Sefydlwyd Cymdeithas Tenantiaid Marchnad Aberdâr (AMTA) yn anffurfiol nifer o flynyddoedd yn ôl, ond yn y cyfnod yn dilyn y pandemig maent wedi gweithio’n galed i ddenu pobl i’r farchnad a gweithio gydag Ardal Gwella Busnes Aberdâr i gynyddu niferoedd y rhai sy’n galw heibio, a darparu nifer fawr o ddigwyddiadau, gweithgareddau a chyfleoedd ar gyfer y trigolion lleol ac ymwelwyr.
Maen nhw eisoes wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau gafodd ymateb da yn neuadd y farchnad a’r maes parcio, ond nawr mae arnynt angen offer hanfodol a seddau ac ati fel bod modd iddynt gynnal hyd yn oed mwy o ddigwyddiadau llwyddiannus.
Dros y 12 mis nesaf maen nhw’n cynllunio i gynnal llwythi o weithgareddau, yn cynnwys dathliadau Dydd Santes Dwynwen / Dydd Sant Ffolant / Dydd Gŵyl Dewi a’r Nadolig. Maen nhw hefyd yn bwriadu trefnu marchnadoedd Gwanwyn, marchnadoedd awyr agored, cymryd rhan lawn yng Ngŵyl Fwyd Aberdâr, a chynnal sesiynau crefft / dysgu yn y farchnad.
“Yn y gorffennol, arferai neuadd y farchnad fod yn ganolbwynt i fywyd a gweithgareddau’r dref. Nid yw Marchnad Aberdâr yn eithriad yn hyn o beth; roedd yn gwasanaethu fel canolbwynt i’r gymuned, ac yn darparu man lle gallai pobl ymgynnull a siopa am nwyddau gan werthwyr lleol. Yn ddi-os, cafodd y pandemig effaith sylweddol ar y lle, ond mae Cymdeithas y Tenantiaid yn cydnabod yr angen i adfer y farchnad fel canolbwynt y gymuned, mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, er budd y dref gyfan. Mae’r cais hwn yn enghraifft wych o’r modd y mae’r gymuned leol a busnesau wedi dod at ei gilydd i adrodd eu straeon eu hunain a sicrhau bod yr ardal yn ffynnu. Mae Aberdâr yn dref hyfryd.” – Kate Breeze, Cyfarwyddwr Gweithredol, Cronfa Gymunedol Fferm Wynt Pen y Cymoedd.
“Mae Cymdeithas Tenantiaid Marchnad Aberdâr yn hynod ddiolchgar o dderbyn y grant hael hwn gan Ben y Cymoedd ac yn falch iawn bod ein gweledigaeth ni o’r dref, gyda’r Farchnad yn galon iddi hi, yn un sy’n apelio’n eang. Rydym wedi gweithio’n galed iawn i sicrhau bod y tenantiaid yn rhan o Gymdeithas y Tenantiaid, ac wedi cynnal cystadlaethau bach drwy gydol y flwyddyn i godi arian ychwanegol; fodd bynnag, nid yw hyn yn ddigon i’n galluogi i gynnal digwyddiadau mwy a gwell ar gyfer ein cwsmeriaid, y trigolion, ac ymwelwyr i’n tref. Mae treftadaeth y Farchnad o’r pwys mwyaf i ni, ac rydym yn gweithio mewn partneriaeth gydag Ein Aberdâr a Chyngor Bwrdeistref Sirol RhCT i adfywio’r dref a’r ardal hyfryd o’i hamgylch. Mae’r Farchnad yn bwysig i nifer fawr o bobl, ac yn enghraifft hyfryd o’n treftadaeth Fictorianaidd; mae angen i ni ddathlu hyn, ac rydym yn benderfynol o barhau – drwy gyfrwng ein hỳb cymunedol newydd a’r cyfraniad hael hwn gan Ben y Cymoedd – i wneud y lle yn galon y dref unwaith eto. Fodd bynnag, mae angen i’r Gymuned fod yn gefn i ni wrth i ni symud ymlaen ar y daith hon.”