Pen y Cymoedd yn cefnogi swydd fedrus newydd yn Treorchy Sewing Enterprise

506 373 rctadmin

Mae gan gynhyrchu dillad hanes hir yn y Rhondda gyda’r mwyaf llwyddiannus oedd Alfred Polikoff (Cymru) a oedd wedi ei leoli yn Ynys-wen yn y Rhondda. Erbyn 1989 newidiwyd enw’r cwmni Polikoff i Burberry, a daeth brand Polikoff i ben. Parhaodd Burberry yn Ynys-wen am y 18 mlynedd nesaf cyn i’r penderfyniad gael ei wneud i gau’r ffatri yn 2007 pan gollodd 304 o weithwyr medrus iawn eu swyddi.

Cafodd Treorchy Sewing Enterprise ei sefydlu yn 2019 gyda’r syniad o ddod â gwnïo’n ôl i Dreorci, yn yr hen safle Burberry, gan ddefnyddio cyn-weithwyr Burberry i gyflawni hyn. Y weledigaeth yw creu ffatri fechan wnïo sy’n dod â gwnïo yn ôl a defnyddio tecstilau i’r Rhondda Fawr Uchaf.

Aethant at y gronfa oherwydd bod ganddynt gyfle i gaffael contract a fyddai angen peiriannwr cymwys arall a rhai offer arbenigol, er eu bod eisoes yn cyflogi pedwar gweithiwr.

Mae Pen y Cymoedd wedi rhoi grant o £25,258.40 am werth blwyddyn o dreuliau cyfalaf a chyflog. Dylai’r sefyllfa fod yn ddiogel erbyn casgliad y ffrâm amser hwnnw.

“Mae Treorchy Sewing Enterprise wedi gweithio gyda ni i adnabod beth sydd angen arnyn nhw i wneud gwahaniaeth dros y 12 mis nesaf, ac rydym yn falch o gefnogi’r sefydliad hwn. Bydd y cyllid nid yn unig yn eu helpu i ddatblygu’r fenter a thyfu incwm, ond bydd hefyd yn creu swydd fedrus newydd yng Nghwm Rhondda yn uniongyrchol. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw.” Kate Breeze, Cyfarwyddwr Gweithredol Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd

“Mae hyn yn newyddion gwych, gallwn nawr symud ymlaen gyda’n cynlluniau, ymlaen ac i fyny. Diolch i chi Pen y Cymoedd am eich cefnogaeth barhaol” – Theresa Parsell, TSE
Cafodd TSE gefnogaeth arian Llywodraeth Cymru i ddechrau.