Er mwyn cefnogi a rheoli’r Gronfa Gymunedol, mae aelodau Bwrdd Cwmni Buddiannau Cymunedol Pen-y-Cymoedd wedi bod yn brysur yn penodi dau aelod newydd o staff:
Barbara Anglezarke yw Cyfarwyddwr Gweithredol y Gronfa a hi sy’n gyfrifol am reoli’r Gronfa o ddydd i ddydd a darparu arweinyddiaeth strategol. Mae Barbara wedi rheoli rhaglenni grant yn y sector gwirfoddol a’r sector cyhoeddus, wedi cyfrannu at y gwaith o ddatblygu polisïau a rhaglenni gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac wedi gweithio gyda chymunedau ers iddi ddechrau gwirfoddoli gyda Cymorth i Fenywod Caerdydd ar ôl gadael y coleg. Mae wrth ei bodd ei bod wedi cael y swydd – “mae’r ffaith bod gen i gyfle i gyfrannu at y gwaith o gefnogi prosiectau a gweithgareddau cyffrous a fydd yn sicrhau newid gwirioneddol a pharhaol yn gyffrous iawn”.
Mae Kate Pritchard wedi ymuno â’r tîm fel Gweinyddwr Rhaglenni, gan ddarparu pob agwedd ar gymorth cyflawni ar gyfer y Gronfa Gymunedol. Bu Kate yn gweithio fel swyddog cymorth gweinyddol mewn nifer o swyddi am 12 mlynedd ers iddi gwblhau ei gradd yn y Gyfraith yn 2003 a bu’n gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gwaith – o redeg ei busnes ei hun i reoli rhaglenni grant mewn Sefydliadau Addysg Uwch. Meddai Kate – “Rwy’ wedi byw yng Nghwm Rhondda Uchaf drwy gydol fy mywyd – allwn i ddim bod yn fyw brwdfrydig dros ddarparu cymorth ar gyfer y Gronfa gyffrous hon a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau”.
Mae pob un ohonom sy’n ymwneud â’r Cwmni Buddiannau Cymunedol yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth barhaus Vattenfall a’r holl waith caled y mae wedi’i wneud i ddod â’r Gronfa i’r pwynt hwn.