Menter Effaith Gymunedol – Adeiladu Gwydnwch mewn Cymunedau – £276,265.00

506 545 rctadmin

Mae Adeiladu Gwydnwch mewn Cymunedau / Building Resilience in Communities’ (BRiC) yn brosiect datblygu sgiliau blaengar sy’n ffocysu ar gymunedau a fydd yn darparu amrywiaeth o fuddion personol a chymdeithasol-economaidd ar draws cymoedd Nedd, Afan, Rhondda Fawr, Rhondda Fach a Chynon.
Bydd BRiC yn cefnogi 100-130 o unigolion 16+ sydd ar gyrion cymdeithas dros gyfnod o 3 blynedd ar draws rhanbarth Pen y Cymoedd, i wella’u hiechyd a’u llesiant, datblygu eu sgiliau personol, ymarferol a chyflogadwyedd, cyflawni cymwysterau achrededig, symud tuag at ymwneud â’r farchnad lafur, a gwneud newidiadau cadarnhaol i’w bywydau trwy adfer eiddo gwag o fewn ein cymunedau lleol.
Nodau trosgynnol BRiC yw:
• Herio ein haelodau cymuned i gymryd camau cadarnhaol a bod yn gyfrifol am eu teithiau bywyd eu hunain.
• Adfywio ac adnewyddu ein cymunedau lleol trwy gymryd camau rhagweithiol a blaengar i leihau nifer y cartrefi gwag.
• Ysbrydoli ymdeimlad o falchder, cydnerthedd a pherchnogaeth gymunedol trwy ei weithgareddau.
Bydd cyllid refeniw Pen-y-Cymoedd yn galluogi nhw i greu cyfrwng ar gyfer newid cymunedol cadarnhaol a dyheadol, gan rymuso dinasyddion i gymryd camau rhagweithiol a datblygu ymdeimlad o berchnogaeth gymunedol, balchder, hyder a hunan-barch.
Ymysg gweithgareddau’r prosiect mae:
• Nodi eiddo: Bydd eiddo gwag a adnewyddir trwy weithgareddau’r prosiect yn cael eu prynu ar draws rhanbarth Pen-y-Cymoedd yn seiliedig ar anghenion lleol.
• Ennyn diddordeb y gymuned: Byddant yn ennyn diddordeb y gymuned leol, gan gynnwys elusennau, grwpiau cymunedol darparwyr addysg a chymdeithasau tai er mwyn sefydlu llinell cyflenwi cyfeiriadau i’r prosiect.
• Effeithlonrwydd ynni a diogelwch eiddo: Bydd contractwyr cynllun NEST Llywodraeth Cymru’n cyflawni arolwg effeithlonrwydd ynni ac yn cwblhau gwaith angenrheidiol, megis gosod boeleri a systemau gwresogi newydd, a bydd partneriaid diogelwch trydan a nwy uchel eu parch yn gwneud pob cyflenwad trydan a nwy yn ddiogel, wrth baratoi i’r cyfranogwyr ddechrau ar eu hyfforddiant.
• Datblygu sgiliau: Gyda chefnogaeth gan diwtoriaid BRiC, bydd cyfranogwyr yn ymgymryd â chyfnod o hyfforddiant actif, gan ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, entrepreneuriaeth ac adeiladu, a fydd yn arwain at gyflawni cymwysterau a llwybr clir i gyflogaeth.
• Cefnogi cyflogaeth: Maent yn ymgysylltu’n rhagweithiol â phartneriaid a fydd yn cefnogi cynnydd cyflogaeth y cyfranogwyr.
• Cefnogi llesiant: Bydd cyfranogwyr yn cael eu cefnogi i ymdrin â rhwystrau personol a allai atal ymwneud yn effeithiol â’r prosiect, gan gynnwys caledi ariannol, problemau gyda chludiant, cyngor ar gyffuriau ac alcohol, cam-drin domestig ac iechyd meddwl.

“Mae’r Cii yn wefr i gyd i sicrhau cyllid Pen y Cymoedd i gyflwyno’r prosiect BRiC blaengar ar draws cymoedd Nedd, Afan, Rhondda Fawr, Rhondda Fach a Chynon. Mae’n fwriad ar y cyd gennym bod BRiC yn grymuso ein cymunedau lleol i gymryd camau cadarnhaol a fydd yn arwain at welliannau ac adfywio cymunedol parhaus. Hoffem ddiolch yn ddiffuant i dîm rheoli a bwrdd cyfarwyddwyr Pen y Cymoedd am gredu mewn dyheadau a buddion y prosiect, ac am gefnogi ni yn ein huchelgeisiau i gyflwyno newidiadau i’r gymuned a fydd yn parhau.” Trystan Jones Prif Weithredwr

“Roedd 2020 yn flwyddyn eithriadol o anodd ond yn ychwanegol at y 68 o ddyfarniadau COVID a 70 o ddyfarniadau Cronfa Grantiau Bychain a wnaed, parhaodd ceisiadau i’r Gronfa Gweledigaeth ac rydym yn gyffro i gyd â bod yn cyhoeddi’r prosiectau diweddaraf sydd i’w hariannu gan y Gronfa Gweledigaeth.
Mae prosiect hyn yn cynrychioli popeth sy’n wych am yr ardal o fuddiant: penderfyniad, dyfeisgarwch, creadigrwydd a chymhelliad go iawn i fanteisio i’r eithaf ar yr asedau a chyfleusterau sydd gennym” – Kate, Cronfa Gymunedol Pen y Cymoedd