Pobl Ifanc ar y Blaen yn Nyffryn Afan

150 150 rctadmin

Rydym wrth ein boddau â chyhoeddi grant o £18,020 gan y Gronfa Gweledigaeth i’r Prosiect RECLAIM. Mae RECLAIM.

yn fudiad arweinyddiaeth ieuenctid a newid cymdeithasol nodedig – elusen fach ond blaengar sy’n defnyddio ei phrofiad a llwyfan i gefnogi a galluogi i leisiau pobl ifainc gael eu clywed.

Mae’r grant gan Gronfa Gymunedol Pen y Cymoedd yn cefnogi cyflwyniad y Rhaglen LEAD Pioneers yng Nghwm Afan. Daw LEAD â grwpiau o 30-40 o bobl ifainc 12 – 13 oed ynghyd, i gyd o’r un gymuned, gyda bechgyn a merched yn gweithio mewn grwpiau ar wahân. Mae’r holl sesiynau wedi’u strwythuro o gwmpas Arweinyddiaeth, Menter, Actifiaeth a Datblygu.

Dros y rhaglen 8 mis, mae pobl ifainc yn adeiladu sgiliau a rhwydweithiau, gan ddatblygu cysylltiadau cryfion gyda mentoriaid lleol a modelau rôl. Mae’r rhaglen yn dechrau gyda chynhadledd wythnos a datblygu ‘maniffesto’ – datganiad a ddatblygwyd gan bobl ifainc eu hunain. Mae grŵp merched Afan (gan weithio ar y cyd ag eraill o Bort Talbot) wedi datblygu’r maniffesto pwerus hwn:

  • Pobl ifainc i gael llais ac arwain ar newid
  • Cefnogi busnesau lleol i roi cyfle teg iddynt
  • Defnyddio’n busnesau gwag i helpu pobl dlawd
  • Rhoi cyfleoedd i ferched gael eu gweld a’u clywed
  • Gweithio’n un i adennill ein hardal

Mae’r gwaith yn parhau wedyn gyda digwyddiadau, ymweliadau a sesiynau mentora rheolaidd – gyda’r holl weithgareddau’n cael eu cyflwyno y tu allan i amser ysgol ac yn seiliedig yn y gymuned. Mae’r sgiliau a ddatblygwyd gan gyfranogwyr yn cynnwys gwydnwch, cyfathrebu, hyder a balchder, meddwl beirniadol ac arweinyddiaeth.

“Mae’n anhygoel gweld pobl ifainc yn camu i fyny fel arweinwyr y dyfodol a datblygu sgiliau a fydd yn helpu nhw trwy gydol eu bywydau – beth bynnag y byddant yn dewis ei wneud” meddai Barbara Anglezarke, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gronfa Gymunedol. “Mae’n bleser bob amser gennym dderbyn ceisiadau sy’n canolbwyntio ar bobl ifainc – mae dyfodol ein cymunedau’n dibynnu arnynt.”