Y SIOP FACH SERO – GRANT Y GRONFA WELEDIGAETH £26,000 – ASTUDIAETH ACHOS

342 456 rctadmin

Ariannodd PyC nhw gyda grant o £26,000 o’r Gronfa Weledigaeth nôl ym mis Tachwedd 2021. Roeddent wedi sicrhau cronfeydd amrywiol o arian cyfatebol, ond roedd yn drosglwyddiad ased yn RhCT a chymerodd y broses lawer yn hirach na’r disgwyl a chafwyd llawer o newidiadau i’r gyllideb a’r cynllun. Fe wnaethon nhw gadw mewn cysylltiad â ni drwy’r amser a phan gawson nhw gyfle i gyrchu rhagor o arian ond roedd gan y cyllidwr hwnnw gyfyngiadau ar ba elfennau y gallai eu hariannu, daethom i gyd at ein gilydd a newid ein cynnig i sicrhau y gallent gyrchu’r arian.
Darllenwch ragor yma: Buddsoddiad o £26k yn yr Hen Lyfrgell yn ei drawsnewid yn Hyb Cynaladwyedd Newydd (businessnewswales.com)
Fe wnaethon nhw agor eu drysau o’r diwedd ym mis Mawrth 2023 – beth sydd wedi digwydd ers hynny?
• Datblygodd y prosiect o’r adeg pan gawsom arian PYC i’r adeg y gwnaethom agor – bu bron i 18 mis o oedi! Felly, esblygodd y syniad i gynnwys mwy o ardal gaffi, yn ogystal â’r hwb cynaladwyedd, er mwyn cynhyrchu mwy o refeniw i gynnal a chadw’r adeilad.
• Rydym wedi gwerthu dros 100 uned o eitemau Play It Again Sport i’r gymuned leol – adnodd na fyddent wedi gallu cael mynediad iddo heb y prosiect hwn, ac rydym hefyd wedi gwerthu dros 150 o eitemau diwastraff neu ail-lenwi – eto, adnodd nad oedd yn ar gael yn flaenorol. Rydym wedi gweini dros 500 o ddiodydd ac wedi defnyddio hynny fel cyfle i siarad â phobl am sut i fyw’n fwy cynaliadwy: ail-lenwi, lleihau gwastraff plastig a dweud wrth bobl am ein gweithdai.
• Newidiodd y costau’n sylweddol o’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol i PYC, oherwydd yr oedi cyn agor a’r cynnydd dilynol mewn costau byw. Roedd yna hefyd waith adeiladu ychwanegol nad oedd wedi’i gostio oherwydd bod meini prawf rheoliadau adeiladu wedi newid yn ystod y prosiect.
• Rydym wedi cynnal y canlynol:
Dau gyfarfod CAN RhCT ar gyfer 30 o bobl
Gweithdy basgedi crog gyda Blodau’r Cwm ar gyfer 12 o bobl
Gweithdy Celf o Sbwriel i 6 o bobl
Gwneud Gemwaith gyda Soaring Supersoarus ar gyfer 15 o bobl.
Digwyddiad Casglu Sbwriel gydag RLPE gyda 25 o bobl.
Gweithdy ‘Make a Living Meadow’ ar gyfer Gŵyl Gelfyddydau Cwm Rhondda – 15 o bobl.
Gweithdy stampiau leino ar gyfer 8 o bobl.
Caffis atgyweirio bob pythefnos sydd wedi ymgysylltu â dros 12 o bobl.
Crefftau eco teuluol bob wythnos sydd wedi ymgysylltu
Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Pobl a Gwaith i 13 o bobl.
Sesiynau digidol wythnosol a nosweithiau gemau bob pythefnos gyda dros 40 o bobl.
Gweithdai ysgolion am gynaladwyedd a masnach deg i dros 60 o blant
Casglu sbwriel gydag ysgol ar gyfer dros 30 o blant.

Rydym wedi cyflawni’n union fel yr oeddem yn gobeithio gwneud, er dros flwyddyn yn ddiweddarach nag a fwriadwyd yn wreiddiol. Mae gennym gaffi sy’n gweithredu’n llawn, siop diwastraff, lle i artistiaid a gwneuthurwyr lleol werthu eu cynnyrch, caffi atgyweirio bob pythefnos a gweithdai rheolaidd i ymgysylltu â’r gymuned leol a’u cefnogi ag unigrwydd, unigedd a sgiliau cynyddol, yn ogystal â darparu gofod dysgu am gynaliadwyedd.

Dysgu
1. Mae’r gweithdai y maen nhw’n eu cynnal (basgedi crog, celf o sbwriel ac ati) wedi’u hariannu gan Sefydliad Cymunedol Cymru, ac maen nhw’n defnyddio’r rhain fel ffordd i ddenu cwsmeriaid newydd a phresennol yn ôl i’r Siop ac i gynyddu cyrhaeddiad o ran y math o bobl maen nhw’n ymgysylltu â hwy.  Mae hefyd yn gweithio fel ffordd o gynhyrchu incwm, gan fod pobl yn ddieithriad yn prynu diod o leiaf tra’u bod yn ymweld ar gyfer gweithdy! Y gweithdy Blodau a gynhaliwyd ganddynt oedd y gweithdy cyntaf a oedd â chost ynghlwm wrtho, ac fe werthodd bob tocyn!  Felly, o ganlyniad, maent yn ystyried cynnal mwy o ddigwyddiadau a fydd yn cynhyrchu incwm iddynt yn y modd hwn.  Pan maent wedi cynnal digwyddiadau preifat, mae hyn wedi bod yn daladwy i’r sefydliadau, a chan eu bod wedi gwneud y bwffe mae hyn hefyd wedi creu incwm iddynt a chan fod pobl wedi bod yn y siop ar gyfer y digwyddiadau maent wedi bod yn siopa am yr eitemau diwastraff, celf a dillad. Felly, o ganlyniad i hyn maent yn bwriadu cynnal siopau untro gan arlwywyr lleol i ddenu gwahanol gwsmeriaid i’r Siop a chynyddu’r portffolio. 
2. Maent yn y broses o osod cegin newydd a fydd yn cynyddu eu cwmpas o ran arlwyo.
3. Mae celf a chrefft yn gwerthu er nad ydynt yn troi o gwmpas yn gyflym iawn gan eu bod ar bwynt pris uwch, ond maent yn bendant o ddiddordeb i bobl ac mae’n wych cefnogi artistiaid lleol, ac maent yn gofyn i’r artistiaid adnewyddu bob 3 mis er mwyn cynnal diddordeb.
4. Yn rhyfedd ddigon, stoc Play It Again Sport sy’n cynhyrchu’r refeniw mwyaf, ond maen nhw wir yn gobeithio tyfu’r ardal caffi a byddant yn canolbwyntio ar fod yn fegan/llysieuol i greu pwynt gwerthu unigryw cryf iawn a phwynt o wahaniaeth. 
5. Cwsmeriaid: maent bob dydd yn cael pobl leol yn dod i mewn nad ydynt wedi sylweddoli eu bod ar agor! Mae’r byrddau a’r cadeiriau, y bwrdd-A a’r basgedi crog y tu allan wedi helpu pobl i sylweddoli bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio unwaith eto, ac maent yn gyson â chyfryngau cymdeithasol a manteisio ar fusnesau lleol eraill, sydd wedi eu helpu i ddechrau creu set o gwsmeriaid rheolaidd, rhai ar gyfer y caffi, rhai ar gyfer eitemau diwastraff, a rhai i gyfnewid eu llyfrau. Mae’r grŵp hwn o bobl wedi bod yn bwysig iawn iddynt ac maent yn eu defnyddio ar gyfer adborth ac ymgysylltu
Beth nesaf?
Mae angen arallgyfeirio’r cynnig i gynhyrchu mwy o refeniw ac archwilio ffyrdd eraill o hysbysebu’r hyn y maent yn ei wneud, fel y gallant fanteisio ar bobl leol sy’n ymwneud â’r math o waith y maent yn ei wneud. Oherwydd bod Re:Make Valleys wedi agor, maent wedi penderfynu cefnogi eu Benthyg yn hytrach na lansio un eu hunain, felly byddant yn dod yn fan gollwng/casglu ar gyfer eu heitemau – mae hyn hefyd yn gweddu’n berffaith i ethos cynaladwyedd gan y byddai’n wirion i gael yr un eitemau ar gael o fewn pellter mor fyr.
◦ Sicrhau mwy o gyllid ar gyfer staffio erbyn 2024.
◦ Cwblhau’r gwaith ychwanegol (cwblhau palmant yn yr ardd flaen a man eistedd awyr agored, ac adnewyddu’r gegin i lawr y grisiau er mwyn gwneud bwyd ar y safle)
◦ Datblygu bwydlen fegan/llysieuol a dechrau gweini prydau.
◦ Cynnal ‘siopau untro’ gan arlwywyr eraill o’r un anian i ddenu cwsmeriaid newydd i mewn
◦ Cynnal gweithdai rheolaidd, amrywiol i gyflwyno Y Siop i sylfaen cwsmeriaid ehangach a mwy amrywiol.
◦ Parhau i weithio gyda’r gymuned leol i nodi pa wasanaethau ychwanegol y gallwn eu darparu
Rydym wedi canfod bod hysbysebu a hyrwyddo yn gromlin ddysgu ddiddorol ac wedi gorfod archwilio gwahanol ffyrdd o ddangos bod y siop ar agor, pan fo pobl wedi arfer â gweld y lle ar gau ers cymaint o amser. Rydym wedi canfod bod siarad a gweithio gyda busnesau lleol yr un mor fuddiol â gweithio gyda chwsmeriaid ac aelodau o’r gymuned leol; mae wedi bod o fudd i ni (a nhw!) i gydweithio, ac mae hwn yn ddull y byddwn yn bendant yn ei gynnal wrth symud ymlaen.