GTFM – Cysylltu Aberdâr – £12,491.60
Bu GTFM yn arloesi radio lleol nid er elw yng Nghymru yn 2002 pan ddechreuodd ddarlledu i Bontypridd a’r rhannau o RhCT o’i chwmpas ar sail arbrofol, gan ddilyn rhagddarllediadau byrion yn Rhydyfelin ym 1999 a 2000 – cyn mynd yn drwyddedai Radio Cymunedol cyntaf Cymru yn 2005.
Mae GTFM yn elusen gofrestredig ac mae ei chyflwynwyr yn wirfoddolwyr sy’n gweithredu’n unol â safonau proffesiynol, gan gynhyrchu cymysgedd difyr o newyddion, gwybodaeth a cherddoriaeth leol sydd eisoes wedi’i gwneud yn ddewis gwrando ‘rhif 1’ llawer o drigolion mewn rhannau o RhCT a all ei derbyn eisoes, yn ôl ymchwil annibynnol.
A thra y gall gwrandawyr mewn lleoedd eraill wrando ar GTFM trwy ‘uchelseinyddion clyfar’ a’r rhyngrwyd bellach, yn ddiweddar rhoddodd y rheoleiddiwr telathrebu Ofcom ganiatâd i’r orsaf adeiladu trawsyryddion trosglwyddo i lenwi bylchau mewn derbyniad yn y Fwrdeistref Sirol a achosir gan y dirwedd fryniog leol.
Bryd hynny cysylltodd GTFM â Phen y Cymoedd a gytunodd i ariannu adeiladu dau drawsyrrydd newydd yn ardal Aberdâr, i alluogi trigolion lleol i ymwneud yn llawnach â’r gweithgareddau cymunedol y mae’r orsaf yn eu hyrwyddo.
Wrth ymestyn ei darpariaeth i Aberdâr a Chwm Cynon, bydd GTFM yn:
– Darparu ymdriniaeth uchel ei pharch o storïau newyddion lleol, RhCT a Chymru yn ychwanegol at benawdau byd-eang a’r DU, ynghyd â chwaraeon, newyddion teithio a gwybodaeth am beth sydd ymlaen;
– Cynnig cyhoeddusrwydd am ddim i sefydliadau elusennol ac nid er elw lleol, gan alluogi nhw i hyrwyddo’r hyn y maent yn ei wneud a’r digwyddiadau maen nhw’n eu trefnu;
– Rhoi cyfrwng hysbysebu newydd a fforddiadwy i fusnesau lleol a ddylunnir i gysylltu mentrau lleol â darpar gwsmeriaid lleol;
– Hybu gwirfoddoli yn y gymuned a chynnig ei chyfleoedd ei hun i drigolion lleol;
– Hybu dysgu a defnyddio’r Gymraeg yn weithredol yn ardal Aberdâr;
– Darparu cefnogaeth gref dros ei darllediadau trwy ei ffynonellau cyfryngau cymdeithasol a gwefan weithredol.
“Diolch i’r cyllid Pen y Cymoedd , mae’r trawsyryddion a fydd yn darparu’r gwasanaeth newydd hwn eisoes yn cael eu hadeiladu ac mae disgwyl iddynt gychwyn trawsyriadau prawf yn fuan ar 100.2 a 107.1Mhz FM, gyda’r bwriad o fynd yn gwbl weithredol yn gynnar yn yr haf. “Terry Mann Rheolwr yr Orsaf
IronWorX – Campfa IronWorX – £75,000 (fel cymysgedd o fenthyciad a grant)
Bydd y Gampfa IronWorX yn cynnig cyfleuster ffitrwydd o’r radd flaenaf gyda gofod, cyfarpar a gwybodaeth a ddylunnir yn arbennig. Bydd yn darparu iechyd, ffitrwydd ac yn y pen draw llesiant i bob oedran o fewn y gymuned. Bydd hefyd yn darparu hyb i glybiau (rhai presennol a newydd fel clybiau rhedeg, cerdded a beicio) gwrdd a storio cyfarpar hyd yn oed os nad ydynt yn aelodau.
Mae Morgan yn hyfforddwr personol ac yn Mr Ffit, cymeriad a greodd lle gall unigolion ddysgu hanfodion y Gymraeg ac ar yr un pryd cael hwyl wrth gadw’n heini. Bydd Ironworx, sydd eisoes yn cynnig hyfforddiant personol yn Hirwaun a’r cylch, ynghyd â’r Brocks Bootcamp llwyddiannus iawn a lansiwyd yn gynnar yn 2020, yn adeiladu ar y llwyddiant hwn o gynnig ffitrwydd brwd a gwybodus i bobl yn Hirwaun, ond hefyd ymhellach i ffwrdd.
Bydd cynllun y gampfa’n cael ei ddylunio gan roi blaenoriaeth i hygyrchedd er mwyn i ddefnyddwyr hŷn ac anabl ddefnyddio’r cyfleusterau’n hwylus. Bydd Campfa IronWorX wedi’i lleoli ym mhentref Hirwaun, a bydd yn recriwtio ac yn cyflogi dau aelod staff o fewn y flwyddyn fasnachu gyntaf, bydd hefyd yn cefnogi hyfforddwyr ffitrwydd presennol i gynnig eu sesiynau’n lleol ar sail llawrydd. Byddant yn cysylltu â’r ysgolion lleol (gan alluogi nhw i ddefnyddio’r gofod ar gyfer sesiynau addysg gorfforol neu i hyfforddwyr ymweld â’r ysgol) a’r timau chwaraeon lleol.
“Rwy’n ddiolchgar iawn i Gronfa Gweledigaeth Pen y Cymoedd a’i dîm am gefnogi fy ngweledigaeth o greu cyfleuster ffitrwydd ym mhentref Hirwaun. Rwy’n credu bod galw wedi bod ers tro hir am y math hwn o gyfleuster yn y pentref ac y bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau trigolion Hirwaun a’r cylch, yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar y pentref ei hun.
Bydd aelodau o’r gampfa’n mynd yn rhan o ‘deulu ffitrwydd’ o fewn y gymuned a bydd yn gweithredu fel canolbwynt iechyd, ffitrwydd a llesiant. Bydd y grant yn galluogi Campfa IronworX i addysgu, cymell ac ysbrydoli unigolion i wella iechyd, ffitrwydd a llesiant yn gyffredinol. Caiff hyn ei gyflawni trwy ddarparu amrywiaeth o’r technegau ffitrwydd ac iechyd, dosbarthiadau a chyfarpar i’w haelodau.
Rwy’n angerddol iawn dros iechyd a ffitrwydd a helpu pobl eraill i wella’u hunain. Mewn cyfnod pan fydd Iechyd a Llesiant yn hollbwysig yn ein bywydau, bydd y gronfa’n helpu datblygu effaith y prosiect y tu hwnt i ymarfer corff yn unig.
Heb gefnogaeth gan Pen y Cymoedd a’r Gronfa Gweledigaeth ni fuasai’n bosib cyflawni’r prosiect hwn. Diolch.” – Morgan, IronWorX
Ardal Gwella Busnes Ein Aberdâr – £25,000
Ardal Gwella Busnes a sefydlwyd yn 2020. Mae Ardaloedd Gwella Busnes (BID) yn profi bod ganddynt lawer i’w gynnig ar sawl lefel yn ystod yr hyn a fu’n flwyddyn anodd i’r strydoedd mawrion: Mewnwelediad ac arbenigedd o ymgysylltu effeithiol gyda llawer mwy o fuddiannau busnes na’r hyn a fu’n wir hyd yma / adnoddau newydd ar gyfer buddsoddi o’r ardoll BID ei hun, ac o’r defnydd effeithlon o’r cyllid hwn trwy drosoli symiau cyfatebol o ffynonellau eraill / sail well dros gydweithio – rhwng y sectorau gwahanol ar faterion gweithredol a strategol.
Ymgynghorodd Rheolwr a Bwrdd Ymddiriedolwyr y BID â busnesau i asesu effaith COVID ac erbyn hyn mae ganddynt fanylder cynllun cyflwyno 18 mis ond mae ganddynt gynlluniau uchelgeisiol hefyd ar gyfer gweddill y prosiect 5 mlynedd sy’n cynnwys gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan, creu ‘hyb menter’ i Aberdâr, sefydlu is-grŵp sydd â ffocws ‘gwyrdd’ i helpu llywio grŵp o berchnogion busnes sy’n fwy ymwybodol/gweithredol o ran yr amgylchedd.
Gyda ffocws cychwynnol ar wella golwg a theimlad canol y dref, maent yn gobeithio y bydd hyn yn helpu ysbryd y gymuned, ennyn diddordeb busnesau yn y BID trwy ddangos effaith yn gyflym a helpu’r dref i edrych a theimlo’n barod ar gyfer yr haf wrth i’r cyfnod clo ddod i ben. Byddant yn taclo siopau gwag trwy leininau a gorchuddion ffenest finyl a gwneud y dref yn fwy deniadol i ddarpar denantiaid newydd.
“Mae Pen y Cymoedd bob amser yn annog cynllunio cymunedol, i gytuno ar gamau gweithredu ar gyfer gwelliannau cynaliadwy. Mae Ein Aberdâr wedi gwrando o ddifri ar eu haelodau ac maent yn angerddol dros helpu busnesau a’r economi i ffynnu yn Aberdâr. Gyda chynlluniau i wella golwg a theimlad yr ardal, maent yn gobeithio gostwng nifer y siopau gwag, ac ar yr un pryd denu busnesau i’r stryd fawr. Mae eu cynlluniau’n gweddu’n berffaith i weledigaeth Pen y Cymoedd i gefnogi strydoedd mawrion deniadol sy’n cael eu cadw’n dda, gan ddarparu amgylchedd gwych ar gyfer datblygu lleol, ac rydym yn gyffrous iawn i weld eu cynlluniau’n tyfu ymhellach”- Michelle Swyddog Cefnogi Menter PyC
“Mae gan ein BID yn Aberdâr gyfle unigryw trwy Pen y Cymoedd i wneud y gwelliannau yn Aberdâr, gan alluogi’r dref i dysgu a ffynnu hyd eithaf yr hyn y mae’n ei haeddu. Rydym yn falch o fod yn ymuno â buddiolwyr eraill y sefydliad buddsoddi cymunedol hwn; Eglwys Elfan Sant, Amgueddfa Cwm Cynon a Chynon Linc Age Connects Morgannwg, a bydd hyn yn ei dro yn hybu twf go iawn ymysg busnesau Aberdâr er budd pawb.” – Bwrdd BID Ein Aberdâr
Llyfrgell Rydd a Sefydliad Trecynon – Cadw’r Neuadd yn Sych – £64,680
Mae’r adeilad, sydd wedi’i adwaen yn lleol fel Neuadd Trecynon (y Neuadd) a’i reoli gan Ymddiriedolwyr gwirfoddol, yn dirnod amlwg yn Nhrecynon sydd wedi gwasanaethu’r cymunedau lleol a rhyngol mewn amrywiaeth o ffyrdd ers 1902. Datblygodd y strwythur rheoli presennol o waith nifer bach o aelodau ymroddedig o’r gymuned ac ymgynghori lleol cynhwysfawr a arweiniodd at raglen atgyweirio a model busnes newydd, wedi hynny roedd gan y Neuadd ddyfodol addawol iawn.
Yn fwy nag adeilad yn unig, mae wedi gweithredu’n llwyddiannus wrth roi cartref i’r celfyddydau ac yn gyrchfan gweithgareddau cymunedol ac ystafelloedd ar log i fusnesau er mwyn cefnogi’r economi a chyflogaeth leol. Mae’r Neuadd bellach yn cael ei defnyddio’n rheolaidd gan tua 2,000 o bobl bob mis, gan ddarparu ystafelloedd all gael eu hurio’n fforddiadwy i grwpiau cymunedol/gwirfoddol a busnesau masnachol bach. Mae prif ystafell y Neuadd ar y llawr cyntaf yn cael ei gosod ar gyfer amrywiaeth o fuddiannau lleol gan gynnwys cael ei defnyddio gan eglwys leol, ysgol Ioga, grŵp Theatr Colstars, Tai Chi, Clwb Bingo, nosweithiau cymdeithasol sy’n cynnwys artistiaid lleol a chabaret, a chyfarfodydd elusennau a sefydliadau eraill.
Mae’r tair ystafell ar y llawr gwaelod yn cael eu rhentu allan i Fand Pres Llwydcoed, Arlunydd Tatwau ac i fusnes bwyd lleol fel storfa. Mae hyn yn cynhyrchu incwm rheolaidd gwerthfawr. At hynny, defnyddir y Neuadd yn rheolaidd ar gyfer cyfarfodydd e.e. y Gwasanaeth Cyflafareddu Annibynnol, y Gynghrair Diwydiant a Chymunedau a PACT (Heddlu a Chymunedau Gyda’i Gilydd).
Gwnaethant ymgeisio i’r gronfa oherwydd, pan gyflawnwyd gwaith adnewyddu, nad oedd dwy wal allanol wedi’u cynnwys yn y contract gan iddynt ymddangos yn gymharol gadarn ar y pryd. Fodd bynnag, erbyn hyn mae angen eu hamddiffyn yn erbyn y tywydd er mwyn diogelu ffabrig yr adeilad, atal lleithder, pydredd gwlyb a phydredd sych a dileu cyflyrau sy’n creu amgylchedd mewnol afiach. Mae adnewyddu’r rendr yn hanfodol i iechyd yr adeilad a’i ddeiliaid. Y nod yw gwneud y Neuadd yn ddiogel ac yn addas i’r diben am flynyddoedd i ddod. Gydag arian cyfatebol, cynnig clir a phenderfyniad i wneud yr adeilad yn addas i barhau i wasanaethu’r gymuned, roedd Pen y Cymoedd yn falch o gefnogi’r cynnig hwn.
‘Yn yr oes cythryblus sydd ohoni, mae’n gysurus bod Neuadd Trecynon yn parhau i sefyll yn gadarn ac yn ddiogel gan wasanaethu’r gymuned am fwy na 120 mlynedd’. Rob Secretary, Llyfrgell Rydd a Sefydliad Trecynon.
Pam mae PyC wedi cefnogi: rydym eisiau gweld mannau cymunedol sy’n alinio ag anghenion y gymuned ynghyd ag adeiladau a lleoedd sy’n addas i’r diben.