The Tired Mama Collection

959 959 rctadmin
Mae Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd yn falch i gyhoeddi grant Cronfa Weledigaeth  o £23,065.00 i The Tired Mama Collection – brand dillad arloesol sy’n tyfu (gyda chyfresi Cymraeg a Saesneg) wedi’u hanelu at famau a tadau blinedig… a’u babanod! 
 
Wedi’i sefydlu flwyddyn yn ôl a’i redeg tan yn awr o gartref yr ymgeisydd yn Aberdulais (gyda chymorth teulu a ffrindiau), mae’r busnes wedi tyfu’n rhy fawr i’w le yn yr atig. Bydd y grant hwn yn cefnogi ehangu sylweddol, gan alluogi prynu a gosod gweithdy pwrpasol a recriwtio dau aelod o staff rhan-amser lleol.  Yna bydd Tired Mama yn gallu hybu gwerthiant mewn siopau newydd megis siopau bach, sioeau babanod a digwyddiadau a bydd yn gallu dal stoc, yn hytrach na gwneud ar gais –  gan leihau amseroedd cyflawni archebion a chynyddu gwerthiant uniongyrchol i gwsmeriaid newydd.
 
Pam y cefnogwyd y cais hwn?
  • Roedd yn drwyadl ac yn seiliedig ar dystiolaeth, gyda chynllun busnes argyhoeddiadol a rhagolygon llif arian clir.
  • Bydd dwy swydd – fydd yn talu mwy na’r cyfraddau cyflog byw – yn cael eu creu gyda’r potensial ar gyfer swyddi pellach ymhen amser
  • Mae’r busnes yn caniatáu i rieni ddychwelyd i’r gwaith ar oriau hyblyg, wedi’u strwythuro o gwmpas gofal plant
  • Mae gan Tired Mama bolisi moesegol cryf, gan gweithio gyda chyflenwyr cyfrifol yn unig