£5,000 – CRONFA GRANTIAU BYCHAIN – CHWE 2017
Dyma ddigwyddiad lleol unigryw a drefnir yn dda, sy’n darparu cyfleoedd i gerddorion lleol berfformio, ac sy’n rhoi hwb i’r economi leol. Cadarnhaodd y lleoliadau, tafarndai a Top Club, y llynedd fod eu trosiant dros benwythnos yr ŵyl yn sylweddol ac yn hwb pwysig iddynt yn ystod y cyfnod tawel cyn y Nadolig. Mae myfyrwyr lleol yn cael cyfleoedd i ddysgu am grefft y llwyfan hefyd.
Mae’r grŵp yn cydweithio’n agos â Swyddog Trwyddedu a Swyddog Cymunedol yr Heddlu lleol i sicrhau bod y digwyddiad yn cael ei gynnal heb drafferth. Cynhelir cyfarfod ar y cyd bob mis Medi gyda’r holl Landlordiaid, Cynghorwyr lleol a’r Heddlu cyn bod yr ŵyl yn digwydd.
Mae’r hyn a ddechreuodd fel syniad ar gyfer dod ynghyd fel cerddorion yn 2008 wedi tyfu i fod yn uchafbwynt blynyddol yn yr ardal.
“Mae’r digwyddiad bellach yn cynnwys cymysgedd o genres; mae’r digwyddiad Choirs in the Church wedi codi proffil y Côr Merched Dare to Sing o Gwm Dar. Roedd y Shepherds Arms hefyd yn gallu arddangos ei hystafell ddigwyddiadau lan y grisiau. Dyma wir ddigwyddiad cymunedol sy’n cynnwys landlordiaid lleol, staff, corau lleol, swyddogion cyswllt yr heddlu a’r gymuned gyfan. O ganlyniad i’n llwyddiant eleni rydym wedi codi proffil yr ŵyl eto a gallwn ddweud bod gennym aelodau pwyllgor a gwirfoddolwyr newydd.” Dyfyniad gan Robert Jenkins – Gŵyl Gerddoriaeth Cwmaman
Dyfyniadau o Facebook – “diolch yn fawr iawn i chi a’r tîm am wneud cymaint o waith caled bob blwyddyn, da iawn byt” / “llawer iawn o ddiolch i chi a’r holl drefnwyr, dwi’n methu â chredu gymaint o waith hynod galed y mae’n ei gymryd, mae’n mynd yn well bob blwyddyn”