Dyfarnwyd Grant Cronfa Bychain o £2110 i Glwb Nofio y Rhondda. Mae gan y clwb 178 o aelodau ac mae’n dibynnu ar wirfoddolwyr ifanc er mwyn sicrhau y darperir yr 11 sesiwn ar draws 4 pwll gydag athrawon/hyfforddwyr cwbl gymwys ac yn unol â chanllawiau Nofio Cymru. Mae hyfforddiant a chynnydd parhaus eu hyfforddwyr yn hanfodol i gynaliadwyedd y clwb.
Mae’r prosiect a ariannwyd wedi caniatáu’r clwb i gynyddu’n sylweddol y nifer o athrawon/hyfforddwyr lefel 2, ac mae manteision y cynnydd hwn mewn hyfforddwyr/athrawon lefel 2 wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Roedd capasiti eu gwirfoddolwyr newydd yn hanfodol i barhad y rhaglen hyfforddi.
“Mae’r cynnydd o ran gwelededd y gwirfoddolwyr ifanc ar ochr y pwll wedi creu diwylliant gyda’n nofwyr hŷn i anelu at ddod yn wirfoddolwr ac i gefnogi rhaglen hyfforddi’r clwb yn y dyfodol. Fel rhan o astudiaethau’r gwirfoddolwyr ifanc, maent yn defnyddio eu gwirfoddoli i gefnogi cwblhau eu cymhwyster Bagloriaeth Cymru ochr yn ochr â’u hastudiaethau Safon Uwch.
Ym mis Awst 2018, cwblhaodd 4 o’n gwirfoddolwyr ifanc gwrs lefel 1 a lefel 2 cyfunol. Mae hyn wedi cynyddu capasiti’r gwirfoddolwyr lefel 2 cymwys yn sylweddol. Mae’r gwirfoddolwyr yn darparu o leiaf 1.5 awr o hyfforddi/addysgu yr wythnos yr un ac yn defnyddio eu sgiliau newydd i ddatblygu technegau nofio y plant yn y clwb. Mae’r esiampl y maent yn ei gosod yn ysbrydoledig i nofwyr eraill yn y clwb ac mae’n amlwg ei fod wedi cefnogi nod y clwb i ddatblygu a chefnogi ethos o wirfoddoli ymysg y nofwyr.
Mae ymrwymiad y gwirfoddolwyr newydd yn glodwiw, ac maent yn sicr yn llysgenhadon ar gyfer y clwb gan ysbrydoli ein nofwyr hŷn i gefnogi’r clwb drwy wirfoddoli.” – A C Jones Clwb Nofio y Rhondda
Rydym yn falch iawn clywed bod y prosiect wedi mynd yn well hyd yn oed na’r disgwyl. Oherwydd cyfraddau gostyngol yr oeddent wedi gallu eu negodi gyda Nofio Cymru llwyddwyd i gefnogi 4 cwrs x lefel 1 a 4 cwrs x lefel 2 yn hytrach na’r 2 arfaethedig. Mae’n ysbrydoledig iawn i weld clwb mor weithgar, gan ddefnyddio cyfleusterau lleol, gwella iechyd pobl ifanc a buddsoddi mewn datblygu eu sgiliau. Dymunwn bob llwyddiant iddynt.
Sut wnaeth y prosiect hwn fodloni blaenoriaethau’r gronfa:
Darparu cyfleoedd dysgu gydol oes priodol oedd yn diwallu anghenion y gymuned ac yn codi dyheadau / Cyfleusterau cynaliadwy i bobl ifanc, sy’n cael eu defnyddio’n dda, ac sy’n fforddiadwy / Mentora cymheiriaid / Amrywiaeth ehangach o gyfleoedd lleol i fod yn iach, yn egnïol ac i ymgysylltu