GRŴP CYFRANOGIAD CYMUNEDOL BLAENLLECHAU – BUSY BEES OF BLAEN

1024 768 rctadmin
GRANT GAN Y GRONFA GRANTIAU BYCHAIN – £4405
 
Dyfarnwyd £4405 i Grŵp Cyfranogiad Cymunedol Blaenllechau ar gyfer eu prosiect Busy Bees of Blaen. Dyma brosiect cymunedol gwych gyda chynaladwyedd wedi’i ymwreiddio trwy werthu mêl. Roedd y grŵp yn sefydledig a gydag enw da o ran cyflwyno.
Mae manteision cadw gwenyn yn adnabyddus, ac mae’r boblogaeth wenyn o dan fygythiad. Yn y Deyrnas Unedig mae tua 70 o gnydau’n ddibynnol ar, neu’n elwa o, wenyn. At hynny, mae gwenyn yn peillio blodau llawer o blanhigion sy’n mynd yn rhan o borthiant anifeiliaid fferm. Amcangyfrifir gwerth economaidd mêl-wenyn a gwenyn bwm fel peillwyr cnydau wedi’u peillio gan bryfed a dyfir yn fasnachol yn y Deyrnas Unedig i fod dros £200 miliwn y flwyddyn. Mae angen i agweddau at wenyn newid ac mae angen addysgu cenhedlaeth newydd am werth gwenyn a’r bygythiadau i’w bodolaeth.
“Helpodd yr arian Pen y Cymoedd i ni hyfforddi pentrefwyr lleol i fod yn wenynwyr, mae’r prosiect wedi dod â grŵp o bobl ynghyd i gydweithio ac o ganlyniad i’r prosiect mae Coed Cadw wedi rhoddi 200 o goed ifanc sy’n blodeuo’n naturiol i’w plannu ar gyfer ein grant ym Mlaenllechau. Rydym wedi cael adborth gwych gan arddwyr lleol a nododd gynnydd yn y boblogaeth wenyn, cynhyrchom 70 jar o fêl yn ystod ein haf cyntaf, y cawsant oll eu gwerthu ymhen 10 niwrnod yn siop leol y pentref. Bydd yr arian o’i werthu’n helpu gyda bwyd y gaeaf ac wrth baratoi ar gyfer y tymor nesaf, ac mae’r prosiect wedi rhagori ar ein holl ddisgwyliadau.” – Brian Jones
Rydym mor falch o glywed y rhagorodd y prosiect ar ddisgwyliadau, oherwydd ymroddiad aelodau’r grŵp roeddent yn gallu cynhyrchu a gwerthu mêl yn syth. Maent yn gobeithio cynhyrchu hyd yn oed yn fwy ar gyfer haf 2019 a bydd yr arian a godir yn cael ei ail-fuddsoddi yn y prosiect, gan sicrhau ei gynaladwyedd. 
Sut y bodlonodd y prosiect hwn flaenoriaethau’r gronfa:
Datblygu cadwyn fwyd leol fel mêl / Defnyddio’r amgylchedd i addysgu / Diogelu’r amgylchedd lleol at y dyfodol ar gyfer rhywogaethau allweddol / Grantiau bychain ar gyfer datblygu gofodau gwyrdd / Hyrwyddo iechyd a lles gyda mwy o fywyd awyr agored