Mae Toogoodtowaste yn fenter gymdeithasol a leolir yn RhCT, sy’n cynnig gwasanaeth casglu am ddim ar gyfer dodrefn ac eitemau trydanol ac aelwyd all gael eu hailddefnyddio. Mae’r rhain wedyn yn cael eu glanhau, eu trwsio a’u gwasanaethu cyn cael eu gwerthu’n ôl i gymunedau lleol trwy eu harddangosleoedd elusennol mawr, gyda’r un diweddaraf yn cael ei hagor yn yr ysgol Fictoraidd gynt mawr ei bri yn Stryd Horeb yng nghanol Treorci.
Er i grant mawr gael ei sicrhau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, roedd angen cyllid o hyd i ddarparu to newydd hanfodol i’r cyfleuster. Dyma gyfraniad y grant o £137,677 gan y Gronfa Gweledigaeth, gan ei wneud yn bosib adnewyddu ac inswleiddio’r adeiledd cyfan.
Mae’r arddangosle mawr wedi creu cyflogaeth ar gyfer 3 aelod staff newydd a galluogi o leiaf 50 o gyfleoedd gwirfoddoli bobl blwyddyn, gan ganiatáu i bobl ddatblygu sgiliau newydd a chyfrannu at yr adnodd cymunedol newydd hwn. “Bydd y to newydd yn diogelu’r adeilad ac yn gostwng costau ynni am flynyddoedd i ddod” meddai Prif Weithredwr TGTW, Shaun England “ac ar ben hynny – mae’r grant wedi darparu cartref newydd i’n tenantiaid tylluanod ysgubor, a arhosodd gyda ni trwy gydol y gwaith adeiladu ac sy’n nythu gyda ni eto erbyn hyn! Rydym hefyd wedi gosod blychau nythu ystlumod a gwenoliaid duon i groesawu hyd yn oed yn fwy o ymwelwyr i’n harddangosle newydd.”
Cylch Meithrin Penderyn
Mae’r fenter gymdeithasol hon, a sefydlwyd dwy flynedd yn ôl ac a leolir yng Nghanolfan Gymunedol Penderyn, yn darparu gofal plant a chyfleoedd i chwarae trwy gyfrwng y Gymraeg cyn i blant gyrraedd oedran ysgol. Galluogodd grant gan y Gronfa Gweledigaeth o £11,945 amser i staff alluogi cofrestriad y Meithrinfa gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Mae’r oriau agor bellach wedi dyblu o ddau i bedwar awr bob dydd, ac mae lleoedd gofal plant 30 awr am ddim bellach ar gael. Yn ogystal â darparu gwasanaeth gwell i deuluoedd lleol, mae staff y Feithrinfa wedi medru estyn eu horiau. Cyn i ni gofrestru gydag AGC, roedd cyfnod 2 awr cyfyngedig y sesiwn yn golygu y bu’n anodd i rieni ymgymryd â chyflogaeth â thâl” meddai’r Arweinydd Emma Daily. “Erbyn hyn mae ein gwasanaeth yn llawer gwell ac yn estynedig, ac mae gan ein staff ddyfodol mwy sicr.”
Mae Partneriaeth Fern (TFP) wedi derbyn grant o £206,356
Yn gweithio’n bennaf yng Nghymoedd y Rhondda, mae TFP yn fenter gymdeithasol sy’n arbenigo mewn dull cysylltu gofal plant (gwasanaethau gofal plant hyblyg a chost isel o safon) â datblygu cymunedol cydlynol. Mae TFP bellach wedi ymgymryd â rheoli’r Ysgol Fabanod gynt yng nghanol Glyn Rhedynog – wedi’i thrawsnewid erbyn hyn a’i lansio ym mis Gorffennaf 2019 fel ‘Hwb’ aml-swyddogaeth, sy’n gartref i feithrinfa, y llyfrgell, gwasanaethau cefnogi chwilio am swydd, darpariaeth gwybodaeth a chyngor gydlynol, a gofodau cymunedol sydd ar gael i bawb eu defnyddio. Crëwyd dros 10 o swyddi newydd a chynaliadwy. Ochr yn ochr â chyllid cyfalaf a refeniw o ystod o ffynonellau, cyfrannodd grant gan y Gronfa Gweledigaeth £206,356 at gostau cyfalaf a chefnogi costau staff ym mlwyddyn weithredu gyntaf yr Hwb.
Derbyniodd Gwobr Dug Caeredin Cymru (GDC) grant o £25,592
GDC yw gwobr cyflawniad ieuenctid flaenllaw y Deyrnas Unedig, gan helpu pobl ifanc o bob cefndir i ddatblygu sgiliau bywyd a gwaith hanfodol. Mae grant y Gronfa Gweledigaeth o £25,592 i GDC Cymru wedi’i wneud yn bosib i bobl ifanc o bedair ysgol uwchradd yn RhCT gymryd rhan yn y rhaglen drawsnewidiol hon – mae disgyblion o Ysgol Gymunedol Aberdâr, Ysgol Gymunedol Glyn Rhedynog, Ysgol Gyfun Treorci ac Ysgol Gyfun Cwm Rhondda bellach yn cymryd rhan yn y cynllun.
Oherwydd toriadau caledi o fewn RhCT a newidiadau yn y gwasanaeth ieuenctid, bu newid sylweddol yn y ffordd y mae DofE yn cael ei gefnogi. Heb gymorth y weledigaeth, byddai arweinwyr ysgolion wedi ‘ i chael yn anodd iawn datblygu ‘ r rhaglen DofE ymhellach gan fod yn rhaid iddynt bellach roi adnoddau annibynnol i ‘ r rhaglen am y tro cyntaf.
A hwythau wedi’u cefnogi gan Swyddog Gweithrediadau penodedig bellach, mae dros 200 o ddisgyblion wedi cofrestru ar y rhaglenni Efydd ac Arian, ac mae mwy na 15 o athrawon wedi eu hyfforddi mewn sgiliau arwain y cynllun. Mae hyn yn golygu y bydd yr athrawon yn gallu rhedeg y rhaglenni eu hunain pan ddaw’r grant i ben – gan sicrhau y bydd cannoedd yn fwy o bobl ifanc yn elwa. “Rydym yn angerddol dros gyflwyno’r rhaglen yn RhCT” meddai Ian Gwilym, Uwch Reolwr Partneriaethau GDC Cymru. “Yn ogystal â bod yn hwyl, mae cymryd rhan yn helpu cyfranogwyr i dyfu eu hyder, bod yn fwy annibynnol a phrofi heriau all agor drysau i brofiadau addysg a chyflogaeth ar gyfer unrhyw berson ifanc.”