Nôl ym mis Mawrth 2020, gwnaethom ariannu Cymdeithas Gelf Aberdâr gyda grant o £1,500. Wrth gwrs, gyda’r pandemig roedd popeth ar stop am flwyddyn, ac fe gytunon ni i ymestyn y cyfnod grant.
“Ein prosiect oedd ehangu ein grŵp celf a chynnig gwasanaethau newydd i aelodau lleol y cyhoedd gan obeithio y byddai ganddyn nhw ddiddordeb mewn ehangu eu gallu artistig neu i’w gymryd i fyny. Byddai hyn yn cymryd siâp ar ffurf deunyddiau ychwanegol i bobl sydd heb fynediad at baent i allu dod i mewn a rhoi cynnig ar eu llaw wrth baentio. Yn ogystal â sawl gweithdy drwy gydol y flwyddyn lle gallai aelodau’r cyhoedd ddod i mewn a dysgu am wahanol gyfrwng y paentio. Roedden ni hefyd yn bwriadu cynnal noson agored i hysbysebu ein grŵp i’r cyhoedd.
Rydym wedi gweld llawer o wynebau newydd yn ein gweithdai. O’dd pobl oedd erioed wedi paentio o’r blaen i’r rhai oedd eisiau trio technegau newydd. Roedd un o’r gweithdai ar gelf haniaethol a’r holl aelodau oedd fel arfer yn gwneud tirluniau traddodiadol yn cymryd rhan ac yn rhoi cynnig ar rywbeth na fydden nhw erioed wedi ceisio oni bai am y tiwtor yn dod i mewn ac egluro’r broses.
1. Mae gennym 4 aelod parhaol newydd o’r gymdeithas
2. Fe wnaeth pob aelod o’n grŵp ni elwa mewn rhyw ffordd o’r grant, gan allu dysgu sgiliau newydd ac agor y drws ar gyfer ffyrdd newydd o feddwl yn y dyfodol.
3. Roedd llawer o’n haelodau presennol yn ogystal â nifer o aelodau’r cyhoedd yn gallu defnyddio’r deunyddiau a ddarparwyd gan y grant. Bob tro y cawsom weithdy, fe ddefnyddiom ni’r cyflenwadau i ehangu ein gwaith a heb y grant na fyddai hynny wedi bod yn bosibl.
4. Cawsom amrywiaeth mawr o diwtoriaid. Ein cyntaf oedd athro acrylig a weithiodd gyda ni i baentio’r un llun ag yr oedd yn ei ddangos i ni. Yn ystod y digwyddiad hwnnw roedd yn rhaid i ni rannu byrddau gan fod cymaint o bobl yn yr ystafell. Llenwyd pob un gadair.
Mae’r grant wedi helpu Cymdeithas Gelf Aberdâr yn fawr iawn. Gyda’n gweithdy diwethaf yn gorffen ychydig wythnosau yn ôl mae pawb yn gyffrous am y tro nesaf efallai y gallwn gael artistiaid i mewn i ddangos eu gwaith. Dyma’r tro cyntaf i mi ymgeisio am grant ac roedd yn rhaid i mi drefnu gweithdai, felly mae wedi bod yn brofiad cyffrous yr wyf wedi dysgu llawer ohono. Gobeithio y gall Pen y Cymoedd a Chymdeithas Gelf Aberdâr barhau i gydweithredu yn y dyfodol.
Diolch yn fawr, Kevin, Cymdeithas Gelf Aberdâr.”
https://penycymoeddcic.cymru/wp-content/uploads/2022/11/case-study-1.png
702
694
rctadmin
rctadmin
https://secure.gravatar.com/avatar/456a96fd796a46b558e74ecc3c0c3440?s=96&d=mm&r=g