Mae cymorth a chefnogaeth ymarferol yn awr wrth law, diolch i ddyfarniad grant Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd! Mae gan gymunedau yn ardal fuddiant y Gronfa (rhannau uchaf cymoedd Nedd, Afan, Rhondda a Chynon) bellach Dîm Cefnogi Cymunedau penodedig, yn cynnig cymorth datblygu i ymgeiswyr y Gronfa a’r sawl sy’n derbyn grantiau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf.
Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddoli Castell-nedd Port Talbot ac Interlink (y Cynghorau Gwirfoddol Sirol ar gyfer Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf) yn cyflogi staff medrus i weithio ochr yn ochr â staff y Gronfa Gymunedol ac mewn partneriaeth ag arweinwyr a chymunedau lleol i sicrhau y daw’r Gronfa â newidiadau cadarnhaol a pharhaol. Bydd y Tîm Cefnogi Cymunedau yn darparu cymorth ymarferol a chyflwyniadau i wasanaethau arbenigol pellach pan fo angen. Bydd y Tîm hefyd yn dod â grwpiau at ei gilydd ar draws ffiniau traddodiadol, gan nodi a hyrwyddo cyfleoedd i gynllunio a gweithio gyda’i gilydd. Gan adeiladu ar gryfderau ac asedau lleol, caiff cymunedau eu cefnogi i ddatblygu a chyflawni prosiectau, rhaglenni a mentrau sy’n ymdrin â materion lleol – gan rannu sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau.
Bydd y Gronfa Gymunedol ar waith am yr 20 mlynedd nesaf o leiaf, ac mae ei chynlluniau yn uchelgeisiol. Dros y cyfnod hwnnw, y gobaith yw y bydd y Gronfa yn gwneud cyfraniad gwirioneddol i wneud yr ardal yn lle deinamig, cyffrous a bywiog i fyw a gweithio ynddo. Bydd y cymorth ychwanegol a gynigir bellach gan CVS Castell-nedd Port Talbot ac Interlink yn helpu i gyflawni’r nod hwn.
Mae Joanna Markham o Interlink yn rhan o’r Tîm Cefnogi Cymunedau newydd ac yn llawn cyffro am y prosiect: “Gyda chymorth y Gronfa Gymunedol, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’r arweinwyr, grwpiau a sefydliadau cymunedol niferus sy’n ein hysbrydoli gyda’u hegni, eu hymroddiad a’u syniadau. Mae hwn yn gyfle gwych i gael effaith gadarnhaol iawn yn ardal y Gronfa.”
Dywedodd Gaynor Richards, Cyfarwyddwr CVS Castell-nedd Port Talbot, “Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth ag Interlink RhCT i gyflawni’r prosiect yn y ddwy sir ar draws ardal y gronfa. Mae hyn yn gyfle i sefydliadau a grwpiau lleol i gael gafael ar gymorth mawr ei angen. Yr ydym yn ddiolchgar i Pen y Cymoedd am sicrhau bod yr arian hwn ar gael i alluogi’r prosiect hwn i ddigwydd”.
Mae Marc Phillips, Cadeirydd Cwmni Buddiant Cymunedol Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn croesawu’r tîm newydd: “Rydym yn falch iawn o allu cefnogi ein timau CVS i ddarparu’r gwasanaeth mawr ei angen hwn. Gyda’u cymorth nhw, byddwn yn gallu cynnig help gwirioneddol i ymgeiswyr a’r rhai sy’n gweithio i gyflawni prosiectau a ariennir – gan sicrhau bod sgiliau a gallu yn cael eu datblygu ar gyfer y tymor hir. Mae gan gymunedau yn ardal y Gronfa eisoes lawer o gryfderau ac asedau – bydd y Tîm newydd yn helpu i ddod â syniadau gwych yn fyw.”
Os oes gennych chi neu eich sefydliad neu fusnes brosiect mewn golwg, bach neu fawr, mae’r Gronfa Gymunedol yn croesawu ymholiadau. Cewch wybod rhagor am ein rhaglenni grantiau Bychain a Gweledigaeth ar ein gwefan – www.penycymoeddcic.cymru -neu ffoniwch Barbara neu Kate ar 01685 878785. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych!