaf cymoedd Castell-nedd, Afan, Rhondda a Chynon.  Gyda £1.8m y flwyddyn (index linked) tan 2043, mae’r Gronfa yn buddsoddi mewn cymunedau a busnesau. Os ydych yn angerddol…

Darllen mwy