CYNHYRCHIAD O SOUTH PACIFIC

756 1024 rctadmin

SHOWCASE SIOGERDD

£3,045

CRONFA GRANTIAU BYCHAIN – CHWE 2017

Mae Sioegerdd yn un o’r nifer bach o elusennau cofrestredig sy’n gweithio gyda phlant trwy gyfrwng y celfyddydau perfformio yng Nghwm Cynon. Er bod y nifer o gymdeithasau drama a cherddoriaeth yn dirywio o hyd, mae Sioegerdd yn parhau i ddarparu cyfleoedd gwerthfawr ar gyfer pobl ifainc a pherfformiadau o bob math ar gyfer cymunedau lleol. Maent yn cydweithio â phobl ifainc o bob oedran ac yn mynd â chynyrchiadau allan yn y byd – o Shakespeare mewn parc gwledig ac eglwys leol i gyngherddau a pherfformiadau mewn theatrau.

Diben y cais hwn i gefnogi cynhyrchu a pherfformio ‘South Pacific’ yn y Coliseum, Aberdâr oedd cefnogi perfformiad er mwyn ei wefr a’i lawenydd. Mae’r Gymdeithas yn cyrraedd ac yn ennyn diddordeb llawer o bobl ifainc – bydd y profiadau y maent yn eu cael yn werthfawr yn eu bywydau i ddod beth bynnag yr ânt ymlaen i wneud – gan gyfrannu at hyder, hunan-barch a datblygu sgiliau.

“Mae’r prosiect wedi helpu codi proffil Showcase Sioegerdd, roedd gennym niferoedd da yn y cynulleidfaoedd a darparodd y sioe gyfle i weld sioe gerdd adnabyddus am gost fforddiadwy. Mae oedran aelodau ein cast yn amrywio o 5 i 30 oed ac maent wedi mynychu gweithdai actio, canu a dawnsio. Roedd ein haelodau i gyd yn gallu ymuno â’r cast a phrofi gweithio gyda band a cherddorfa fyw, rhoi gwisgoedd ymlaen a dysgu sgiliau technegol. Gwerthom 703 o docynnau dros 4 noson a daeth ein cynulleidfaoedd o bob rhan o’r gymuned ac o bob grŵp oedran. Elwodd ein sefydliad yn fawr o’r swm a dderbyniwyd gan Pen y Cymoedd, a alluogodd i ni ddarparu cyfleoedd go iawn i’n haelodau gael gwir brofiad o’r theatr ac, yr un mor bwysig, mwynhau eu hunain.” Dyfyniad gan Roger Williams – Showcase Sioegerdd