Mae CBC Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn recriwtio Aelodau Bwrdd!

1024 560 rctadmin

Agorodd Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd am fusnes ym mis Rhagfyr 2016, gan gynnig ffynhonnell ariannu newydd a sylweddol ar draws rhannau uchaf Cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon. Os ydych yn angerddol dros yr ardal hon, ac yn gyffrous am yr hyn y gall y Gronfa ei gyflawni – a hoffech chi ymuno â ni?

Rydym am benodi aelodau newydd i ymuno â’n Bwrdd ym mis Mehefin eleni.

Rydym yn croesawu ceisiadau’n benodol gan bobl sy’n byw neu’n gweithio yn ardal y Gronfa. Nid yw profiad blaenorol o fod yn aelod bwrdd neu ymddiriedolwr yn hanfodol – mae hyfforddiant ar gael.

Cynhelir tua 9 cyfarfod bob blwyddyn. Rydym yn ceisio sicrhau bod dyddiadau ac amserau cyfarfodydd yn hyblyg i alluogi cynifer o bobl â phosib i’w mynychu.

Mae aelodau’n gyfrifol am:

  • sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau cyfreithiol a safonau llywodraethu uchel
  • goruchwylio rheolaeth a chyfeiriad strategol y Gronfa o ddydd i ddydd
  • sicrhau lefelau uchel o gyfranogiad gyda’r gymuned leol a budd-ddeiliaid.
  • asesu a dyfarnu grantiau cymunedol

Y tâl cydnabyddiaeth yw £300 y dydd (pro-rata ar gyfer dyddiau rhannol), ynghyd â chostau teithio rhesymol.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu penodi’n ffurfiol ar 13.6.19 am gyfnod o 3 blynedd gyda’r potensial am 3 blynedd bellach.

Ffoniwch ni ar 01685 878785 am fwy o wybodaeth ac i ofyn am becyn gwybodaeth

 

Terfyn amser ar gyfer derbyn ceisiadau: 17.00, 4 Mawrth 2019

Cyfweliadau: Aberdâr, 15 Mawrth 2019