Cronfa Gymunedol y Cymoedd yn dathlu’r £4 miliwn cyntaf o fuddsoddiad!

1024 576 rctadmin

C. Beth sydd gan fusnes dillad teuluol, clwb bocsio a chytiau gwersylla eco-gyfeillgar yn gyffredin?

A. Maent oll wedi elwa ar grant gan Gronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd – gan eu galluogi i dyfu a datblygu!

Daeth dros 200 o bobl leol at ei gilydd yr wythnos hon mewn digwyddiadau yng Nghroeserw a Chwmdâr i ddathlu dwy flynedd gyntaf gweithgarwch y Gronfa – a chyflawniadau’r holl brosiectau a busnesau sydd wedi elwa o ddyfarniadau grant – sef cyfanswm o fwy na £4 miliwn erbyn hyn.

Sefydlwyd y Gronfa indecs gyswllt £1.8 miliwn gan y cwmni ynni Ewropeaidd Vattenfall fel rhan bwysig o’i ymrwymiad i’r cymunedau sy’n gartref i fferm wynt Pen y Cymoedd. Ar hyn o bryd dyma’r gronfa fwyaf o’i math yn y DU. Rheolir y Gronfa gan Gwmni Buddiant Cymunedol annibynnol sy’n atebol yn lleol, gyda Bwrdd o chwe Chyfarwyddwr anweithredol ar hyn o bryd.

Mae’r Gronfa wedi cael dechreuad gwych – mae’r 178 o grantiau a ddyfarnwyd rhyngddynt wedi denu £3.7 miliwn pellach o arian cyfatebol, gan olygu bod cyfanswm y buddsoddiad yng nghymunedau Pen y Cymoedd yng Nghymoedd Nedd Uchaf, Afan, Rhondda a Chynon, yn agos at £8 miliwn hyd yn hyn.

Mae’r derbynyddion wrth eu bodd. Ychydig dros flwyddyn yn ôl, sefydlodd Danielle Davies y cwmni dillad arloesol The Tired Mama Collection o’i chartref yng Nghwm Nedd – wedi’i anelu at famau a tadau blinedig… a’u babanod! Tyfodd y busnes allan o’i le yn yr atig yn gyflym iawn, ac mae grant Cronfa Gymunedol wedi galluogi prynu gweithdy pwrpasol a recriwtio dau aelod o staff rhan-amser lleol ar oriau hyblyg. “Mae’r gwerthiant ar ei anterth”, meddai Danielle. “Gallwn nawr werthu i siopau ac mewn sioeau babanod a digwyddiadau, a gallwn ddal stoc, yn hytrach na gwneud ar gais – gan leihau amseroedd cyflawni archebion a chynyddu gwerthiant uniongyrchol i gwsmeriaid newydd. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol enfawr”.

Roedd Anita o Afan Vale Chocolates wedi gallu prynu offer cynhyrchu mawr eu hangen – “mae hyn wedi arwain at ddyblu ein capasiti cynhyrchu a llai o wastraffu stoc – ac mae ein cwsmeriaid yn ehangu drwy’r amser,” dywedodd hi.

Wedi’i leoli yn yr hen ffatri Burberry, y Play Yard yw menter gymdeithasol newydd gyffrous Valleys Kids. Mae’r cyfleuster yn cynnwys lle chwarae dan do mawr i blant, chwaraeon dan do ar ddau faes chwarae pump-bob-ochr, stiwdio ffitrwydd a chaffi – “Mae’r prosiect yn mynd o nerth i nerth ac wedi rhagori ar rai o’i dargedau gwreiddiol,” meddai’r Rheolwr, Nathan Howells. “Roeddem yn meddwl y byddai tua chwe swydd yn cael eu creu ac mae 16 gyda ni’n barod. Mae’r ystod o weithgareddau a gynigir yn ehangu o hyd.”

Mae Ymddiriedolaeth Amgueddfa Cwm Cynon hefyd yn bwrw ymlaen. Mae grant Cronfa Gymunedol yn cefnogi tair swydd allweddol a thalodd am rai costau o ran ailddatblygu’r adeiladu. Mae’r ystafelloedd cyfarfod newydd yn fwyfwy poblogaidd ac yn cynhyrchu incwm hanfodol. “Mae nifer yr ymwelwyr wedi codi o 60 yr wythnos yng nghanol 2017 i fwy na 400 yr wythnos bellach, ac mae gwerthiannau yn y siop hefyd yn cynyddu”, meddai Charlotte Morgan, Rheolwr yr Amgueddfa.

Dywedodd Patrick Delaney, Rheolwr y Safle ar Fferm Wynt Pen y Cymoedd Vattenfall: “Rydym yn falch iawn o weld yr effaith y mae buddsoddiad cymunedol ein fferm wynt yn ei chael – yn cefnogi prosiectau a chreu swyddi ar draws y Cymoedd. Mae llwyddiant y gronfa wedi’i gwreiddio yn y ffaith y cafodd ei datblygu gan y gymuned ar gyfer y gymuned – mae syniadau pobl leol yn troi’n realiti. Gyda gwaith parhaus y cwmni buddiant cymunedol, edrychwn ymlaen at weld y gronfa yn parhau i dyfu, datblygu a sicrhau manteision hirdymor yn lleol.”

Mae’r Gronfa Gymunedol yn awyddus i siarad ag unrhyw un sydd â syniad neu gynllun ar gyfer eu busnes, eu cymuned neu ardal gyfan y Gronfa y maent yn awyddus i’w roi ar waith. “Ffoniwch ni neu anfonwch air atom,” meddai Barbara Anglezarke, y Cyfarwyddwr Gweithredol. “Rydym yn hapus i glywed am eich cynigion a’u trafod, ni waeth pa gam yr ydych wedi’i gyrraedd. Mae gan gymunedau yn ardal y Gronfa gymaint o egni a chreadigrwydd – rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld beth sy’n digwydd nesaf!”

Gwyliwch ein fideo yma i ddarganfod mwy am y gwaith yr ydym wedi’i ariannu https://vimeo.com/315235947/890325159b