WINDY DRAWS, WORKER’S GALLERY

1024 645 rctadmin

GRANT GAN Y GRONFA GRANTIAU BYCHAIN – £635

 

Dyfarnwyd £635 i Worker’s Gallery tuag at brosiect ehangach a oedd wedi derbyn arian cyfatebol i redeg 3 gweithdy awyr agored dros 3 diwrnod ar ben Mynydd y Rhigos. Aliniodd y diwrnodau a’r Ŵyl Big Draw ryngwladol yn 2019.

 

Aeth y gweithdai â thros 30 o blant ysgol ac aelodau’r gymuned i’r safle ar gyfer sesiynau darlunio awyr agored. Crëwyd arddangosfa ar-lein o’r gwaith a chynhaliwyd arddangosfa go iawn o dros 100 o ddarluniau.

 

“Galluogodd y prosiect i mi ysbrydoli cyfranogwyr i fynd allan a darlunio yn y dirwedd leol. Rwyf wedi dechrau datblygu cynigion awyr agored gyda Gwasg Caxton yn Nhreorci ac mae busnesau twristiaeth yng Nghwm Afan wedi cysylltu â mi i redeg prosiectau tebyg yno. Gwnaethom hurio’r bws mini gan y grŵp sgowtiaid lleol, ac yn awr maent wedi archebu cyfres o weithdai gwneud siarcol.

 

Bu i’r cyfranogwyr ddwlu ar fod ar y safle ac yn awr maent yn dychwelyd yno gyda’u cyfeillion a’u grwpiau eu hunain. Roedd y prosiect hwn yn gyfle rhagorol i bobl ddod ynghyd a darlunio yn yr awyr agored, bu i’r oedolion a phlant gael antur ac ysbrydoli ei gilydd. Galluogodd yr arddangosfa i bobl rannu eu gwaith gyda’r gymuned a hefyd dathlu byw mewn ardal sydd ar flaen y gad o ran ynni glân ac adnewyddadwy. Ysgogodd y gwaith celf sgyrsiau am yr amgylchedd, beth rydym yn ei weld o’n cwmpas a sut rydym yn defnyddio adnoddau naturiol y byd.” – Gayle, Worker’s Gallery

 

Dyma brosiect rhwng y cenedlaethau go iawn, gan ennyn diddordeb pobl yn yr amgylchedd naturiol a darlunio a bu i’r arddangosfa oriel ennyn diddordeb pobl ym myd y celfyddydau, rhywbeth y mae llawer o bobl yn teimlo’n aml ei fod yn ddieithr iddynt. Ac yn bwysicaf oll bu i bobl gael hwyl a mwynhau bod gyda’i gilydd yn yr awyr agored.

 

Sut y bodlonodd y prosiect hwn flaenoriaethau’r gronfa:

 

Cymunedau sy’n fwy iach ac actif / Addysg am ynni / Ennyn diddordeb am a newid ymddygiad ynni a chynaladwyedd trwy addysg

 

Gellir prynu lluniau wedi’u Fframio a’u Gosod gan Worker’s Gallery trwy yrru e-bost i wood4tt@gmail.com